English version available here.
*** Diweddariad – 17/12/20 *** Mae Llywodraeth Cymru wedi lansio ei hymgynghoriad ar y Papur Gwyn ar Amaethyddiaeth (Cymru), sy’n ceisio diwygio’r ffordd y rhoddir cefnogaeth i fyd ffermio dros y 15 i 20 mlynedd nesaf. Mae RSPB Cymru yn falch o weld bod amcanion y Llywodraeth ar gyfer amaethyddiaeth yn cynnwys cynhyrchu bwyd cynaliadwy, cymryd camau i ymateb i’r argyfwng hinsawdd a helpu i wrthdroi’r dirywiad mewn bioamrywiaeth.
Bydd cymorth i ffermio yn y dyfodol yn seiliedig ar yr egwyddor o ddefnyddio arian cyhoeddus ar gyfer nwyddau cyhoeddus, gyda’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy yn cael ei gyflwyno i wobrwyo ffermwyr yn briodol am sicrhau budd i’r amgylchedd fel gwella iechyd pridd, darparu aer a dŵr glân, gwell bioamrywiaeth a mynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd.
Mae Llywodraeth Cymru yn awyddus i glywed eich barn am y cynigion, a disgwylir ymatebion erbyn 25 Mawrth 2021. Dyma gyfle gwych i sicrhau dyfodol lle bydd ffermio a byd natur yn ffynnu!Ein hymateb i ymgynghoriad ‘Ffermio Cynaliadwy a’n Tir’ gan Lywodraeth Cymru a gyhoeddwyd 6 Mai 2020
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi crynodeb o’r ymatebion i’w hymgynghoriad ar Ffermio Cynaliadwy a’n Tir. Daw hyn mewn cyfnod o dystiolaeth ryngwladol gynyddol bod angen dybryd i ni ddatblygu arferion ffermio a rheoli tir sy’n gallu ymateb i’r heriau amgylcheddol sy’n dwysáu yn ogystal â chynhyrchu bwyd mewn modd cynaliadwy.
Mae RSPB Cymru yn croesawu’r adroddiad, sy’n tynnu sylw at y cymorth eang sydd ar gael i ddisodli polisïau ffermio diffygiol gyda fframwaith i hyrwyddo a gwobrwyo arferion cynaliadwy o ffermio a rheoli’r tir. Fodd bynnag, rydym yn poeni am y tensiwn sydd heb ei ddatrys yn ein barn ni rhwng y bwriad i dalu ffermwyr am adfer yr amgylchedd a diogelu'r cyflenwad bwyd, gyda rhai hyd yn oed yn galw am barhau i ddefnyddio arian cyhoeddus er mwyn rhoi cymhorthdal i gynhyrchu bwyd.
O gofio’r pwysau cynyddol ar bwrs y wlad ar hyn o bryd, mae’n hanfodol bod yr arian hwnnw’n cyflawni’r gwerth cyhoeddus mwyaf posibl. Credwn mai’r ffordd orau o ddefnyddio arian gwerthfawr y trethdalwr fyddai i lunio polisi i’r dyfodol a fydd yn gwella effeithlonrwydd cynhyrchu bwyd, yn arfogi ffermydd i ymateb i farchnadoedd bwyd sy’n esblygu, ac sy’n talu ffermwyr a rheolwyr tir eraill i adfer natur. Byddai ein dull ariannu ni yn rhoi’r gorau i dalu arian cyhoeddus am faint o dir sy’n cael ei ffermio neu faint o fwyd a gynhyrchir.
Byddai buddsoddi mewn adfer ein byd natur yn arwain at fanteision di-ri i bobl Cymru. Byddai’n gwneud cyfraniad sylweddol at sicrhau amgylchedd iach i bob un ohonom, yn helpu i fynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd (drwy gloi carbon atmosfferig mewn coetiroedd a mawndiroedd), ac yn cynnal ein gallu yn yr hirdymor i gynhyrchu bwyd drwy wella amodau pridd a dŵr. Gallai hefyd helpu i osod y seiliau amgylcheddol am adferiad ehangach wrth ymateb i’r argyfwng Covid-19 presennol, sydd mor bwysig os yw Cymru o ddifri am fod yn wlad gynaliadwy yng ngwir ystyr y gair.
Mae’n debyg mai hwn yw’r cyfle gorau, a’r unig gyfle efallai, i osod fframwaith ffermio a rheoli tir newydd a fydd yn sicrhau bod arian cyhoeddus yn cael ei ddefnyddio mewn ffordd sy’n fuddiol i natur, sy’n helpu cymdeithas, ac sy’n deg i ffermwyr. Erfyniwn ar Lywodraeth Cymru i fwrw ymlaen â’i chynigion presennol ar gyfer ffermio a rheoli tir yn gynaliadwy, gan gynnwys defnyddio arian cyhoeddus ar gyfer nwyddau cyhoeddus, fel ein bod i gyd yn gallu elwa o Gymru sy’n gyfoethog ei natur ac sy’n gallu bwydo’r genhedlaeth hon a chenedlaethau’r dyfodol.