English version available here.
Adfer yn well
Dros y pedwar mis diwethaf mae'r pandemig Coronafeirws wedi gwneud i ni ail-feddwl o ddifri ynghylch pa bethau yn ein bywydau rydym yn eu trysori fwyaf. Mae llawer iawn ohonom wedi gwerthfawrogi natur o'r newydd, boed hynny yn yr ardd gefn neu yn y parc lleol. Gyda llai o geir ar y ffyrdd mae sawl un ohonom wedi dechrau mynd ar gefn beic yn amlach, ac mae'r rhai ohonom sy'n byw mewn dinasoedd wedi cael cipolwg ar sut lefydd gall ein strydoedd fod gyda llai o sŵn a llygredd aer.
Wrth i ni ddod allan o'r Cloi Mawr, rydym yn dychwelyd i fyd sydd bron yn ddieithr i ni. Ynghanol argyfwng iechyd cyhoeddus rydym yn dechrau dod i delerau â'r posibilrwydd o ddirwasgiad, wrth i argyfwng natur a hinsawdd aros fel cwmwl uwch ein pennau. Mae rhai ohonom yn dal ar gennad, llawer wedi eu diswyddo a'r rhai 16 i 24 oed yn ein mysg yn wynebu dyfodol mewn byd o ddiweithdra mawr.
Ond yn ôl ymchwil newydd, mae 91% o bobl yn dweud nad ydynt eisiau mynd yn ôl i'r hen drefn. Rydym wedi cael cyfle unwaith mewn oes i wneud pethau'n wahanol.
Dros y misoedd nesaf bydd Llywodraethau ar draws y DU yn buddsoddi arian i roi cymorth i gael pobl yn ôl i'w gwaith. Rydym ar groesffordd: gall swyddi newydd geisio ail-afael mewn 'busnes fel arfer' - adeiladu ffyrdd neu feysydd parcio. Ond gallant hefyd fod yn allweddol i greu dyfodol gwahanol. Pe bai'r swyddi hyn yn swyddi gwyrdd, gallant fod yn allweddol i bobl a natur ddod drwyddi gyda'i gilydd.
Beth yw Swyddi Gwyrdd? Swyddi gwyrdd yw swyddi sydd nid yn unig yn cael pobl yn ôl i'w gwaith ond hefyd yn helpu i adfer natur a mynd i'r afael â newid hinsawdd. Swyddi sy’n adfer ac ail-gysylltu cynefinoedd ledled Cymru, er enghraifft adeiladu amddiffynfeydd llifogydd, helpu i adfer bywyd gwyllt, cloi carbon atmosfferig mewn cynefinoedd allweddol fel coedlannau a chorsydd mawn, a darparu llefydd i bobl ymarfer corff yn yr awyr iach ac ymgysylltu mwy â byd natur. Byddai swyddi gwyrdd mewn rheolaeth defnydd tir ac amaeth yn cefnogi cadwyni bwyd lleol gan eu gwneud yn fwy gwydn i argyfyngau'r dyfodol.
Rydym yn amcangyfrif y bydd yn rhaid i Gymru wario £68 miliwn y flwyddyn am y 10 mlynedd nesaf ar adfer a chreu cynefinoedd blaenoriaeth uchel er mwyn i ni gyflawn ein hymrwymiadau bioamrywiaethol. Gall hyn greu 10,000 o swyddi uniongyrchol mewn adfer cynefinoedd yn unig, a nifer sylweddol mwy drwy ddarparu blaenoriaethau amgylcheddol eraill fel Coedwig Genedlaethol, effeithiau lluosydd, a thrwy gefnogi twristiaeth.
Ond mae swyddi gwyrdd yn mynd yn bellach na gwarchod natur ac amaeth. Dangosodd adroddiad diweddar gan Gronfa Bywyd Gwyllt y Byd (WWF) y dylai Llywodraethau ar draws y DU fuddsoddi mewn swyddi gwyrdd mewn rhai meysydd penodol:
Mae hyn yn cynnwys llawer o sectorau swyddi, ond i fod yn effeithiol mae angen i'r sectorau i gyd droi'n wyrdd a chreu swyddi i bawb, heb risg i fyd natur na'r hinsawdd yn y dyfodol.
Adferiad Gwyrdd a Thrawsnewid Cyfiawn
Swyddi gwyrdd fydd yn gyrru'r Adferiad Gwyrdd. Ond dylem sicrhau bod y rheiny a gollodd eu gwaith yn ddiweddar, yn enwedig pobl a oedd yn gweithio mewn sectorau traddodiadol, yn symud tuag at ddi-garboneiddio ac/neu adferiad natur. Dylen nhw, yn ogystal â phobl ifanc 16 i 24 oed, fod yn arwain y trawsnewid hwn. Bydd yr addysg a'r ail-hyfforddi i fodloni’r anghenion diweithdra presennol yn creu sylfaen i newid adeiladol tuag at economi gwyrdd. Byddai buddsoddi mewn Swyddi Gwyrdd fel hyn yn sicrhau y gall natur, a'r gwasanaethau mae'n ei gynnig, fod yn ganolog i'n hadferiad, ac yn gymorth i ni symud tuag at gymdeithas yng Nghymru fydd yn fwy gwydn yn gymdeithasol, yn amgylcheddol ac yn economaidd.