To read this blog in English, please click here.
Gwas y neidr yn gwibio, glas y dorlan yn gwreichioni, digwydd dod ar draws llygod dŵr a dyfrgwn. Ein gwlyptiroedd yw rhai o'r ardaloedd mwyaf cyfoethog o ran bywyd gwyllt. Mae dŵr glan croyw yn syth o'r tap yn cael effaith enfawr ar natur, a dydy'r rhan fwyaf ohonom ddim yn meddwl am hyn pan fyddwn yn troi ein tapiau ymlaen. O ganlyniad, ar 18 Mai fe lansiodd 28 Sefydliad Anllywodraethol, gan gynnwys RSPB Cymru, eu dogfen Glasbrint gyntaf erioed ar gyfer PR19 yn Sefydliad Ymchwil Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd.
Eleanor Bentall, rspb-images.com
Galwad ar gwmnïau dŵr yng Nghymru i weithredu yw'r ddogfen Glasbrint ar gyfer PR19 – Adolygiad Cyfnodol ('Periodic Review') yw ystyr y PR – a hynny i fuddsoddi mewn materion sydd er lles pobl, bywyd gwyllt a'r amgylchedd. Ein nod yw dylanwadu ar gynlluniau busnes cwmnïau dŵr er mwyn sicrhau bod natur yn chwarae rhan flaenllaw ym mhob penderfyniad maent yn ei wneud. Hwn yw'r Glasbrint cyntaf o'i fath yng Nghymru, ac mae'n bleser gennym rannu'r prif negeseuon a fydd yn gwneud lles i fyd natur a'r amgylchedd yn y dyfodol.
Mae darparu dŵr glan a thynnu gwastraff yn dibynnu ar natur, ac yn cael effaith enfawr ar y bywyd gwyllt a'r tirweddau sy'n agos at ein calon. Felly er mwyn gwneud yn siŵr bod ein tirweddau a'n bywyd gwyllt gwerthfawr yn cael gofal, rydym yn gweithio gyda chwmnïau dŵr i weithredu'n gadarnhaol er eu lles. Dros y misoedd nesaf, bydd cwmnïau yn llunio eu cynlluniau busnes ar gyfer 2020-25. Bydd y cynlluniau hyn yn amlinellu sut bydd cwmnïau dŵr yn gwario eu harian, ac o ystyried bod disgwyl i £3bn gael ei wario ar reoli dŵr a'r amgylchedd yng Nghymru rhwng 2020-25, mae hwn yn gyfle gwych i sicrhau ei fod yn cael ei wario mewn ffyrdd a fydd er lles pobl, byd natur a'r amgylchedd.
Llun o'r ddogfen Glasbrint PR19 yn y lansiad.
Mae Glasbrint ar gyfer PR19 yng Nghymru, Cyswllt Amgylchedd Cymru, yn gofyn i gwmnïau dŵr Cymru gynnwys pum canlyniad pwysig yn eu cynlluniau busnes. Dyma'r canlyniadau hynny:
Canlyniad A: Gwarchod ac adfer dalgylchoedd o'u tarddiad i'r môr
Ardal o dir sy'n cael ei draenio gan system afon yw dalgylch, ac mae'r ardaloedd hyn yn hollbwysig ar gyfer bioamrywiaeth gan eu bod yn gartref i bob math o fywyd gwyllt. Mae dalgylchoedd sy'n gweithio'n iawn yn gallu sicrhau manteision lu i gwmnïau dŵr a'u cwsmeriaid, a hynny'n sgil ansawdd dŵr gwell, llai o berygl llifogydd a rhagor o wytnwch i newid yn yr hinsawdd. Rydym yn gofyn i gwmnïau dŵr gynyddu'n sylweddol eu buddsoddiad mewn cynlluniau rheoli dalgylchoedd, sy'n ystyried y prosesau dŵr sy'n mynd rhagddynt ar draws y dalgylch cyfan wrth ymdrin â materion rheoli dŵr. Trwy wneud hyn, byddant yn gweithio gyda phartneriaid, yn cynnwys sefydliadau anllywodraethol amgylcheddol, er mwyn cynyddu faint o dir sydd dan ofal gwell.
Canlyniad B: Atal llygredd dŵr
Er y cynnydd a wnaed dros y degawdau diwethaf, mae llawer o waith i'w wneud eto er mwyn mynd i'r afael ag iechyd afonydd a chyrff dŵr Cymru. Dim ond 37% o gyrff dŵr Cymru sy'n cyrraedd y 'statws da' a ddiffinnir gan Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr yr UE ar hyn o bryd. Un o'r heriau mwyaf o ran cyrraedd y statws da yw'r llygredd a ddaw o ffynonellau fel gwaith trin dŵr gwastraff, amaethyddiaeth, coedwigaeth a mwyngloddio. Hoffem weld cwmnïau dŵr yn cynhyrchu cynlluniau tymor hir i ddangos sut maent yn delio â dŵr gwastraff i sicrhau y bydd systemau carffosiaeth a thrin dŵr yn atal achosion o lygredd. Rydym yn cydnabod nad cwmnïau dŵr yw'r unig lygrwyr. Serch hynny, rydym am weld cwmnïau yn anelu at beidio â chael yr un achos o lygru ac, os bydd achos, rydym am i gwmnïau ymrwymo i roi gwybod am yr achos eu hunain.
Canlyniad C: Newid sylweddol ar gyfer bioamrywiaeth
Mae rhywogaethau dŵr croyw a gwlyptir yn wynebu heriau sylweddol. Yn ôl Adroddiad Sefyllfa Byd Natur 2016, mae 13% o rywogaethau dŵr croyw a gwlyptir y DU mewn perygl o ddiflannu am byth. Yng Nghymru, mae hoff rywogaethau pobl, fel y trochwr, yn dirywio. Mae Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 yn ei gwneud yn ofynnol i bob cwmni dŵr sy'n gweithredu yng Nghymru gymryd camau i gynnal a gwella bioamrywiaeth. Mae hwn yn gyfle i gwmnïau dŵr sicrhau'r newid y mae taer ei angen ar fywyd gwyllt. Rydym yn annog cwmnïau dŵr i weithio gyda ni er mwyn llunio strategaethau uchelgeisiol ar gyfer bioamrywiaeth sy'n cynnwys mesurau i helpu i gyflawni Cynllun Adfer Natur Cymru.
Canlyniad D: Gwneud yn siŵr bod yr afonydd yn dal i lifo a bod gwlyptiroedd yn parhau’n wlyb
Er bod pobl yn tybio bod Cymru yn gyfoethog o ran dŵr yn sgil faint o law sy'n disgyn yma, rydym yn wynebu heriau i gwrdd â'r galw cynyddol am ddŵr. Mae cymryd rhagor o ddŵr o'r amgylchedd yn rhoi bywyd gwyllt mewn perygl. Yn Adroddiad Sefyllfa Byd Natur 2016, nodwyd mai'r trydydd sbardun mwyaf arwyddocaol dros golli bioamrywiaeth oedd newidiadau yn faint o ddŵr sydd ar gael mewn afonydd a chyrff dŵr. Rydym yn galw ar gwmnïau dŵr i feddwl am werth y dŵr sy'n weddill yn yr amgylchedd pan fyddant yn ystyried ffynonellau. Rydym am iddynt hefyd fynd i'r afael ag unrhyw achosion o dynnu dŵr lle mae hynny'n rhwystro'r dŵr rhag cyrraedd y 'statws da' fel y diffinnir gan Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr yr UE.
Canlyniad E: Defnyddio dŵr yn ddoeth a rhoi pris teg ar ddŵr
O ganlyniad i newid yn yr hinsawdd a thwf poblogaeth, mae'r galw am ddŵr yng Nghymru ar gynnydd. Mae defnyddio dŵr yn ddoeth yn fuddiol i bobl, i fywyd gwyllt ac i'r amgylchedd. Os ydym yn gwastraffu llai o ddŵr, gallwn gadw rhagor yn yr amgylchedd dŵr croyw. Rydym yn gofyn i gwmnïau dŵr ystyried yr holl ddewisiadau o ran lleihau'r galw am ddŵr yn eu cynlluniau busnes, gan gynnwys hyrwyddo effeithlonrwydd dŵr ymysg eu cwsmeriaid, a mynd i'r afael ag achosion o ddŵr yn gollwng.
rspb-images.com
Codwch eich llais er budd byd natur
Rydym yn eich gwahodd i ymuno â ni i siarad o blaid byd natur. Bydd eich cwmnïau dŵr yn ymgysylltu â chi yn ystod yr haf i wneud yn siŵr bod eu cynlluniau yn cyd-fynd â'ch dymuniadau. Drwy gysylltu â'ch cwmni dŵr, gallwch gefnogi'r nodau yn y ddogfen Glasbrint ar gyfer PR19 yng Nghymru, a fydd er lles pobl, byd natur a'r amgylchedd.
Dros yr wythnosau nesaf byddwn yn lansio rhagor o gamau gweithredu i ategu'r ymgyrch hon, felly cadwch lygad ar ein cyfrif Trydar @RSPB Cymru a'r blog We Love Wales i gael rhagor o wybodaeth. Mae'r Glasbrint llawn ar gyfer PR19 yng Nghymru ar gael yma. Os nad ydych chi’n siŵr pwy yw’ch cwmni dŵr, bydd y map hwn yn gallu eich helpu i ddod o hyd i’ch darparwr - http://www.water.org.uk/consumers/find-your-supplier.