English version available here.
Mae’r datblygwr, Menter Môn, wedi gwneud cais am Drwydded Forol gan Cyfoeth Naturiol Cymru i ddatblygu prosiect ynni morol adnewyddadwy – Parth Arddangos Llanw Gorllewin Môn – mewn ecosystem sensitif oddi ar arfordir Ynys Môn.
Mae’r blaned yn wynebu argyfwng hinsawdd ac mae bioamrywiaeth mewn perygl o gwympo, felly mae’n rhaid mynd i'r afael â’r ddau argyfwng yma gyda’i gilydd. Mae cael rhagor o ynni adnewyddadwy yn hanfodol er mwyn mynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd, ond mae angen lleoli a chynllunio datblygiadau mewn ffyrdd sy’n osgoi cyfrannu at yr argyfwng natur.
Y cynnig
Mae’r prosiect yn cynnig Parth Arddangos Morol ar gyfer ynni ffrwd lanw – byddai hwn yn cynnwys tyrbinau sy’n defnyddio cerrynt y llanw. Pe bai’n cael ei ddatblygu’n llawn, gallai arwain at adeiladu hyd at 620 o ddyfeisiau dros 35 cilometr sgwâr yn y môr i gynhyrchu tua 240MW o drydan adnewyddadwy. Byddai rhai o’r tyrbinau yn cael eu gosod ar wely'r môr, a byddai eraill yn arnofio ar yr wyneb.
Mae’r Parth Arddangos Morol wedi'i leoli oddi ar arfordir gorllewinol Ynys Môn, yn agos i warchodfa RSPB Ynys Lawd a safleoedd natur pwysig eraill – ardal lle mae modd gweld rhywogaethau, gan gynnwys palod, gwylogod, gwylanod coesddu a llursod, bob haf. Mae dros 180,000 o bobl yn dod i’r ardal hon, lle gallant weld dros 10,000 o wylogod a 1,300 o lursod yn nythu ar glogwyni'r môr.
Mae’r dechnoleg hon yn newydd ac mae’n anodd mesur ei heffeithiau ar fywyd morol. Mae gwaith modelu yn dangos bod amrywiaeth o sgil-effeithiau posibl – mae un amcan (nid y sefyllfa waethaf bosib) yn rhagfynegi y bydd tua 60% o'r gwylogod a 98% o’r llursod ar RSPB Ynys Lawd yn cael eu colli oherwydd y byddant yn taro yn erbyn y tyrbinau.
Felly, mae’n ansicr pa lefel o ddatblygiad ffrwd lanw allai osgoi effeithiau niweidiol ar boblogaethau adar môr RSPB Ynys Lawd. Rydyn ni’n bryderus ynghylch graddfa’r caniatâd y gwneir cais amdano. Yn ein barn ni, nid yw’r cais wedi mynd i'r afael â’r risgiau i adar môr yn ddigonol, nac ystyried y gallai gael effeithiau annerbyniol ar natur. Am y rheswm hwn, rydyn ni wedi gwrthwynebu'r cais am y Gorchymyn Deddf Trafnidiaeth a Gweithfeydd y mae ei angen, yn ogystal â Thrwydded Forol.
Rydyn ni eisiau gweld agwedd at ddatblygu sy’n diogelu ein hadar môr – mae hyn yn golygu rhoi cyfyngiad ar ddatblygiadau i’r graddau y mae modd dangos eu bod yn ddiogel i natur, ac ymchwilio i effeithiau technolegau newydd er mwyn gwella dealltwriaeth wyddonol.
Mae ymgynghoriad y Drwydded Forol yn gyfle arall i roi llais i adar môr drwy alw ar y rheini sy’n gwneud penderfyniadau (Cyfoeth Naturiol Cymru yn yr achos hwn) i sicrhau eu bod yn diogelu adar Ynys Lawd yn gyfan gwbl pan fyddant yn asesu’r cais hwn. Gallwch ymuno â ni drwy leisio eich pryderon ynghylch effeithiau posibl y cynnig presennol ar boblogaethau adar môr ar y safle, drwy anfon e-bost at Cyfoeth Naturiol Cymru marinelicensing@naturalresourceswales.gov.uk erbyn 8 Ionawr 2020.
Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth.