To read this blog in English please click here.

Mae RSPB Conwy, a saif ychydig oddi ar yr A55, yn gartref i lu o rywogaethau, o regen y dŵr a thelorion hyfryd i wyfynod a gweision neidr, ac yn aml gyda’r gwyll bydd cyfle i ymwelwyr wylio miloedd o ddrudwennod sy’n cyrraedd mewn heidiau mawr i glwydo.

Diolch i gefnogaeth hael Cronfa Dreftadaeth y Loteri (CDL), mi fydd hi’n bosib i ymwelwyr brofi hyn oll a mwy, wrth iddynt gael eu gwahodd i fwynhau profiad rhyngweithiol i ddathlu treftadaeth naturiol RSPB Conwy a teimlo’n agosach at fyd natur gwanwyn yma.

Clustnodwyd £33,600 o GDL a byddwn yn recriwtio 20 o wirfoddolwyr yn RSPB Conwy a fydd yn darparu dehongliad byw o fywyd gwyllt ac yn adrodd straeon byd natur i’r ymwelwyr. Byddwn hefyd yn defnyddio offer rhyngweithiol newydd, megis pwyntiau sain a thelesgopau, i annog teuluoedd i grwydro ymhellach i’r gwlyptir er mwyn iddynt werthfawrogi’r byd natur toreithiog.

Ar hyn o bryd dim ond hanner o’n hymwelwyr sy’n dewis cerdded y llwybrau natur yn RSPB Conwy. O ganlyniad, mae llawer felly’n methu’r profiadau difyr a chofiadwy sydd gennym i’w cynnig yma. Rydym yn awyddus i oedolion a phlant grwydro i ganol y warchodfa er mwyn iddyn nhw gael y profiad o fwynhau byd natur. Ein dymuniad yw eu gweld yn cael eu hysbrydoli gan eu profiadau er mwyn iddynt gymryd camau bach a syml i warchod ein treftadaeth naturiol am flynyddoedd lawer i ddod.

Bydd yr arian hefyd yn darparu gwell gwarchodaeth i adar dŵr sy’n clwydo ac yn nythu ar lagwnau’r warchodfa, yn ogystal â darparu man canolog i wirfoddolwyr rannu straeon ac yn eu tro gwella ymweliadau â RSPB Conwy.

Rydym yn edrych ymlaen yn fawr i weld pa gyfleoedd a ddaw yn sgil y fenter hon ac i gael gweithio gyda gwirfoddolwyr newydd a fydd yn cydweithio â ni i wireddu’r weledigaeth. Felly os ydych chi’n gwirioni ar fywyd gwyllt ac os hoffech fod yn rhan o’n tîm gwych o wirfoddolwyr, yna cofiwch gysylltu oherwydd byddem wrth ein bodd yn clywed gennych chi. Am wybodaeth pellach ebostiwch cymru@rspb.org.uk os gwelwch yn dda.