Bil Natur Bositif i Gymru!

English version available here

Dros y misoedd diwethaf, mae RSPB Cymru wedi bod yn gweithio gyda Climate Cymru i alw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno cyfreithiau newydd ar unwaith i ddiogelu’r amgylchedd a helpu i annog y broses o adfer byd natur – bil ‘Natur Bositif’ i Gymru.


Beth?

Ym mis Mawrth, fe wnaethom ymuno â dros 300 o sefydliadau eraill, gan gynnwys busnesau, elusennau a phrifysgolion i anfon llythyr agored i’r Prif Weinidog. Hefyd, fe wnaethom ofyn i’n cefnogwyr ysgrifennu’n uniongyrchol at y Prif Weinidog i ychwanegu eu lleisiau at yr ymgyrch Natur Bositif.

Ar 17 Mai, fe wnaethom ymuno â’n partneriaid o rwydwaith Climate Cymru i osod gwaith celf y tu allan i’r Senedd i dynnu mwy o sylw at ein gofynion.

Ein nod yw dylanwadu ar benderfyniadau Llywodraeth Cymru ynghylch pa gyfreithiau newydd a fydd yn cael eu blaenoriaethu ar gyfer y flwyddyn nesaf, a fydd yn cael eu cynnwys yn y rhaglen ddeddfwriaethol a gyhoeddir gan y Prif Weinidog ddechrau mis Gorffennaf.

Rydyn ni’n mynd i wneud yn siŵr bod eich lleisiau’n cael eu clywed drwy weithio gyda Climate Cymru i gyflwyno gofynion yr ymgyrch, gan ddangos eich cefnogaeth a chodi eich llais wrth ofyn am ddyfodol Natur Bositif i Gymru.

 

Pam?

Mae Llywodraeth Cymru wedi addo bil newydd i osod targedau adfer byd natur, ac i greu corff gwarchod amgylcheddol annibynnol newydd. Rydyn ni wedi croesawu hyn. Ond does dim ymrwymiad clir ynghylch pryd y bydd y bil newydd hwn yn cael ei gyflwyno, ac mae’n ymddangos bod rhagor o oedi bob blwyddyn. Mae’r ymgyrch Natur Bositif yn rhoi gwybod i’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau bod hyn yn fater brys: rydyn ni am i’r bil fod yn rhan o’r rhaglen ar gyfer y flwyddyn i ddod.


Rydyn ni angen i’r bil newydd wneud dau beth:

1. Rhaid iddo sefydlu targedau, sy’n rhwymo mewn cyfraith, ar gyfer adfer byd natur – yn yr un ffordd ag y mae gennym ni dargedau yn y gyfraith i leihau allyriadau carbon.

Mae Fframwaith Bioamrywiaeth Fyd-eang Kunming-Montreal wedi gosod cenhadaeth glir i atal a gwrthdroi colli bioamrywiaeth erbyn 2030, ac i weld byd natur yn ffynnu unwaith eto erbyn 2050. Mae angen targedau arnom yn y gyfraith fel na ellir anwybyddu’r genhadaeth hon yma yng Nghymru, ac fel nad ydyn ni’n colli degawd arall lle mae’r byd natur rydyn ni’n ei garu ac sydd ei angen arnom, yn parhau i ddirywio. 

2. Rhaid iddo greu corff gwarchod amgylcheddol annibynnol i Gymru – sy’n cyfateb i’r Swyddfa Diogelu’r Amgylchedd (sy’n gofalu am Loegr a Gogledd Iwerddon) neu Safonau Amgylcheddol yr Alban.

Mae gan y cyrff hyn y pŵer i glywed pryderon dinasyddion a dal llywodraethau a chyrff cyhoeddus eraill i gyfrif ynghylch sut maen nhw’n cyflawni cyfreithiau amgylcheddol, er enghraifft, ar gyfer awyr lân, dŵr a bywyd gwyllt. Maen nhw’n llenwi’r ‘bwlch llywodraethu’ amgylcheddol a gafodd ei greu pan adawodd y DU yr UE; heb gorff cyfatebol yng Nghymru mae’r gwaith o ddiogelu ein hamgylchedd wedi gwanhau, yn ogystal â mynediad dinasyddion at gyfiawnder amgylcheddol (hawl sydd wedi’i hymgorffori yng Nghonfensiwn Rhyngwladol Aarhus).


Gallwch wylio fideo ymgyrch Climate Cymru yma, ac os nad ydych chi wedi gwneud hynny’n barod, gallwch ychwanegu eich llais at y miloedd o unigolion eraill sy’n cefnogi’r ymgyrch hon drwy fod yn rhan o’r e-weithredu.