I ddarllen y blog yma yn Saesneg, cliciwch yma os gwelwch yn dda.

Mae’r nosweithiau oer a thywyll wedi cyrraedd, y dail dan ein traed yn troi’n rhewllyd ac yn grimp tra mae ein bywyd gwyllt yn paratoi ar gyfer y gaeaf. Mae draenogod yn gaeafgysgu, gwiwerod yn chwilota am fwyd a rhai o’n hadar poblogaidd yn dechrau ar eu taith lafurus i chwilio am dywydd cynhesach.

Gyda’r fath newidiadau gwleidyddol ac amgylcheddol yn digwydd ar draws y byd, ni fu amser mwy addas i werthfawrogi’r bywyd gwyllt o’n cwmpas. Felly, wrth i’r tymhorau newid ac wrth i’r Nadolig nesáu, roeddem yn meddwl ei bod yn briodol edrych yn ôl ar y flwyddyn a fu, a threulio amser yn dathlu’r bywyd gwyllt sy’n annwyl i ni.

Fel yr arfer, dechreuodd 2016 gyda thamaid o gacen dda a phaned wrth i ni gyfrif yr adar yn ein gerddi ar gyfer ymgyrch flynyddol Gwylio Adar yr Ardd yr RSPB. Cymerodd dros 24,000 o bobl ran yng Nghymru eleni, gan gyfrif bron i 490,000 o adar. Aderyn y to oedd yr aderyn a welwyd amlaf yn ein gerddi unwaith eto, gyda’r titw tomos las a’r drudwy hefyd yn y tri uchaf. Ymlaen â ni rŵan at Wylio Adar yr Ardd 2017, a gaiff ei chynnal rhwng 28 a 30 Ionawr.


Uchod: llun gan Rahul Thanki (rspb-images.com)

Bu 2016 yn flwyddyn hynod gofiadwy o ran ymgyrchu byd natur yng Nghymru. Wrth i boblogaethau byd-eang gwyddau talcenwyn yr Ynys Las ddioddef, rhoesom lais cryf i’r adar prin hyn. Yn ogystal, cawsom ymateb aruthrol gan aelodau a chefnogwyr i atal cynlluniau i ddargyfeirio traffordd yr M4 rhag torri drwy ganol gwastadeddau hyfryd Gwent. Fe wnaeth dros 5,000 o bobl safiad dros natur a gofyn i’n gwleidyddion ailfeddwl eu cynlluniau i niweidio un o dirweddau pwysicaf Cymru.

Gyda 2016 yn Flwyddyn Antur yng Nghymru, bu’n daith gyffrous i’n gwarchodfeydd natur. Fe wnaethom agor man chwarae natur yn RSPB Llyn Efyrnwy a datblygu adnoddau dehongli bywyd gwyllt rhyngweithiol gwych yn RSPB Conwy. Mae niferoedd aderyn drycin Manaw ar eu huchaf erioed yn RSPB Ynys Dewi, gyda dau bâr yn llwyddo i ddefnyddio blychau nythu artiffisial i fagu cywion - y tro cyntaf erioed i hyn ddigwydd yn achos y rhywogaeth hon. Ac yn olaf, ond yn sicr nid y lleiaf, roeddem yn hynod falch o gyhoeddi fod aderyn y bwn wedi dychwelyd i RSPB Malltraeth a nythu yn y warchodfa - y tro cyntaf mewn 32 o flynyddoedd yng Nghymru. Wrth edrych ymlaen at Flwyddyn Chwedlau yng Nghymru yn 2017, rydym yn awyddus i weld pa straeon chwedlonol o fyd natur a gawn ni. 



Uchod: aderyn y bwn gan Ben Andrew (rspb-images.com)

Bu 2016 hefyd yn flwyddyn gydweithredol, arloesol a chreadigol i fywyd gwyllt. Rydym wedi cael digwyddiadau rhithwir yng nghanol Parc Bute yng Nghaerdydd, wrth i ni ymuno â sefydliad celfyddydol Migrations ym mis Gorffennaf. Gan wisgo ffonau pen wedi’u deilwra, cafodd y cyhoedd brofiad o’r byd o’r newydd drwy lygaid gwybedyn, gwas y neidr, llyffant a thylluan. Yna buom yn codi ymwybyddiaeth am gyflwr ein bywyd gwyllt ym mis Medi, gyda lansiad cyhoeddus adroddiad Sefyllfa Byd Natur: Cymru 2016 - wrth i farddoniaeth, beat boxing a brain coesgoch wyth troedfedd o uchder uno yn enw byd natur. Ac wrth i'r flwyddyn ddod i ben, buom yn mwynhau Cân yr Adar eithaf unigryw gan yr artistiaid Kizzy Crawford, Gwilym Simcock a Sinofnia Cymru, wrth iddyn nhw berfformio cyfres o ganeuon newydd wedi eu hysbrydoli gan fywyd gwyllt RSPB Carngafallt.

Uchod: Drwy Lygaid yr Anifail gan Martyn Poyner, Organised Kaos gan Callum Baker,
Gwylim Simcock a Kizzy Crawford, ac Ed Holden gan Callum Baker

Yn 2016 yn unig yng Nghymru, buom yn gweithio gyda chriw gwych o 600 o wirfoddolwyr ymroddedig, yn ennyn diddordeb swm anhygoel o 40,000 o blant ym myd natur ac yn parhau i amddiffyn mannau naturiol unigryw sy’n golygu cymaint i ni. 

Gall y dasg o achub byd natur deimlo fel brwydr galed weithiau, ond os byddwn yn parhau i weithio gyda’n gilydd a gwerthfawrogi’r bywyd gwyllt rydym mor hoff ohono, yna bydd 2017 yn sicr yn flwyddyn i’w chofio. Wedi’r cwbl, os gofalwn ni am fyd natur, fe wnaiff byd natur ofalu amdanom ni.