To read this blog in English please click here

Mae natur yn wynebu mwy o broblemau nag erioed o'r blaen. Ond, bob hyn a hyn, fe ddaw cyfle sy’n cynnig newid. Mae gan y gylfinir ar ein rhostiroedd, y dyfrgwn yn ein hafonydd a’r cwtieir yn ein llynnoedd gyfle am ddyfodol gwell, ond mae angen eich cymorth chi arnynt. Disgwylir y bydd cwmnïau dŵr yn gwario £3bn ar reolaeth amgylcheddol yng Nghymru rhwng 2020 a 2025. Gyda hyn mewn golwg, dechreusom ymgyrch ar y cyfryngau cymdeithasol ddiwedd Mehefin a oedd yn eich annog i gysylltu â'ch cwmni dŵr yn gofyn iddynt wneud #MwyDrosNatur. Gyda’ch mewnbwn hollbwysig chi rhwng heddiw a diwedd Awst, gallai’r rhywogaethau hyfryd hyn gael gwell dyfodol. Drwy gymryd munud i anfon neges drydar at Dŵr Cymru neu Severn Trent Water yn gofyn iddynt wneud #MwyDrosNatur yn eu cynlluniau busnes, neu drwy eu ffonio neu anfon ebost, bydd bywyd gwyllt Cymru yn siŵr o elwa o’u haelioni.

Rydym yn dibynnu ar gwmnïau dŵr gymaint ag y maent hwy yn dibynnu ar natur. Heb gwmnïau dŵr i ddarparu dŵr glân i ni drwy'r tapiau, at bwy y byddem yn troi? A beth fyddai cwmnïau dŵr yn ei wneud heb ecosystem iach a mawnogydd sy’n gweithio fel y dylent ar ein hucheldiroedd? Fydden nhw byth yn gallu glanhau â llaw a storio hyd yn oed hanner y dŵr y mae’r cynefinoedd hyn yn ei wneud yn naturiol. Rydym i gyd angen i natur fod mewn cyflwr da er mwyn i ni gael y manteision gwych hyn - ond mae natur yn dibynnu arnom ni i’w diogelu er mwyn iddi allu gwneud hynny. Mae pobl, cwmnïau dŵr a natur yn dibynnu ar ei gilydd. Heb iddynt gefnogi’i gilydd, ni fyddai’r un yn goroesi.

Felly, wrth i swm anhygoel gael ei ddarparu i'w wario ar reolaeth amgylcheddol yng Nghymru rhwng 2020 a 2025, dyma ein cyfle i gefnogi natur. Ar ddiwedd y dydd, eich arian chi yw'r arian y bydd cwmnïau dŵr yn ei fuddsoddi, a byddant yn ei wario yn unol â'ch dymuniadau chi. Ni ellir pwysleisio digon pa mor bwysig yw eich mewnbwn chi i’w cynlluniau buddsoddi ar gyfer y dyfodol.

Os ydy’ch dŵr chi yn cael ei gyflenwi gan Dŵr Cymru, trydarwch @dwrcymru neu anfonwch ebost neu ffoniwch drwy ddilyn y ddolen: http://www.dwrcymru.com/contact-us?sc_lang=cy-GB. Os ydych chi’n cael eich cyflenwi gan Severn Trent Water, trydarwch @stwater neu anfonwch e-bost neu ffoniwch drwy ddilyn y ddolen: https://www.stwater.co.uk/help-and-contact/contact-us/. Os nad ydych chi’n siŵr pwy yw’ch cwmni dŵr, bydd y map hwn yn gallu’ch helpu i ddod o hyd i’ch darparwr - http://www.water.org.uk/consumers/find-your-supplier.

Chi sydd i gymryd y cam nesaf. A wnewch chi ofyn i'r cwmnïau dŵr wneud #MwyDrosNatur?