Trwydded i ladd: ymgynghoriad ar drwyddedau i reoli adar yng Nghymru

English version available here.

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn ymgynghori ynghylch sut mae’n rhoi caniatâd i ladd adar gwyllt a chael gwared ar wyau a nythod. Mae’r adar i gyd wedi cael eu gwarchod dan gyfreithiau, sydd yn ganlyniad i ymgyrchoedd gan gefnogwyr yr RSPB dros ddegawdau lawer.

Ni ddylid cymryd y mater o ganiatáu i adar gael eu lladd yn gyfreithlon, yn ysgafn. Rydym yn credu ei bod hi’n bwysig bod gan CNC system gadarn a thryloyw i reoleiddio hyn, a sicrhau bod yr awdurdodiadau, yn digwydd, yng Nghymru, fel dewis olaf yn unig.   

Byddwn yn ymateb i ymgynghoriad CNC, sy’n dod i ben ar 11 Tachwedd, ac yn annog ein cefnogwyr i gyfrannu’u barn a’u profiadau hefyd. Mae’r ymgynghoriad yn edrych dros ystod o faterion, ac yn adeiladu ar newidiadau a wnaed i’r Trwyddedau Cyffredinol yn 2019 – yma, gallwch ddarllen i weld beth roeddem yn ei feddwl ynghylch hynny. Darparodd RSPB Cymru dystiolaeth ar gyfer yr adolygiad gan CNC, ac mae’n cyfrannu at grŵp ar faterion sy’n ymwneud ȃ mulfrain, hwyaid danheddog, a’r gostyngiad ym mhoblogaeth eog yr Iwerydd.   

Mae’r ymgynghoriad yn un dwys, yn defnyddio 70 chwestiwn, ac mae’n eithaf technegol; nid yw’r blog hwn, felly, yn ddadansoddiad manwl. Yn gyffredinol, rydym yn meddwl bod y newidiadau a argymhellir yn rhai synhwyrol, ac rydym yn cefnogi’r egwyddorion arfaethedig mae CNC yn cynnig eu mabwysiadu – bydd y rhain yn berthnasol i benderfyniadau a wneir ynghylch eu holl drwyddedau adar, yn drwyddedau penodol (pan fo angen darparu tystiolaeth mewn cais i CNC), neu’n gyffredinol. Y Trwyddedau Cyffredinol hyn sy’n fwyaf dadleuol, gan y gall bron unrhyw un eu defnyddio yng Nghymru, y tu allan i rai Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA), heb wneud cais penodol. Cyn belled ȃ bod telerau’r drwydded yn cael eu cwrdd, gall y defnyddiwr ladd nifer diderfyn o rai rhywogaethau penodol, er enghraifft ysguthan, jac-y-do, a sgrech y coed. Nid yw’n angenrheidiol gan CNC i’r amgylchiadau na’r niferoedd sy’n cael eu lladd, gael eu hadrodd yn ôl, felly nid oes gan CNC syniad, go iawn, ynghylch graddfa, buddiannau na chanlyniadau’r rheolaeth hon.  

Ar gyfer un o’i Drwyddedau Cyffredinol (004, sy’n caniatáu i nifer o rywogaethau o frain gael eu lladd er mwyn gwarchod adar gwyllt), mae CNC yn ceisio barn ynghylch dileu’r Drwydded Gyffredinol, a’i gwneud yn angenrheidiol i ddefnyddwyr wneud cais am drwydded benodol. Hyn fyddai orau gennym ni, ond os nad yw hynny’n opsiwn gan CNC, rydym yn meddwl y dylai defnyddwyr, fan leiaf, orfod cofrestru ac adrodd yn ôl am eu defnydd o’r drwydded yn flynyddol, bydd hyn yn rhoi cyfle i gael gwell dealltwriaeth ynghylch sut y dylai trwyddedau gael eu dyroddi yn y dyfodol. Rydym yn credu y dylai hyn fod yn wir am yr holl Drwyddedau Cyffredinol, nid GL004 yn unig, er mwyn sicrhau gwell safon o ran y dystiolaeth sydd ar gael i CNC.   

Nid yw’r ymgynghoriad yn sôn o gwbl am sut y bydd CNC yn darparu crynodeb o wybodaeth –  ynghylch sut y bydd yn rhoi’i bolisi ar waith –  i’r cyhoedd. O ran tryloywder, mae hwn yn fwlch difrifol. Mae Natural England yn darparu gwybodaeth o’r fath ynghylch y trwyddedau y mae’n ei ddyroddi, ac rydym yn credu bod pobl yng Nghymru yn haeddu’r un lefel o wybodaeth ynghylch beth y caniateir iddo ddigwydd i’n hadar. Er nad yw cyhoeddi’r wybodaeth hon yn anghenraid cyfreithiol, gan fod gwefan CNC yn nodi:  “Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn ymrwymedig i fod mor agored, atebol a thryloyw â phosibl ym mhopeth a wnawn,” byddai cyhoeddi’r grynodeb yn flynyddol, yn cynyddu hyder y cyhoedd yn y polisi.

Rydym yn croesawu ymrwymiad CNC i adolygu sut mae’n defnyddio’i bolisi trwyddedu bob tair blynedd, hynny wedi’i gefnogi gan banel allanol, er mwyn dwyn tystiolaeth newydd ymlaen ynghylch newidiadau mewn statws rhywogaethau. Dylid cadw golwg yma hefyd ar newidiadau posib na fyddant yn cael eu mabwysiadau yn 2022. Er enghraifft rydym wedi darparu tystiolaeth ynghylch sut y byddai cofrestru a marcio trapiau-cawell brain o gymorth wrth roi’r gyfraith ar waith, fel sydd eisoes yn angenrheidiol yn yr Alban.   

Byddwn yn ymateb i’r ymgynghoriad, ac rydym yn gobeithio y bydd ein cefnogwyr yn gwneud hynny hefyd, yn enwedig os gallwch ddarparu gwybodaeth a phrofiad ar ffurf sydd wedi’i ddogfennu. Mae gan CNC benderfyniadau pwysig i’w gwneud, ac mae’n hanfodol bod y rhain wedi’u selio ar dystiolaeth dda, hyd yn oed pan fod hyn yn herio syniadau cyfredol, a’r status quo.  

I gael mynediad i’r ymgynghoriad yn Gymraeg, cliciwch yma. Gallwch ymateb ar-lein, drwy ebost neu drwy’r post.