English version available here
Mae mawn yn ddeunydd gwyrthiol sy’n llawn rhyfeddodau a thalentau cudd...
Mae mawnogydd yn dirweddau hynod brydferth, ac maent yn hanfodol bwysig i bobl ac i fyd natur. Ond i ddechrau, beth yn union yw mawn? Mae’n ddeunydd tywyll sy’n debyg iawn i bridd, ac mae’n datblygu dros gyfnod o filoedd o flynyddoedd. Mae'n ffurfio mewn amodau gwlyb iawn lle na all planhigion marw a deunydd organig ddadelfennu'n llawn.
Mae yna ddau fath o fawnog: cyforgorsydd, sy’n ffurfio ar iseldiroedd, a gorgorsydd, sy’n ffurfio ar ucheldiroedd. Yng Nghymru, mae yna ardaloedd pwysig o fawnogydd i'w cael, fel y Migneint yn Eryri, Mynyddoedd Cambria a Bannau Brycheiniog. Mae yna ardaloedd pwysig o fawnogydd hefyd i’w cael yn ein gwarchodfeydd RSPB Llyn Efyrnwy, RSPB Ynys-hir ac RSPB Mawddach.
Tirwedd sy’n gyfoethog o ran ei byd natur
Mae mawnogydd yn gynefinoedd pwysig i lu o wahanol adar, planhigion ac anifeiliaid. Mae mwsoglau sffagnwm prin sy'n gallu dal 20 gwaith eu pwysau mewn dŵr yn ffynnu yma, yn ogystal â rhywogaethau o gennau prin. Mae mawnogydd hefyd yn bwysig ar gyfer adar sy'n nythu ar y ddaear fel grugieir coch, grugieir du a boda tinwyn. Gellir gweld yr adar ysglyfaethus trawiadol hyn yng ngwarchodfa RSPB Llyn Efyrnwy, yn ogystal ag yng ngorgorsydd ar y Migneint a Rhos Rhiwabon. Mae adar hirgoes fel gylfinirod, cwtiaid aur a dunlin hefyd yn bridio yma, ac mae'n gynefin pwysig i loÿnnod byw a chwilod.
Sut mae mawn o fudd i bobl?
Mae mawnogydd yn bwysig i bobl yn ogystal ag i fywyd gwyllt. Dewch i ni ddechrau gan ystyried newid hinsawdd. Gan fod ein planed yn cynhesu ar raddfa na welwyd erioed o’r blaen, mae angen i ni leihau ein hallyriadau nwyon tŷ gwydr. Gall natur hefyd ein helpu ni drwy storio carbon yn y tir yn hytrach na'i ryddhau i'r atmosffer.
Dyna’n union y mae mawn yn ei wneud. Fel arfer, pan mae planhigion yn dadelfennu, mae’r carbon sydd wedi’i storio ynddyn nhw yn cael ei ryddhau yn ôl i'r atmosffer. Ond, mae mawnogydd yn storio’r carbon hwnnw. Ledled y DU, mae mawn yn storio 400 miliwn o dunelli o garbon, sef dwbl y carbon y mae holl goedwigoedd y DU gyda’i gilydd yn ei storio. Yng Nghymru, mae gennym ni dros 90,000 ha o ardaloedd sy’n gyfoethog o ran mawn. Mae hynny’n cyfateb i 112,500 o gaeau pêl-droed. Teg yw dweud bod yr ardaloedd hyn yn asedau pwysig wrth i ni fynd i’r afael â newid hinsawdd.
Mae mawnogydd hefyd yn gallu bod yn ddefnyddiol wrth reoli llifogydd. Yn ei hanfod, sbwng mawr sy’n amsugno dŵr yw mawnog. Pan mae hi’n bwrw (sy’n digwydd yn aml yma yng Nghymru!) mae’r dŵr yn cael ei storio mewn gorgorsydd, ac yna’n cael ei ryddhau yn araf i’r môr. Mae hyn yn golygu bod llif y dŵr yn cael ei reoli, sy’n help mawr wrth geisio atal llifogydd annisgwyl. Mae mawnogydd hefyd yn ffynhonnell dŵr gwerthfawr yn ystod cyfnodau sych yr haf, ac mae hefyd yn ymddwyn fel system hidlo dŵr.
Gwarchod mawn
Mae mawnogydd yn bwysig i ni, ond yn anffodus, dydyn ni heb drin y cynefinoedd bregus hyn â'r parch y maent yn ei haeddu. Dros y blynyddoedd, mae ardaloedd mawr wedi cael eu draenio er mwyn gwneud lle ar gyfer ffermio a choedwigaeth. Mae hyn wedi sychu'r mawn a oedd yno, sy’n cyflymu’r broses pydru. Pan mae mawn yn pydru, mae’r carbon sydd wedi’i storio ynddo yn cael ei ryddhau yn ôl i'r atmosffer.
Ond, mae sawl prosiect yn cael ei gynnal ar draws y wlad i geisio dadwneud y gostyngiad hwn. Yma yng Nghymru, yn RSPB Llyn Efyrnwy, mae prosiect LIFE yr UE wedi ein galluogi i flocio 10 km o ffosydd, gan alluogi i'r tir ddychwelyd i’w gyflwr blaenorol drwy ei ailwlychu. Bydd hyn yn galluogi i fawn storio carbon unwaith eto. Rydyn ni hefyd yn gweithio gyda ffermwyr sy’n ystyriol o fyd natur er mwyn rheoli mawnogydd mewn ffordd sy’n gweithio i fyd natur ac i bobl.
Mewn byd sydd dan fygythiad gan argyfwng ecolegol ac argyfwng hinsawdd, mae angen i ni wneud popeth o fewn ein gallu i amddiffyn y llefydd arbennig hyn.