To read this blog in English please click here.

Wrth i Groeso Cymru ddathlu’r Flwyddyn Antur, rydym ni’n eich gwahodd i ryddhau’r anian wyllt sydd ynoch a chamu i’r awyr agored.

Mae antur yn ysgogi meddyliau lu; mae’n gyffrous, mae’n feiddgar ac weithiau mae’n her. I rai, gallai olygu rhoi cynnig ar chwaraeon eithafol, neu fynd ar daith goginio o bosib. Eleni, fodd bynnag, wrth i Gymru ddathlu “popeth epig” yn ystod ei Blwyddyn Antur,  hoffwn ni eich herio i fynd ar antur yn eich gwarchodfa natur agosaf.

O deithiau cerdded ysblennydd i fywyd gwyllt anhygoel, mae’r cyfan i’w gael yn ein gwarchodfeydd natur ni, a maent yn leoliad perffaith ar gyfer eich antur wyllt eich hunain. Felly eleni, dihangwch rhag straen a phrysurdeb bywyd bob dydd a mentrwch i ryfeddod yr anghyfarwydd - ar hyd clogwyni arfordirol trawiadol RSPB Ynys Lawd neu RSPB Ynys Dewi efallai; neu drwy archwilio hanes naturiol rhyfeddol RSPB Conwy; coedwigoedd clychau’r gog hardd RSPB Ynys-hir; drwy fwynhau taith feicio o amgylch RSPB Llyn Efyrnwy neu drwy ymweld â chorsydd tawel RSPB Gwlyptiroedd Casnewydd.

Nid oes angen i chi fod mewn cariad â chwaraeon eithafol i fwynhau antur go iawn yng Nghymru - mae’r antur hwnnw ar gael ym mhob lliw a llun. Drwy ymweld â’n gwarch odfeydd natur, gall teuluoedd fwynhau anturiaethau newydd ac annisgwyl trwy ganfod hynodrwydd a rhyfeddod y bywyd gwyllt o’u cwmpas. P’un a ydynt yn mwynhau’r golygfeydd godidog, yn cael cip ar adar hardd, yn chwilota am fwystfilod bach, yn cael picnic yn yr haul, neu’n baeddu yn y baw - mae rhywbeth yno i bawb.

Teithiau canfod yw’r anturiaethau gorau - maent yn aros yn y cof ac yn creu argraff am byth. Pan fyddwch chi yng nghanol byd natur, nid yn unig y bydd yn gwneud i chi deimlo’n fwy egnïol, ond bydd yn tanio dychymyg plant ac oedolion fel ei gilydd, gan greu oes o antur.

Rydym ni’n cynnal amrywiaeth o ddigwyddiadau antur ar draws ein gwarchodfeydd sydd yn cynnig oriau o hwyl i’r teulu cyfan. Am ragor o wybodaeth ewch i www.rspb.org.uk/events.