To read this blog un English, please click here.Ydych chi erioed wedi meddwl sut beth yw bod yn anifail yn y goedwig? I hedfan fel tylluan, neidio fel llyffant neu symud eich adenydd fel gwas y neidr? Wel, roedd ymwelwyr yn gallu gwneud hyn yn union yng nghalon Parc Bute yng Nghaerdydd y mis Gorffennaf hwn. Yn dilyn llwyddiant TAPE ym Mharc Bute mis Awst diwethaf – a welodd gwe pryf cop anferth yn cael ei hadeiladu yn y coed – daeth prosiect Rhoi Cartref i Natur yng Nghaerdydd â’r gwyllt yn fyw drwy fenter rithwir, gyda’r enw priodol, Drwy Lygaid yr Anifail. Wrth weithio gyda chrewyr, Marshmallow Laser Feast a’r sefydliad celfyddydol, Migrations, gwahoddwyd y cyhoedd i brofi’r byd o’r newydd drwy brofiad rhithwir 360 gradd yng nghanol y coed. Drwy gadw eu traed yn gadarn ar lawr y goedwig, roedd ymwelwyr yn gwisgo pensetiau rhithwir arbenigol - wedi’u cuddliwio’n ofalus yn y coed gan gen a mwsogl. Aethpwyd â hwy wedyn ar siwrnai aml-synhwyrol drwy lygaid gwybedyn, gwas y neidr, llyffant a thylluan sy’n frodorol i Barc Bute. Law yn llaw â hyn cafodd ymwelwyr y cyfle i fwynhau gweithgareddau hwyl i’r teulu, y cyfan gyda naws digidol - o helfeydd bywyd gwyllt yn y coedydd at saffaris natur yn y gwyllt.
Lluniau: Martyn Poynor Roedd Drwy Lygaid yr Anifail yn ddigwyddiad hollol rad ac am ddim a chafodd ei redeg gan 25 o wirfoddolwyr eithriadol o ymroddedig - y cyfan yn rhoddi 800 awr werthfawr o’u hamser er mwyn helpu byd natur yr haf hwn. Darparodd y gwirfoddolwyr eiliad wirioneddol hudol i dros 2,800 o ymwelwyr ymysg y coed, gan eu trochi ym mywyd gwyllt coetir y parc. Er bod y fenter wedi dod i ben ar 4 Awst, gall Drwy Lygaid yr Anifail barhau i fyw yn awr. Drwy weithio gyda Chyfeillion Parc Bute, byddwn yn gwrthbwyso’r ôl-troed carbon a ddefnyddiwyd gyda’r fenter drwy roi cymorth i fyd natur a phlannu coed prydferth yn y parc. Rydym ni’n ffodus o gael parciau a mannau gwyrdd gwych yng Nghaerdydd, ond ambell waith gall fod yn rhy hawdd i fyw mewn dinas heb feddwl yn iawn am y byd naturiol o’n cwmpas. Roedd Drwy Lygaid yr Anifail yn caniatáu ymwelwyr i uniaethu â’r bywyd gwyllt ar eu stepen drws o safbwynt hollol newydd haf yma, gan ychwanegu at y rhyfeddod y mae’r byd naturiol yn ei greu. Rydym ni wastad yn edrych am wirfoddolwyr newydd i ymuno â theulu Rhoi Cartref i Natur yng Nghaerdydd, ac felly os ydych chi’n dymuno bod yn rhan o’r tîm, anfonwch ebost at cymru@rspb.org.uk os gwelwch yn dda. “Anhygoel, da, hwyl, rhyfeddol” "Roedd y teimlad yn wych ac roedd gallu gweld y byd fel anifail yn gwneud i chi sylwi pwysigrwydd ein hanifeiliaid" "Diddorol a chofiadwy" "Byd rhyfeddol arall" "Yn hollol wych a rhoddodd y cyfle i mi brofi rhywbeth hollol newydd" (Uchod: rhai o’r sylwadau gan aelodau o’r cyhoedd a fu’n cymryd rhan)