To read this blog in English click here

Siom aruthrol am benderfyniad Llywodraeth Cymru i beidio gwahardd saethu gwyddau talcenwyn

Pan mae niferoedd rhywogaeth yn gostwng mor gyflym fel ei bod dan fygythiad o ddiflannu'n llwyr, fe fyddech chi'n meddwl mai'r peth lleiaf fedrai'r rheiny sydd mewn grym ei wneud yw cynnig amddiffyniad cyfreithiol i atal pobol rhag ei saethu. Wel, yn sicr nid yw hyn yn wir am un rhywogaeth yma yng Nghymru.

Mae gwyddau talcenwyn yr Ynys Las mewn perygl ac o dan fygythiad difrifol o ddiflannu'n llwyr o'r byd 'ma. Mae'r boblogaeth fyd-eang yn is na 20,000 o adar ac mae'r nifer sy'n gaeafu yma yng Nghymru yn argyfyngus o isel. Yn y 1990au hwyr, fe fu dros 160 o adar yn dychwelyd i'w safle gaeafu rheolaidd ar aber yr Afon Dyfi. Mae'r ffigwr hwnnw bellach wedi gostwng i 'mond 24 y llynedd, gyda niferoedd bychain wedi'u gweld mewn un neu ddau o leoedd eraill yng ngogledd Cymru. Ond, yn rhyfeddol, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru’r wythnos hon (17 Awst) na fyddai'n gweithredu gwaharddiad llwyr ar saethu gwyddau talcen-wyn ar draws Cymru. Nid yw'n glir sut y daeth Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig i'r penderfyniad hwn, ond yr hyn yr ydym yn ei wybod yw ei bod hi wedi mynd yn groes i gyngor Cyfoeth Naturiol Cymru, corff statudol cadwraeth natur a rheolydd amgylcheddol Llywodraeth Cymru, yn ogystal â barn nifer o sefydliadau cadwraeth Cymru a nifer fawr o unigolion eraill.

Ffoto: Andy Hay (rspb-images.com)

Rydym yn gwybod hyn oherwydd, ym mis Chwefror 2016, lansiodd Llywodraeth Cymru ymgynghoriad cyhoeddus i hel adborth ar amrywiol opsiynau ar sut i hyrwyddo cadwraeth y ddwy hil o wyddau talcenwyn yng Nghymru: gŵydd dalcenwyn yr Ynys Las sydd mewn peryg byd eang, a'r gŵydd dalcenwyn Ewropeaidd sydd yn fwy cyffredin yn rhyngwladol ond sydd o dan fygythiad ar lefel Brydeinig. Roedd yr opsiynau a gynigiwyd yn amrywio o waharddiad llwyr ar saethu gwyddau talcenwyn, i barhau i gynnal y gwaharddiad gwirfoddol sydd mewn grym ar hyn o bryd ar saethu dim ond gwyddau o hil yr Ynys Las ar dir y mae gan glybiau ffowlera hawliau penodol i saethu.

Anogodd RSPB Cymru y cyhoedd i ofyn i Lywodraeth Cymru i gyflwyno gwaharddiad llwyr ar saethu'r ddwy hil o'r gwyddau hyn. Rydym wrth ein bodd i ddweud bod 75% o'r rheiny wnaeth ymateb i'r ymgynghoriad gefnogi'r opsiwn ar gyfer gwaharddiad llwyr, a dim ond 6% wnaeth gwrthwynebu'r opsiwn hwn. Gallwch weld crynodeb llawn o'r ymatebion yma (Saesneg yn unig).

Ond doedd y pwysau mawr yma am waharddiad llwyr yn amlwg ddim yn ddigon i Lywodraeth Cymru, a dewisodd yn hytrach i gadw'r gwaharddiad gwirfoddol sydd mewn grym ar hyn o bryd. Mae hyn bellach yn gadael Cymru fel yr unig wlad yn y byd lle mae teuluoedd o wyddau talcenwyn yr Ynys Las yn gaeafu yn rheolaidd, lle nad ydynt yn cael eu diogelu gan y gyfraith rhag cael ei saethu.

Mae'n amlwg ein bod ni ‘di cael siom aruthrol gyda'r penderfyniad hwn, yn enwedig gan fod Llywodraeth Cymru yn hawlio yn ei datganiad ei fod yn “hanfodol ein bod yn gwneud popeth y gallwn i ddiogelu'r aderyn eiconig hwn”! Mae ein Llywodraeth ar flaen y gad gyda'i geiriau teg am fyd natur, ond tydy'n nhw ddim yn cyflawni ei dyletswydd trwy gyflawni'r camau cadwraeth sydd eu hangen.

Mae poblogaeth y byd o'r gwyddau hyn yn gostwng yn ddifrifol ac, er bod y gwaharddiad gwirfoddol presennol wedi bod yn llwyddiannus hyd yma lle mae'r clybiau ffowlera yn saethu, ni all fesurau gwirfoddol amddiffyn yr adar hyn yn y llefydd hynny lle nad oes cytundeb gwirfoddol yn ei le: wrth iddyn nhw hedfan wrth fudo, neu yn ystod y cyfnodau hynny pan maen nhw'n symud rhwng eu safleoedd clwydo a chwilota am fwyd.

Dylai Llywodraeth Cymru yn awr ymrwymo i ariannu nid yn unig yr ymchwil ychwanegol y mae wedi ymrwymo iddo yn ei datganiad, ond hefyd i weithredu’r camau cadwraethol dilynol sy'n deillio o'r astudiaeth hon, er mwyn sicrhau bod Cymru yn chwarae ei rhan wrth achub yr adar mudol trawiadol yma a sicrhau eu bod yn rhan o'n tirlun am genedlaethau i ddod.