Arian cyhoeddus ar gyfer nwyddau cyhoeddus

English version available here.

Arian cyhoeddus am Nwyddau Cyhoeddus

Mae’n siŵr bod darllenwyr rheolaidd blogiau We Love Wales wedi dod ar draws y term ‘arian cyhoeddus am nwyddau cyhoeddus’. Ond beth mae ‘nwyddau cyhoeddus’ yn ei olygu, clywaf chi’n gofyn? Wel, nid chi yw’r unig un, gan ei fod yn derm anghyfarwydd i lawer. Dyma ein hymgais i egluro beth rydyn ni’n ei olygu wrth nwyddau cyhoeddus (arhoswch efo ni – efallai na fydd mor gymhleth ag yr ydych yn tybio!)

Yn syml, nwyddau cyhoeddus yw pethau sydd eu hangen arnom ni fel cymdeithas ond na allwn eu prynu. Felly, rydyn ni’n sôn am nwyddau a gwasanaethau hanfodol fel byd natur a’r manteision y mae natur yn eu darparu inni fel aer glân a dŵr, pryfed peillio a chynefinoedd fel coetiroedd a mawndir sy’n helpu i storio carbon (i fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd) a’n diogelu rhag llifogydd.

Mewn iaith dechnegol mae nwyddau cyhoeddus yn anghyfyngedig, sy’n golygu bod y manteision ar gael i bawb, ac maen nhw hefyd yn anghystadleuol, sy’n golygu nad yw faint ohonynt sydd ar gael i eraill yn lleihau wrth i un person ddefnyddio’r nwydd. Er enghraifft, os bydd lles emosiynol un person yn elwa o gysylltiad â natur, nid yw’n atal person arall rhag elwa yn yr un ffordd. Yn yr un modd, nid yw un person yn anadlu aer glân i mewn yn amddifadu person arall o’r un fraint.

Fel y gwelwch chi, mae’r stwff yma’n bwysig iawn – ond allwn ni mo’i brynu.

Ffermio a Nwyddau Cyhoeddus

Felly, beth mae hyn yn ei olygu yng nghyd-destun polisi ffermio a rheoli tir newydd i Gymru? Beth yw’r berthynas rhwng ffermio a nwyddau cyhoeddus? Wel, mae gan ffermio cynaliadwy rôl enfawr i’w chwarae o ran darparu nwyddau cyhoeddus amgylcheddol (wedi’r cyfan, mae dros 80% o Gymru yn cael ei ffermio mewn rhyw ffordd neu’i gilydd), a dyma rai enghreifftiau:

  • Mae da byw sy’n pori yn arf rheoli cynefinoedd ardderchog, a phan gaiff ei ddefnyddio’n briodol, gall ddarparu cartrefi ar gyfer amrywiaeth enfawr o fywyd gwyllt, gan gynnwys rhai o’n rhywogaethau mwyaf eiconig fel y gylfinir a’r cwtiad aur. Mae’r cartrefi hyn, fel corsydd ucheldir er enghraifft, hefyd o fudd i ni’n uniongyrchol drwy storio llawer iawn o garbon atmosfferig a dŵr yfed.

  • Mae gweirgloddiau traddodiadol llawn blodau gwyllt yn darparu bwyd gwerthfawr i’n pryfed peillio a natur arall, ac, i’r rheini ohonom sy’n ffodus i’w gweld, maent yn bleser pur a gallant fod o fudd mawr i’n lles.

  • Gall ein coetiroedd, ein gwrychoedd a’n coed unigol, yn ogystal â bod yn hanfodol ar gyfer byd natur, helpu i leihau llifogydd a storio carbon a chloi carbon am ganrifoedd.

Rydym wedi bod yn galw ers tro am bolisi ffermio a rheoli tir i Gymru sy’n defnyddio arian trethdalwyr i wobrwyo ffermwyr am ddiogelu’r nwyddau cyhoeddus amgylcheddol hyn. Bydd yn gwneud gwahaniaeth aruthrol i wrthdroi’r dirywiad mewn bywyd gwyllt yng Nghymru ac adfer ein hamgylchedd. Ac er nad yw bwyd ei hun yn nwydd cyhoeddus (oherwydd gallwn ei brynu), bydd polisi sy’n adfer natur hefyd yn cefnogi cynhyrchu bwyd, oherwydd ni allwn gynhyrchu bwyd heb amgylchedd naturiol iach.  

Mae llawer o ffermwyr, fel Hilary Kehoe yng Ngogledd Cymru, yn tynnu sylw at y ffaith bod ffermio sy’n ystyriol o natur yn well i fusnesau, gan eu bod yn gallu ymdopi’n well â materion fel llifogydd, sychder ac erydu pridd. Mae’r adroddiad diweddar hwn hefyd yn dangos y gall ffermio sy’n ystyriol o natur fod yn fwy proffidiol. Mae’r Rhwydwaith Ffermio sy’n Ystyriol o Natur yn taro’r hoelen ar ei phen;

“Credwn fod ffermio sy’n ystyriol o natur nid yn unig yn well i fyd natur, ond hefyd mai dyma’r ffordd fwyaf cynhyrchiol a chynaliadwy o gael bwyd o’n tir”

Mae gwobrwyo ffermwyr yn ddigonol am ddarparu’r nwyddau cyhoeddus hyn yn creu taliad newydd a diogel i ffermwyr nad yw ffactorau allanol, megis newidiadau ym mhrisiau bwyd, gwerth y bunt neu amharu ar gadwyni cyflenwi bwyd, yn effeithio arno. Gall hyn, ynghyd â help i wneud cynhyrchu bwyd yn effeithlon a chynaliadwy, arwain at bolisi sy’n gweithio i ffermwyr, natur a chymdeithas. A phwy sydd ddim eisiau hynny?

Cadwch lygad ar y cyfryngau cymdeithasol dros yr wythnosau nesaf, lle byddwn yn dangos enghreifftiau ichi o nwyddau cyhoeddus ar ffermydd!