Y Bwlch Llywodraethu Amgylcheddol yng Nghymru – dysgu gwersi o rannau eraill o’r DU

English version available here.

Yn gynharach eleni galwodd RSPB Cymru ar Lywodraeth Cymru i fynd ati ar fyrder i gyflwyno Bil Natur Bositif i Gymru – Bil a fyddai’n pennu targedau adfer natur ac yn creu corff gwarchod amgylcheddol annibynnol. Roeddem yn un o dros 300 o sefydliadau o dan faner Climate Cymru, a ysgrifennodd lythyr agored at Brif Weinidog Cymru a oedd yn galw arno i gyflwyno’r Bil eleni. Diolch i chi os oeddech yn un o’r miloedd o bobl a anfonodd eich e-bost eich hun at y Prif Weinidog yn cefnogi’r ymgyrch.

Yn anffodus, ni chafwyd ymrwymiad yr oeddem yn ei ddymuno gan y Prif Weinidog; ond mi addawodd Bapur Gwyn eleni a fyddai’n arwain at Fil yn 2025. Er bod hyn wedi rhoi rhywfaint o sicrwydd inni fod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gyflwyno Bil Natur Bositif, nid oedd yn adlewyrchu’r ymdeimlad o frys yr oeddem ni, na Phwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith y Senedd yn gobeithio’i weld.

Ym mis Medi, cyhoeddodd y Pwyllgor adroddiad ar lywodraethu amgylcheddol yng Nghymru. Wrth ei baratoi, clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Asesydd Interim Diogelu’r Amgylchedd Cymru (IEPAW) – swydd anstatudol a grëwyd gan Lywodraeth Cymru i lenwi’r bwlch nes y byddai corff gwarchod amgylcheddol parhaol yn cael ei sefydlu drwy ddeddfwriaeth. Bu’r Pwyllgor hefyd yn siarad â chynrychiolwyr o Swyddfa Diogelu'r Amgylchedd (sy’n gweithio yn Lloegr a Gogledd Iwerddon) ac Environmental Standards Scotland – cyrff annibynnol a sefydlwyd drwy gyfraith i gynnal safonau amgylcheddol yn eu gwledydd eu hunain.

Cyn hyn roedd y Pwyllgor wedi mynegi ei bryderon am nad oedd mesurau llywodraethu amgylcheddol interim Cymru’n ddigon cryf, o ganlyniad i rôl ac adnoddau annigonol yr IEPAW. Cylch gwaith yr IEPAW yw ystyried pryderon pobl am sut y mae cyfreithiau amgylcheddol yn gweithio. Yn wahanol i’r OEP ac ESS, ni all hi ystyried a yw’r cyrff cyhoeddus hynny – gan gynnwys Llywodraeth Cymru a Cyfoeth Naturiol Cymru – sy’n gyfrifol am weithredu a gorfodi o dan gyfreithiau amgylcheddol yn cydymffurfio â’u cyfrifoldebau. Mae adnoddau’n parhau i fod yn un o’r prif bryderon, a dim ond un adroddiad mae’r IEPAW wedi’i gyhoeddi hyd yma, ar ôl cael ymhell dros 20 o sylwadau.

Roedd sesiwn y Pwyllgor â’r Fonesig Glenys Stacey a Natalie Prosser – Cadeirydd a Phrif Weithredwr Swyddfa Diogelu’r Amgylchedd – a Mark Roberts, Prif Weithredwr Environmental Standards Scotland – ‘[yn rhoi] darlun clir o’r hyn mae Cymru’n colli allan arno’.

Mae’r Pwyllgor am weld Llywodraeth Cymru’n dysgu drwy brofiadau’r OEP ac ESS, ac yn ymrwymo i sefydlu corff llywodraethu amgylcheddol cysgodol cyn gynted â phosibl, cyn i’r Senedd basio’r ddeddfwriaeth. Clywodd y Pwyllgor gan y Fonesig Glenys Stacey fod sefydlu OEP interim, neu gysgodol, wedi caniatáu penodi aelodau’r Bwrdd yn gynnar, gan eu galluogi i lywio a ffurfio datblygiad y sefydliad a galluogi’r OEP i ddechrau gweithio o’r cychwyn cyntaf. Ar ôl cymaint o flynyddoedd o oedi, mae hyn yn sicr yn rhywbeth y mae ei angen ar Gymru.

Mae amser yn mynd yn brin i’r Llywodraeth i weithredu ar ei haddewid o ddeddfwriaeth yn ystod y tymor cyfredol, ac mae’r adroddiad yn datgan yn eglur bod y Pwyllgor yn disgwyl gweld cynnydd cyflym gan y Llywodraeth yn dilyn ymgynghori ar y Papur Gwyn. Mae adroddiad y Pwyllgor yn ein hatgoffa bod saith mlynedd bellach wedi mynd heibio ers refferendwm yr UE, pan fynegodd y sector amgylcheddol bryderon am y tro cyntaf ynghylch y bwlch amgylcheddol, ac mae pum mlynedd wedi mynd heibio ers i Lywodraeth Cymru ymrwymo i ddeddfu er mwyn mynd i’r afael â’r bwlch hwnnw. Mae’n mynd ymlaen i ddweud: Os nad yw’r corff newydd yn gwbl weithredol cyn diwedd cyfnod Llywodraeth Cymru mewn grym, bydd hynny’n fethiant anfaddeuol ar ei rhan. Ni allwn ond cytuno.