Mae dyfodol y byd natur sy’n gyfarwydd inni dan fygythiad. Ond does dim rhaid i bethau fod felly

English version available here

Roedd dydd Gwener 5 Mai yn nodi Diwrnod Rhywogaethau mewn Perygl – diwrnod i’r byd fyfyrio ar y bywyd gwyllt ledled y byd sydd mewn perygl o gael ei golli am byth.  Mae llawer o resymau sy’n gyfrifol am y dirywiad mewn bywyd gwyllt, o newid yn yr hinsawdd a cholli cynefinoedd, i ffermio anghynaliadwy a llygredd. Mae hwn yn ddiwrnod i fyfyrio am y problemau hyn, yn ogystal â meddwl am ddatrysiadau posibl.

Dyma gipolwg sydyn ar rai o’r adar hynny y mae eu niferoedd yn lleihau yng Nghymru ac sydd felly wedi eu rhoi ar y Rhestr Goch o rywogaethau dan fygythiad, a sut y gallwn wyrdroi’r dirywiad sy’n achos cymaint o bryder a helpu’r adar hyn yn ogystal â natur yn gyffredinol.




Gylfinirod

Mae gylfinirod wedi bod yn adar poblogaidd a chyfarwydd iawn yng nghefn gwlad Cymru, ond gwelwyd y boblogaeth sy’n bridio yma’n gostwng gymaint â 69% ers 1995. Bu gostyngiad o 37% hefyd yn y niferoedd sy’n gaeafu yma ers yr un flwyddyn. Mae angen gweithredu ar frys cyn iddynt ddiflannu’n gyfan gwbl o Gymru. Mae prosiectau fel Gylfinir Cymru ar waith, a phrosiectau sy’n gweithio â ffermwyr fel y gwaith sy’n digwydd yn Nyffryn Conwy. Ond nid gylfinirod yw’r unig adar cefn gwlad sydd mewn perygl – o bell ffordd.


Breision melyn

Mae poblogaeth yr aderyn bywiog a thrawiadol hwn, sydd i’w weld mewn cefn gwlad agored a gwrychoedd, wedi gostwng 64% yng Nghymru ers 1995, sy’n ffigur brawychus. Rydym yn credu mai rhan hanfodol o wyrdroi’r dirywiad hwn fydd cyflwyno polisi rheoli tir cynaliadwy newydd yng Nghymru sy’n hybu ffyrdd o ffermio sy’n garedig i natur. Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i wrando ar ein galwad am bolisi rheoli tir cynaliadwy lle bydd natur, yn ogystal â’r ffermwyr a’r cyhoedd, yn elwa.




Cnocellau brith lleiaf

Mae’r gostyngiad o 30% yn nhiriogaeth y gnocell frith leiaf ledled Cymru ers 1968 yn achos pryder, ac o fewn amser byr iawn mae bellach yn aderyn prin yma. Ni wyddom ar hyn o bryd beth yw prif achosion y gostyngiad hwn. Mae angen rhagor o ymchwil i ddeall yn union beth sy’n digwydd.


Gwylanod coesddu

Mae’r gwylanod coesddu hyn yn olygfa gyfarwydd ar ein clogwyni ar yr adeg hon o’r flwyddyn, gan ymgynnull yn eu miloedd. Ond er ei bod yn ymddangos bod niferoedd mawr ohonynt, mae’r gostyngiad yn y boblogaeth ar ein harfordir yn ein pryderu. Gwelwyd gostyngiad o 35% yn niferoedd y gwylanod coesddu rhwng 1996 a 2015, ac rydym yn credu mai’r unig ffordd o wyrdroi’r dirywiad hwn yw galw ar ein llywodraeth i gymryd camau brys a phendant, a chyflwyno strategaeth adar môr, gyda rhwydwaith o safleoedd gwarchodedig yn y môr .

Llinosiaid gwyrddion

Mae’r aderyn hwn yn un cyfarwydd yn ein gerddi a’n gwrychoedd, ond mae eu niferoedd yn lleihau, a hynny’n rhannol oherwydd achosion o trichomonosis – clefyd maent yn ei ddal oddi ar fwydwyr adar. Mae hwn yn salwch difrifol i adar yr ardd, ac ni allwn bwysleisio gormod pa mor bwysig yw hi bod bwydwyr adar yn cael eu glanhau’n rheolaidd. Defnyddiwch 10ml o gynnyrch glanhau a diheintydd diogel, di-wenwyn, gyda phob pum litr o ddŵr.



Llond dwrn yn unig o enghreifftiau yw’r uchod o’r adar sydd mewn perygl gwirioneddol o ddiflannu o Gymru oni bai ein bod yn cymryd camau cyflym a phositif. Ond er bod sawl achos gwahanol sy’n gyfrifol, gyda’n gilydd mi allwn ddod o hyd i’r datrysiadau - ac achub yr adar hyn sydd nid yn unig yn cyfrannu cymaint at ein hecosystem, ond sydd gyda’i gilydd yn diffinio cymeriad naturiol Cymru.