Mae'r dyfodol yn Wyrdd

English version available here.

Mae pandemig Covid-19 a Brexit yn rhoi cyfle unigryw i Gymru weithredu Adferiad Gwyrdd. Byddai hyn yn ffordd deg sy'n sicrhau bod camau i ailadeiladu ein heconomi hefyd yn mynd i'r afael â'r argyfyngau hinsawdd a byd natur ac yn sicrhau amgylchedd iach i ni i gyd. 

Pam mae angen Adferiad Gwyrdd? 

Er gwaethaf ei thirweddau trawiadol a'i golygfeydd hyfryd, mae Cymru yn un o'r gwledydd lle mae natur wedi’i ddisbyddu fwyaf yn y byd. Mae adroddiad Sefyllfa Byd Natur 2019 yn dangos bod un o bob chwe rhywogaeth yng Nghymru dan fygythiad o ddifodiant ac mae’r Adroddiad o Gyflwr Adnoddau Naturiol yn dod i'r casgliad nad oes yr un o'n hecosystemau yn wydn. Mae economegwyr blaenllaw'r byd yn dweud wrthym y bydd Adferiad Gwyrdd yn sicrhau mwy o fuddion economaidd ac yn darparu cymdeithas iachach a thecach. Ond ni fydd hyn yn digwydd oni bai ein bod yn adfer bywyd gwyllt a'r ecosystemau y mae byd natur yn eu creu ac yr ydym i gyd yn dibynnu arnynt.

Pa gamau sydd eu hangen ar gyfer Adferiad Gwyrdd? 

Mae tystiolaeth glir, os gwnawn y penderfyniadau cywir nawr, y gallwn hyrwyddo gwell adferiad ac adeiladu'r Gymru deg, iach, hinsawdd-ddiogel sy'n llawn cyfoeth byd natur yr ydym i gyd ei heisiau a'i hangen. Mae RSPB Cymru yn cynnig llwybr pum cam i'r dyfodol cynaliadwy hwn, a fyddai'n sicrhau bod Cymru'n arwain y byd wrth weithredu adferiad economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol cadarnhaol. Bydd cymryd y camau beiddgar hyn yn lleihau’r posibilrwydd o ddioddef risgiau chwalfa ecolegol ac amgylcheddol ac yn helpu i gefnogi cymdeithas wydn ac economi fywiog, llawn byd natur ar gyfer y genhedlaeth hon a chenedlaethau'r dyfodol.

Y pum cam tuag at Adferiad Gwyrdd:

  1. Swyddi a seilwaith cynaliadwy:
  • Hyrwyddo seilwaith, economïau a busnesau sy'n gwella, yn hytrach na difrodi'r amgylchedd. Sicrhau nad yw atebion i'r argyfwng hinsawdd yn ychwanegu at yr argyfwng byd natur.
  • Sefydlu cynllun cyflogadwyedd a hyfforddiant y Gweithlu Gwyrdd mewn meysydd gwaith sy’n cyfrannu at adfer amgylchedd naturiol Cymru ac economi niwtral o ran carbon.
  1. Amddiffyniadau amgylcheddol cryf:
  • Cryfhau'r deddfau sy'n amddiffyn y byd naturiol a chyflwyno targedau adfer byd natur a thargedau fwy uchelgeisiol at frwydro newid yn yr hinsawdd sy'n rhwymo'n gyfreithiol. Dyrannu cyllid digonol i gyflawni'r ddau ymrwymiad.
  • Gwneud i'r system gynllunio weithio dros byd natur ar dir ac ar y môr a chyflwyno deddfau sy'n ei gwneud yn ofynnol i bob datblygiad sicrhau budd net ar gyfer bioamrywiaeth.
  1. Tir a moroedd gwydn a chyfoethog mewn byd natur:
  • Sefydlu ac ariannu rhwydweithiau ecolegol cysylltiedig o leoedd arbennig ar gyfer byd natur ar dir a môr. Creu ardaloedd gwarchodedig newydd lle mae eu hangen i achub byd natur.
  • Cyflwyno polisïau newydd a fydd yn sicrhau rheolaeth gynaliadwy ar adnoddau naturiol ar dir ac ar y môr, ac sy'n gwarantu gwerth am arian cyhoeddus.
  1. Dinasyddion iach:
  • Cynyddu mynediad y cyhoedd i fannau gwyrdd trefol a gwledig sy'n llawn byd natur a chyflwyno Rhagnodi Gwyrdd fel ffordd o hyrwyddo ffyrdd o fyw egnïol a lles emosiynol.
  • Datblygu a gweithredu Strategaeth Bwyd Cynaliadwy sy'n gyrru ac yn gwobrwyo cynhyrchu bwyd yn gynaliadwy, yn mynd i'r afael â gwastraff bwyd ac yn hyrwyddo deiet a bwyta iach, cynaliadwy i bawb.
  1. Arweinyddiaeth Llywodraeth Cymru:
  • Integreiddio adfer ecosystemau cydnerth a mynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd ar draws yr holl feysydd polisi ac adrannau i wneud y mwyaf o synergeddau, buddion a chyllidebau.
  • Sicrhau bod yr holl dir sy'n eiddo cyhoeddus yn cael ei reoli'n dda ar gyfer byd natur a bod safleoedd gwarchodedig ac asedau naturiol pwysig eraill mewn perchnogaeth gyhoeddus yn cyrraedd cyflwr ffafriol.

Gadewch inni fuddsoddi mewn byd natur er budd pob un ohonom. Gadewch inni fuddsoddi mewn Adferiad Gwyrdd.