English version available here
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cynnal adolygiad trwyadl o’i bolisïau ar ladd adar o dan drwydded. Fe wnaethon ni gyfrannu tystiolaeth a’n profiad i’r adolygiad hwn, ac fe wnaethon ni hefyd annog ein cefnogwyr i roi eu barn. Mae’r blog hwn yn crynhoi ein syniadau ac yn amlinellu rhai materion cymhleth sy’n dal heb eu datrys.
Y gyfraith
Mae gan bob aderyn, eu hwyau a’u nythod warchodaeth gyfreithiol lawn - statws a enillwyd yn dilyn gwaith caled gan gadwraethwyr dros sawl cenhedlaeth yn yr 20fed ganrif. Ni ddylid caniatáu i adar gael eu lladd yn gyfreithlon ar chwarae bach. Ond, rydyn ni’n cydnabod bod adegau pan fydd rhaid gwneud hynny – fel dewis olaf. Dyna pam ei bod yn bwysig bod gan Cyfoeth Naturiol Cymru system gadarn a thryloyw i reoleiddio’r hawliau hyn.
Er mwyn cael dal neu ladd y rhan fwyaf o rywogaethau adar, mae angen i chi wneud cais am drwydded gan Cyfoeth Naturiol Cymru, a fydd yn penderfynu a ddylid rhoi caniatâd ar sail y dystiolaeth a ddarparwyd. Mae Trwyddedau Cyffredinol yn wahanol: Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn gwneud asesiad bod y profion tystiolaeth yn cael eu bodloni ar gyfer nifer fach o rywogaethau mewn amgylchiadau penodol, ac felly mae unrhyw un yn cael lladd yr adar hyn ar yr amod eu bod yn gallu bodloni’r amodau.
Mae RSPB Cymru yn credu nad yw Trwyddedau Cyffredinol yn addas i’r diben fel y maen nhw wedi cael eu strwythuro ar hyn o bryd ond mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi penderfynu parhau â nhw.
Y Trwyddedau newydd
Bydd y rhain yn dod i rym ar 1 Gorffennaf 2022 a byddan nhw’n cynnwys rhai gwelliannau mawr o ran y telerau a’r amgylchiadau y gellir eu defnyddio. Mae llawer o hyn yn dechnegol, a gallwch chi ddarllen am y manylion yn y dogfennau a gyhoeddwyd ar wefan Cyfoeth Naturiol Cymru. Y prif benawdau yw:
Mae’r ymateb gan rai wedi awgrymu y bydd y newidiadau hyn yn drychinebus i gadwraeth natur, ond dydyn ni ddim yn cytuno. Pan fydd problem yn codi nad oes modd ei datrys drwy ddulliau sydd ddim yn rhai angheuol, gall Cyfoeth Naturiol Cymru roi trwydded benodol i fynd i’r afael â hynny.
Mae’n mynnu bod rhywun yn estyn y pin ysgrifennu cyn y gwn, ond gan fod hyn yn golygu lladd adar sydd wedi’u gwarchod, mae hynny’n ymddangos yn ddigon teg i ni. Yn yr ychydig achosion lle rydyn ni’n rheoli brain tyddyn ar Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) fel rhan o’n gwaith adfer rhywogaethau, nid yw wedi bod yn broblem i ni wneud cais am drwyddedau i wneud hyn.
Rydyn ni’n falch bod y newidiadau a wnaed yn 2019 wedi cael eu cadw, a oedd yn cynnwys tynnu ydfrain oddi ar Drwyddedau Cyffredinol ac eithrio eu defnydd mewn nifer o ardaloedd gwarchodedig sydd wedi cael eu dynodi ar gyfer adar. Roedden ni’n siomedig nad oedd Cyfoeth Naturiol Cymru wedi ystyried defnyddio trwyddedau dosbarth yn hytrach na thrwyddedau cyffredinol, nac wedi mynnu bod defnyddwyr yn rhoi gwybod am nifer yr adar sy’n cael eu lladd, er mwyn cyfrannu at bolisi yn y dyfodol. Rydyn ni hefyd yn credu fod Cyfoeth Naturiol Cymru wedi colli cyfle i helpu gyda gorfodaeth drwy fynnu bod trapiau cawell brain yn cael eu cofrestru, fel sydd eisoes yn ofynnol yn yr Alban, er ei fod wedi dweud y bydd yn cadw golwg ar hyn.
Dydyn ni ddim, o bell ffordd, yn cytuno â phopeth am y Trwyddedau Cyffredinol newydd, ond rydyn ni’n credu y byddai llywodraethau yn yr Alban, Gogledd Iwerddon a Lloegr yn gwneud yn dda i edrych ar yr un dystiolaeth ag y mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi edrych arno er mwyn gwneud ei benderfyniadau.