English version available here.
Heddiw, mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn cyflwyno newidiadau i’r Trwyddedau Cyffredinol, sy’n caniatáu i rai adar gael eu lladd. Mae Julian Hughes, Pennaeth Rhywogaethau RSPB Cymru yn egluro beth y mae hyn yn ei olygu a beth yr ydym ni yn feddwl ynglŷn â’r newidiadau.
Trwyddedau ar gyfer lladd
Mae’r holl adar gwyllt, eu hwyau a’u nythod (tra maen nhw’n cael eu defnyddio) yn cael eu gwarchod gan y gyfraith. Mae hynny yn egwyddor wirioneddol bwysig, ac yn un y mae cenedlaethau o ymgyrchwyr yr RSPB wedi brwydro drosti. Sicrhaodd Deddf Gwarchod Adar 1954 y warchodaeth hon ar gyfer y rhan fwyaf o rywogaethau ac roedd Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 yn sicrhau hyn ar gyfer pob aderyn.
O dan rhai amgylchiadau, mae’r gyfraith yn caniatáu lladd aderyn neu ddinistrio ŵy neu nyth. Yn ogystal, mae’n egwyddor y mae’r RSPB yn ei chefnogi, oherwydd bod hyn ambell waith yn angenrheidiol. Mae gan y system drwyddedu hon reolau, fel na ddylid lladd adar ond fel y dewis olaf.
Os ydych chi angen cael gwared ag aderyn gwyllt, mae’n rhaid i chi wneud cais am drwydded a dangos bod hyn yn angenrheidiol. Mae’r rhesymau yn cynnwys:
Beth yw Trwyddedau Cyffredinol?
Mae nifer fechan o rywogaethau y mae CNC yn ystyried eu bod yn achosi problem mor eang fel nad oes raid i dirfeddiannwr wneud cais am drwydded unigol. Gallai’r tirfeddianwyr weithredu o dan ‘Drwydded Gyffredinol’, cyn belled â’u bod yn dilyn ychydig o reolau. Mae rhywogaethau ar y trwyddedau hyn yn cynnwys adar fel yr ysguthan, y frân dyddyn a sgrech y coed.
Dros y blynyddoedd, mae’r RSPB wedi herio cynnwys sawl rhywogaeth ar y Trwyddedau Cyffredinol, gan arwain at gael gwared â sawl aderyn sy’n prinhau, gan gynnwys coch y berllan a gwylan y penwaig sydd ar y rhestr goch a’r wylan gefnddu leiaf sydd ar y rhestr oren.
Beth sydd wedi newid?
Yn gynharach yr haf hwn, yn sgil her gyfreithiol i Drwyddedau Cyffredinol yn Lloegr, adolygodd CNC y dystiolaeth a ddefnyddiwyd i gyhoeddi trwyddedau yng Nghymru, ac mae wedi gwneud nifer o newidiadau a ddaeth i rym ar 7 Hydref – gallwch chi ddarllen mwy o fanylion yma.
Beth yw barn yr RSPB?
Rydym yn croesawu adolygiad ynglŷn â’r Trwyddedau Cyffredinol gan CNC. Mae’n gam yn y cyfeiriad cywir, drwy ddefnyddio tystiolaeth gadarnach i ategu’r penderfyniadau y mae’n rhaid iddo wneud fel yr awdurdod trwyddedu.
Yn benodol, rydym yn croesawu:
Beth fydd hyn yn ei olygu ar gyfer cadwraeth adar?
Y newid mwyaf dadleuol ymysg sefydliadau hela yw bod yr hen Drwydded Gyffredinol ar gyfer ‘’ffawna a fflora’ wedi cael ei disodli gan un sy’n caniatáu lladd ysglyfaethwyr er mwyn gwarchod wyau a chywion yr adar sydd o bryder o safbwynt cadwraeth. Mae hyn yn gam ymlaen – dylai pobl fod yn lladd adar gwarchodedig am reswm cyfiawnadwy a phan nad oes unrhyw ffordd arall effeithiol yn unig. Nid yw’r trwyddedau ar gael i ganiatáu rheolwyr saethu ladd mwy o ffesantod neu betris coesgoch ar gyrchoedd hela, unwaith y maen nhw wedi cael eu rhyddhau; byddai hynny yn anghyfreithlon. Nid oes unrhyw achos dros ladd un rhestr o adar gwarchodedig ar y Rhestr Werdd er mwyn creu budd i restr arall o adar gwarchodedig ar y Rhestr Werdd.
Dywed rhai pobl wrthyf fod lladd adar fel brain a sgrech y coed yn “hanfodol”, ond ychydig o dystiolaeth a geir fod lladd ysglyfaethwyr brodorol yn angenrheidiol ar gyfer cadwraeth adar ar raddfa eang. Mewn ychydig o achosion, gall lladd ysglyfaethwr wneud gwahaniaeth pwysig, yn arbennig felly os yw’n cael ei gyfuno gyda gwella cynefinoedd – mae enghreifftiau yn cynnwys cael gwared â brain tyddyn er mwyn lleihau ysglyfaethu wyau a chywion y gylfinir a’r gornchwiglen. Mae gylfinirod a chornchwiglod mewn gwir risg o ddiflannu o Gymru oherwydd newidiadau mawr yn y modd y mae eu hardaloedd bridio yn cael eu rheoli, a phan maen nhw’n cael eu cornelu, gall ysglyfaethu ddod yn ffactor llawer mwy.
Bu cynnydd mewn poblogaeth sgrechod y coed yng Nghymru, tra bod poblogaethau’r fran dyddyn a’r jac-y-do yn sefydlog, ac mae niferoedd y pïod wedi bod yn gostwng ers troad y ganrif hon. Nid oes gennym ni ddadansoddiadau da cyn 1994, ac os yw niferoedd yr ysglyfaethwyr cyffredinol hyn yn llawer uwch nag yr oedden nhw yn hanesyddol, mae’n rhaid inni edrych ar beth sy’n achosi hyn a bydd hynny yn debygol o fod yn waith cymhleth.
Mae’r RSPB, fel dewis olaf, yn lladd nifer fechan o adar fel rhan o’i waith cadwraeth. Rydym yn cyhoeddi’r ffigyrau hyn bob blwyddyn, un o’r ychydig sefydliadau (os nad yr unig un) i wneud hynny. Yng Nghymru, ychydig iawn o ddefnydd a wnawn o’r Trwyddedau Cyffredinol, ac yn ystod y blynyddoedd diweddar, bu hyn yn bennaf drwy weithio gyda ffermwyr fel rhan o Brosiect Treialu Rheoli Gylfinirod.
Ymrwymiad ar gyfer adolygiad pellach
Mae’r newidiadau a wnaed gan CNC yn iawn ac i’w croesawu yn fawr, ac rydym yn falch bod CNC wedi ymrwymo i gynnal adolygiad mwy trylwyr yn ystod 2020 mewn ymgynghoriad ag amrediad o randdeiliaid. Nid ydym yn cytuno gyda phopeth sy’n cael ei gynnwys yn y trwyddedau newydd a chredwn fod cryn daith cyn eu bod yn addas i’r diben. Byddwn yn parhau i frwydro dros gael system well, gyda dull effeithiol o fonitro.
Mae’r Trwyddedau Cyffredinol newydd yn caniatáu lladd sawl rhywogaeth yn absenoldeb tystiolaeth gredadwy ynglŷn â’u heffaith ar raddfa eang. A ydy pïod neu jacdoeau yn gyfrifol am ostyngiad mewn poblogaethau o adar eraill? Mae’r dystiolaeth eu bod yn effeithio ar boblogaethau adar yn un wan, ffaith sy’n cael ei chydnabod gan adroddiad CNC, ac felly rydym yn siomedig y bydd eu lladd yn parhau i gael ei ganiatáu o dan y Drwydded Gyffredinol.
Mae’r rhestr adar a fydd yn elwa o gael gwared ag ysglyfaethwyr yn rhy eang. Ar hyn o bryd, mae’n cynnwys yr holl adar sydd o bryder o safbwynt cadwraeth yng Nghymru, heb ystyried a oes unrhyw dystiolaeth y byddan nhw’n elwa wrth ladd ysglyfaethwyr. Mewn rhai achosion, mae eu poblogaeth yng Nghymru mor lleol (ac i raddau helaeth maen nhw ar safleoedd gwarchodedig) fel bod trwyddedau unigol yn fwy addas ar eu cyfer.
Nid yw CNC yn monitro’r nifer o adar sy’n cael eu lladd, nac amgylchiadau’r rheolaeth honno, o dan y Trwyddedau Cyffredinol, ac felly ni all wybod beth yw effaith y lladd.
Rydym yn sicr, y bydd cryn wrthwynebiad o rai cyfeiriadau bod y newidiadau hyn yn peryglu adar yng Nghymru. Nid ydym yn cytuno. Llongyfarchiadau i Cyfoeth Naturiol Cymru am gymryd agwedd feddylgar tuag at ddyletswyddau i warchod pob aderyn gwyllt. Edrychwn ymlaen at weithio gyda chi ar newidiadau yn y dyfodol er mwyn sicrhau mewn gwirionedd mai lladd adar yw’r dewis olaf.