English version available here
Mae pob un ohonom wedi gweld newidiadau sylweddol yn ein bywydau dros y flwyddyn ddiwethaf - yn y ffordd rydyn ni'n gweithio, yn teithio a siopa. Tra bod pob un ohonom yn ysu am fynd yn ôl i ychydig o normalrwydd, ni'n dechrau sylweddoli na fydd y byd, o bosib, yn dychwelyd i fel yr oedd e' yn y gorffennol.
Swyddi yw un o'r pethau sydd wedi dioddef fwyaf yn sgil y pandemig - mae llawer o bobl bellach yn wynebu cael eu diswyddo ac mae disgwyl i Gymru barhau mewn cyflwr o sioc economaidd. Credwn, wrth ymateb i’r pandemig hwn, y gall Cymru ailadeiladu mewn ffordd sy’n adfer byd natur, yn mynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd ac yn cefnogi adferiad economaidd y wlad hefyd.
Swyddi gwyrdd ar gyfer adferiad gwyrdd
Dyma pam rydyn ni, fel rhan o'n Pum Cam tuag at Adferiad Gwyrdd, wedi bod yn gweithio ar sicrhau bod buddsoddiad mewn swyddi gwyrdd wrth galon ymateb y wlad i'r argyfwng economaidd hwn. Yr haf diwethaf, yng nghanol y cyfnod clo cyntaf, fe fuom ni'n siarad am sut y gallai buddsoddiad mewn swyddi gwyrdd helpu i ailadeiladu Cymru mewn ffordd lle gall pobl a'r blaned adfer gyda'i gilydd.
Byddai swyddi gwyrdd yn creu cyfleoedd newydd i'r rheini sy'n wynebu diweithdra ar hyn o bryd, a hefyd yn helpu i adfer ein hamgylchedd naturiol a mynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd. Yng Nghymru, ein hardaloedd gwledig ac arfordirol sy'n debygol o ddioddef fwyaf yn sgil diweithdra, tra bydd effeithiau'r pandemig yn effeithio'n fwy ar bobl sydd mewn gwaith ag incwm isel, yn enwedig pobl ifanc. Gyda'r gefnogaeth iawn, gallai swyddi gwyrdd greu ystod eang o gyfleoedd gwaith a helpu i fynd i'r afael â'r anghydraddoldebau hyn, yn ogystal â sefydlu gweithlu mwy gwyrdd sy'n ffocysu ar y dyfodol ac sy'n mynd i'r afael ag anghenion byd natur a'r hinsawdd.
Gwasanaeth Byd Natur Cenedlaethol
Y llynedd, nododd Cyfoeth Naturiol Cymru fod creu Gwasanaeth Byd Natur Cenedlaethol yn gam y dylai cael blaenoriaeth ar gyfer Adferiad Gwyrdd. Dros y misoedd diwethaf, rydym wedi bod yn gweithio gyda phartneriaid a sefydliadau eraill i ddatblygu Gwasanaeth Byd Natur Cenedlaethol i Gymru a fyddai’n darparu cyfleoedd gwaith ym maes adfer byd natur a rheoli tir yn gynaliadwy.
Mae ein hadroddiad Estimating the Scale wedi amcangyfrif y gallai Gwasanaeth Byd Natur Cenedlaethol greu bron i 7,000 o swyddi llawn amser uniongyrchol yng Nghymru. Gallai gynllun - neu wasanaeth - fel hwn helpu, er enghraifft, i greu cyfleon gwaith amgylcheddol amrywiol a fyddai o fudd i bobl a byd natur.
O greu coetiroedd Newydd i adeiladu amddiffynfeydd llifogydd naturiol, o greu lleoedd i bobl ymarfer yn yr awyr agored ac i ymgysylltu â byd natur ynddynt i adfer ac ailgysylltu cynefinoedd ar y tir a'r môr. Byddai hyn yn helpu i storio carbon i'n helpu i fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd ac, yn y pen draw, byddai'n caniatáu i fywyd gwyllt ffynnu.
Gallai swyddi gwyrdd sy'n ymwneud â rheoli tir yn gynaliadwy helpu i greu cadwyni bwyd lleol a sicrhau bod ein system fwyd yn fwy gwydn ar gyfer argyfyngau yn y dyfodol. Drwy wneud hyn, byddai Gwasanaeth Byd Natur Cenedlaethol yn sicrhau bod byd natur yn parhau i fod wrth wraidd ein hadferiad gwyrdd o Covid-19, ac hefyd yn cyflawni cam cyntaf tuag at fynd i'r afael â'r argyfwng byd natur a'r hinsawdd a chychwyn symud tuag at Gymru fwy gwyrdd.
Ond mae angen i ni sicrhau bod y rhai sy'n cael eu heffeithio arnynt fwyaf gan y pandemig, y rhai sy'n wynebu diweithdra â phobl ifanc, ar flaen y gad yn y trawsnewid hwn. Bydd darparu cyfleoedd hyfforddi cynhwysol i ddatblygu sgiliau gwyrdd yn ogystal â sgiliau mwy trosglwyddadwy yn sicrhau y bydd ein hymateb i'r pandemig yn cael effaith gadarnhaol am flynyddoedd lawer i ddod.
Gallwch glywed mwy am yr hyn y mae partneriaid a phobl ifanc eraill yn ei feddwl am greu swyddi gwyrdd yng Nghymru yn ein Podlediad Adferiad Gwyrdd.