Ar ein ffordd tuag at Gymru Natur Bositif

English version available here

Mae heddiw’n gam pwysig ymlaen i’r amgylchedd, wrth i’r Gweinidog Newid Hinsawdd gyhoeddi bod Papur Gwyn ar gyfer Bil ar egwyddorion amgylcheddol, llywodraethu amgylcheddol a thargedau adfer natur yn cael ei gyhoeddi. Mae’n well gennym ni roi teitl mwy bachog iddo – sef y Bil Natur Bositif.


Mae hyn i’w groesawu’n fawr. Rydym ni yn RSPB Cymru wedi bod yn pwyso am y Bil hwn ers blynyddoedd lawer. Roeddem ni’n rhan o’r ymgyrch y llynedd, o dan faner
Climate Cymru, a ysgrifennodd at y Prif Weinidog yn galw am gymryd camau ymlaen ar frys.

Mae Aelodau o’r Senedd hefyd wedi parhau i bwysleisio bod y ddogfen hon yn bwysig ac yn fater o frys. Fis Hydref diwethaf, ysgrifennom am adroddiad Pwyllgor y Senedd yn galw am gymryd camau brys i lenwi’r bwlch llywodraethu amgylcheddol yng Nghymru (https://community.rspb.org.uk/getinvolved/wales/b/wales-blog/posts/y-bwlch-llywodraethu-amgylcheddol-yng-nghymru-dysgu-gwersi-o-rannau-eraill-o-r-du). 


Natur Bositif – uchelgais fyd-eang
 

Mae Natur Bositif yn nod cymdeithasol byd-eang sy’n golygu – yn syml – sicrhau bod mwy o natur yn y byd yn 2030 nag a oedd yn 2020, a bod adferiad parhaus ar ôl hynny. Mae hyn yn cael ei adlewyrchu yng nghenhadaeth y Fframwaith Bioamrywiaeth Byd-eang i atal a gwrthdroi colli natur erbyn 2030 a sicrhau adferiad, er mwyn gweld natur, erbyn 2050, yn ffynnu unwaith eto, gan ‘gynnal planed iach a sicrhau manteision i bawb’.  

Yn yr un modd ag y gwnaed yng Nghymru ar gyfer targedau sero net Confensiwn Hinsawdd y Cenhedloedd Unedig, rhaid i Natur Bositif gael ei ymgorffori yn y gyfraith i sicrhau ei fod yn sbarduno uchelgais a gweithredu cyflym ar draws llywodraethau, busnesau a chymdeithasau, nawr ac yn y dyfodol, i wrthdroi dirywiad trychinebus byd natur.  

Oherwydd bod yr argyfwng hinsawdd a’r argyfwng natur yn cydblethu, mae angen rhoi sylw i’r ddau ar yr un pryd er mwyn pontio’n gyflym i’r dyfodol sero net sy’n gadarnhaol i natur ac y mae pob un ohonom yn dibynnu arno.  


Beth rydym am ei weld yn y Papur Gwyn?
 

Byddwn yn ystyried y cynigion yn y Papur Gwyn yn erbyn rhestr wirio o bwyntiau rydym am eu gweld yn y Bil Natur Bositif. Mae'r rhain yn cynnwys: 


Dyletswydd glir i gymhwyso’r egwyddorion amgylcheddol craidd
ym mholisi a chyfraith Cymru, er mwyn sicrhau bod yr angen i atal niwed a gwella’r amgylchedd yn ganolog i’r holl waith datblygu polisi.  


Corff gwarchod neu gorff diogelu’r amgylchedd newydd
sy’n gallu dal Llywodraeth Cymru a chyrff cyhoeddus eraill yn atebol os nad ydynt yn cyflawni eu dyletswyddau i’r amgylchedd yn ddigon da. Rhaid’r corff fod yn annibynnol ar y Llywodraeth; yn gallu ymateb i bryderon dinasyddion neu gymryd camau ar ei liwt ei hun; a bod â phwerau i ymchwilio i achosion posibl o dorri cyfreithiau amgylcheddol ac, yn y pen draw, cymryd camau gorfodi. Rhaid iddo gael pwerau i graffu ar gynnydd y Llywodraeth o ran adfer natur a thargedau amgylcheddol eraill, ac i roi cyngor na ellir ei anwybyddu.  


Dylai amcanion clir ar gyfer Cymru Natur Bositif
– i atal a gwrthdroi colli bioamrywiaeth erbyn 2030 a gweld adferiad erbyn 2050 – fod ar wyneb y Bil. Dylai’r rhain gael eu hategu gan ddyletswydd ar Weinidogion Cymru i osod targedau adfer natur rhwymol ar gyfer rhywogaethau a chynefinoedd, a dyletswydd ar Weinidogion i sicrhau bod y targedau’n cael eu cyrraedd. Dylai Llywodraeth Cymru orfod nodi sut y bydd y targedau’n cael eu cyflawni ac adrodd yn rheolaidd ar gynnydd. 


Cadwch olwg ar ein diweddariadau i gael ein barn ar y cynigion, ac i weld sut y gallwch ymateb i’r Papur Gwyn. Mae'n r
haid i ni gynnal y momentwm.

Mae RSPB Cymru yn falch iawn bod y Papur Gwyn yn cael ei gyhoeddi heddiw. Ac mae’n hen bryd – does dim dwywaith am hynny. Mae adroddiad Sefyllfa Byd Natur 2023 yn dweud wrthym fod ein bioamrywiaeth yn parhau i ddirywio ac mae un o bob chwe rhywogaeth mewn perygl o gael ei cholli o Gymru. Ni all natur fforddio i aros mwyach.