Pam mae angen yr ucheldiroedd arnom?

English version available here

Mae ucheldiroedd Cymru yn cynnig mwy na thirweddau dramatig a golygfeydd hardd. Yn y blog hwn, byddwn yn edrych ar y rhesymau pam mae'r ucheldiroedd yn bwysig, a pham mae'n rhaid i ni wneud popeth o fewn ein gallu i'w hamddiffyn.

Mae mapiau nodweddiadol o Gymru, y rhai y byddwch chi'n dod o hyd iddyn nhw ar wal ystafell ddosbarth, fel arfer wedi'u lliwio mewn tri lliw gwahanol. Bydd Ynys Môn, Sir Benfro ac ardaloedd ger yr arfordir yn wyrdd, tra bod y rhan fwyaf o’r tir mewnol naill ai'n felyn neu'n frown.

Beth mae hyn yn ei ddangos i ni? Mae'r arlliwiau melyn a brown yn dynodi ardaloedd uchel, neu mewn geiriau eraill, yr ucheldiroedd. Gwlad fynyddig yw Cymru, ac mae copaon mawreddog Eryri a llwyfandiroedd uchel Bannau Brycheiniog wedi ysbrydoli cenedlaethau lawer.

Mae'r ucheldiroedd yn lleoedd rydyn ni'n mynd iddynt er mwyn dianc o'n bywydau beunyddiol prysur. Mae'r lleoedd hyn hefyd yn bwysig i fywyd gwyllt ac yn darparu gwasanaethau hanfodol i ni (a elwir hefyd yn nwyddau cyhoeddus) fel aer a dŵr glân, amddiffyn rhag llifogydd a phriddoedd iach, i enwi ond ychydig. Maen nhw hefyd yn fregus, ac mae'r ffordd rydyn ni'n rhyngweithio ac yn rheoli'r ucheldiroedd yn cael effaith arnom ni i gyd.

Rhinweddau hudol mawn

Mae cyfran fawr o'n hucheldiroedd yn cynnwys mawn - sylwedd tebyg i bridd sy'n ffurfio pan na all planhigion fel mwsoglau migwyn bydru oherwydd eu bod yn rhy wlyb. Mae'r haenau o ddeunydd organig yn cronni dros filoedd o flynyddoedd, gan greu haenau trwchus o fawn. Mae'r broses hon yn ddefnyddiol am sawl rheswm.

Mae mawndiroedd yn ddalfeydd carbon, sy'n golygu eu bod yn amsugno carbon o'r atmosffer a'i gloi yn y ddaear. Mae gennym sawl ardal o fawndiroedd yng Nghymru, o'r Migneint yn Eryri i orgorsydd RSPB Llyn Efyrnwy ar y Berwyn.  

Mae mawndir nid yn unig yn rhoi carbon dan glo a thrwy hynny’n ein helpu i frwydro yn erbyn newid yn yr hinsawdd - mae hefyd yn storio dŵr. Pan fydd hinsawdd nodweddiadol Cymru yn hyrddio glaw trwm ar ein mynyddoedd a'n llechweddau, mae mawndiroedd yn amsugno llawer iawn o'r dŵr. Mae'r dirwedd yn gweithredu fel sbwng, yn dal y dŵr yn ôl ac yn arafu ei daith i lawr i ddyffrynnoedd yr afonydd islaw. Oherwydd bod y dŵr yn cael ei ryddhau fesul dipyn, mae'n helpu i leihau difrifoldeb llifogydd, gan fod glannau afonydd yn llai tebygol o gael eu gorlethu. Mae'r broses hon hefyd yn glanhau'r dŵr, gan fod mawn yn hidlydd effeithiol iawn sy'n atal llygryddion a silt rhag mynd i mewn i afonydd.


Cynefinoedd cyfoethog

Mae ucheldiroedd Cymru yn lleoedd pwysig ar gyfer bywyd gwyllt, ac fe welwch wahanol gynefinoedd sy'n cynnal gwahanol fathau o blanhigion, anifeiliaid ac adar. Er enghraifft, mae gorgorsydd yn gartref i amrywiaeth gyfoethog o blanhigion a mwsoglau, sy'n cynnal cymunedau o bryfed. Mae'r rhain yn denu adar fel gylfinirod, cwtiaid aur a chornchwiglod. Os ydych chi'n ddigon ffodus, efallai y byddwch hefyd yn gweld bodaod tinwyn yn hofran yn uchel uwch eich pennau.  

Mae cynefin y Ffridd (a geir yn y gororau rhwng yr iseldiroedd a'r ucheldiroedd ac a ddiffinnir gan glytwaith o rostir, glaswellt, rhedyn, eithin a choed) hefyd yn bwysig i fywyd gwyllt. Oherwydd natur fosaig y cynefin hwn, mae'n cynnal amrywiaeth eang o blanhigion, pryfed ac adar. Gallwch ddod o hyd i adar fel creciau’r eithin, mwyalchod y mynydd, corhedyddion y coed a chudyllod bach yma, yn ogystal â gloÿnnod byw brithion a llu o chwilod a phryfed eraill.

Y meddwl a’r corff

Rydym wedi gweld sut y gall ucheldiroedd ein helpu i frwydro yn erbyn newid hinsawdd, atal llifogydd difrifol a darparu cartref i fywyd gwyllt. Mae'r ucheldiroedd hefyd yn chwarae rhan fawr yn ein bywydau personol. Mae llawer ohonom yn mwynhau treulio amser yn y mynyddoedd. Mae'n lle rydyn ni'n mynd iddo i ddod o hyd i gysur a heddwch. Mae'n lloches rhag ein bywydau beunyddiol prysur, ac mae'n cynnig dogn hanfodol o fywyd gwyllt a byd natur i lawer o bobl sy'n byw mewn trefi a dinasoedd. Mae hyn yn bwysig, gan fod treulio amser ym myd natur yn fuddiol am bob math o resymau, o gadw'n heini, yn feddyliol ac yn gorfforol, i greadigrwydd ac ysbrydoliaeth.

Mae'r dirwedd hon yn bwysig i fywyd gwyllt, ac mae'n helpu i ddarparu gwasanaethau hanfodol i'n cymunedau. Fodd bynnag, yn y gorffennol, mae rheolaeth tir anghynaliadwy wedi arwain at ddifrodi ac erydu rhannau o'n hucheldiroedd. Un enghraifft yw pan fydd corsydd mawn yn cael eu draenio i wneud lle ar gyfer coedwigaeth. Mae hyn yn cael sgil-effaith ar bopeth arall sy'n dibynnu arno. Collir cynefinoedd a bywyd gwyllt, ac nid yw'r tir bellach yn storio carbon a dŵr. Ond, wrth i ni ddysgu mwy am bwysigrwydd yr ucheldiroedd, rydyn ni'n gwneud mwy i amddiffyn y dirwedd fregus hon. Rydym yn gweithio gyda ffermwyr i ail-ddraenio'r corsydd mawn, ac mae newidiadau mawr o'n blaenau ar gyfer polisïau rheoli tir yn y dyfodol hefyd, lle byddwn yn gobeithio symud i system sy'n gwobrwyo rheolwyr tir am gyflenwi nwyddau cyhoeddus i ni.

Mae angen yr ucheldiroedd arnom, felly mae'n rhaid i ni wneud popeth o fewn ein gallu i'w cadw'n iach ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

Mae'r RSPB yn gweithio ar brosiectau adfer ucheldir ledled y DU.