(scroll down for Welsh)
For links to previous updates see here and here
By now I had hoped to be reporting that avian influenza was starting to subside in our northern gannet population on Grassholm as the season wound down, but sadly that doesn’t appear to be the case. Reports of dead and dying birds washing in on the Welsh mainland coast (mainly Pembrokeshire but stretching from Carmarthenshire to Anglesey) have been increasing over the past two weeks. There are also reports of large numbers of birds washing in, or floating offshore, from Dorset to Cornwall and now the Irish coastline.
It is not only Grassholm that has been hit in this region. The Channel Islands, colonies off northern France and just last week the three main Irish colonies have all seen birds testing positive for H5N1 HPAI (Highly Pathogenic Avian Influenza)
We last went out to Grassholm on 26 August and carried out a second drone flight over the island. Although the previously unaffected areas appeared to still be so, it was clear in the space of eight days since the last visit, the existing areas affected had worsened.
The area above what we call the ‘old colony’ (where the original birds first took up residency in the late 1800’s) on the NW corner of the island has been badly hit. A much larger swath of empty nests greeted us as we approached in the boat and a quick scan with the binoculars revealed a raft of dead bodies on the island and more on the surface of the water floating around our boat.
Will and Ben from Richardson Media launched the drone and we gathered round the monitor to direct them. The vast majority of the colony still appeared largely ‘untouched’, although we’ve learnt that appearances can be deceptive, and it was still possible to pick out isolated dead birds in these sections. However on a positive note, thousands of apparently healthy chicks were busy exercising their wings in readiness for leaving the island. But it was a sobering sight when the drone passed over an affected area and, even from 100ft up, you could clearly pick out a mass of dead birds lying next to their now empty nests. And then the image returned to something more normal again, and then not….and so it went on.
A slightly different angle of the same area but it illustrates the difference in density between June 2022 (taken as part of our whole colony population census pre outbreak) compared to late August 2022) – this is repeated in several areas across the colony (photos: Richardson Media/RSPB)
The same area above as seen from sea level – the cluster of birds in a line just above the bare area might offer some hope. These could be some of the birds from the abandoned nests where one of the pair has died and they have formed a ‘failed breeding club group’, or they could simply be other non breeding birds seeking an opportunity (photo: RSPB)
It is very hard to estimate how many birds have been lost from this colony of 36,000 pairs (plus non breeders). As of 26/8 and taking into account the number of birds that had been reported to us from the mainland (which will be a small percentage of actual losses), the number of dead birds we could see on the island plus the number of empty nests, led us to a conservative and crude estimate of ‘upward of 5,000 birds’.
The empty nests might not mean every one of those birds or pairs has died. As we know from colonies further north, a lot of their ‘missing’ birds had abandoned the site and returned later in the season. However those population were on eggs and small chicks in June, and were more inclined to abandon. By the time the disease hit Grassholm in late July, adults were on medium to large chicks and less likely to do so.
Zooming in on a small section of a bare area shows how dense the nests are and how many have been lost this year (either through death or abandonment) – and the litter of bodies is clear to see (photo: RSPB/Richardson Media)
Since late August the number of dead and dying birds reported has increased with reports of ‘hundreds’ floating offshore in Cornwall and washing in on their beaches. Not all of these will be Grassholm birds but Grassholm is by far the largest colony in the region, and ultimately it doesn’t matter where they are ‘from’, these are all needless losses of one of the most magnificent seabirds in the world.
We will aim to get out to Grassholm again when the weather settles but the colony should start to shrink naturally through September as the healthy chicks fledge and their healthy parents head for wintering quarters off the coast of Iberia and west Africa. Whether they will be safe there and whether they will bring the disease back with them next year remains to be seen. We won’t know the full extent of the impact on the colony for several years and will need to carry out annual population surveys to fully understand the longer term impact.
Birds aren’t only dying at the colony or washing in on beaches – these stark photos are birds that must have flown inland in a confused state to die (photos: West Coast Birdwatching)
If you come across a dead or dying seabird this autumn / winter (not just gannets, we have also seen herring gull, guillemot and razorbill affected locally of late) please heed the advice in the Pembrokeshire County Council poster below which should be displayed on most prominent public beaches
Am ddolenni i ddiweddariadau blaenorol cliciwch yma ac yma.
Erbyn hyn roeddwn wedi gobeithio adrodd bod ffliw adar yn dechrau cilio ym mhoblogaeth huganod gogleddol Ynys Gwales wrth i’r tymor ddirwyn i ben, ond yn anffodus nid yw’n ymddangos felly. Mae adroddiadau am adar marw yn golchi i mewn ar arfordir tir mawr Cymru (Sir Benfro yn bennaf ond yn ymestyn o Sir Gaerfyrddin i Ynys Môn) wedi bod yn cynyddu dros y pythefnos diwethaf. Mae adroddiadau hefyd am niferoedd mawr o adar yn golchi i mewn, neu’n arnofio oddi ar y lan, o Dorset i Gernyw a bellach arfordir Iwerddon.
Nid Ynys Gwales yn unig sydd wedi cael ei daro yn y rhanbarth hwn. Mae Ynysoedd y Sianel, cytrefi oddi ar ogledd Ffrainc a dim ond yr wythnos diwethaf y tair prif nythfa Wyddelig i gyd wedi gweld adar yn profi’n bositif am H5N1 HPAI (Ffliw Adar Pathogenig Iawn).
Aethon ni allan i Ynys Gwales ddiwethaf ar 26 Awst a chynnal ail awyren drôn dros yr ynys. Er ei bod yn ymddangos bod yr ardaloedd nas effeithiwyd arnynt o'r blaen yn dal i fod felly, roedd yn amlwg ymhen wyth diwrnod ers yr ymweliad diwethaf, bod yr ardaloedd yr effeithiwyd arnynt eisoes wedi gwaethygu.
Mae’r ardal uwchben yr hyn rydyn ni’n ei alw’n ‘hen nythfa’ (lle dechreuodd yr adar gwreiddiol breswylio am y tro cyntaf ar ddiwedd y 1800au) ar gornel ogledd-orllewinol yr ynys wedi’i tharo’n wael. Gwelsom ardaloedd mawr o nythod gweigion wrth i ni nesáu yn y cwch a datgelodd sgan sydyn gyda’r ysbienddrych lu o gyrff marw ar yr ynys a mwy ar wyneb y dŵr yn arnofio o amgylch ein cwch.
Lansiodd Will a Ben o Richardson Media y drôn ac ymgasglu o gwmpas y monitor i'w cyfeirio. Roedd y mwyafrif helaeth o’r nythfa yn dal i ymddangos yn ‘ddigyffwrdd’ i raddau helaeth, er ein bod wedi dysgu y gall ymddangosiadau fod yn dwyllodrus, a’i bod yn dal yn bosibl nodi adar marw ynysig yn yr adrannau hyn. Fodd bynnag, ar nodyn cadarnhaol, roedd miloedd o gywion a oedd yn ymddangos yn iach yn brysur yn ymarfer eu hadenydd yn barod ar gyfer gadael yr ynys. Ond roedd yn olygfa ysgytwol pan basiodd y drôn dros ardal yr effeithiwyd arni a, hyd yn oed o 100 troedfedd i fyny, roedd yn amlwg y gallech weld llu o adar marw yn gorwedd wrth ymyl eu nythod sydd bellach yn wag. Ac yna dychwelodd y ddelwedd i rywbeth mwy normal eto, ac yna ddim….ac felly aeth ymlaen.
Ongl ychydig yn wahanol o’r un ardal ond mae’n dangos y gwahaniaeth mewn dwysedd rhwng Mehefin 2022 (a gymerwyd fel rhan o’n cyfrifiad poblogaeth gyfan cyn yr achos) o gymharu â diwedd mis Awst 2022) – ailadroddir hyn mewn sawl ardal ar draws y nythfa (lluniau: RSPB)
Yr un ardal uwchben ag a welir o lefel y môr – efallai y bydd y clwstwr o adar mewn llinell, ychydig uwchben yr ardal foel, yn cynnig rhywfaint o obaith. Gallai’r rhain fod yn rhai o’r adar o’r nythod segur lle mae un o’r pâr wedi marw ac maen nhw wedi ffurfio ‘grŵp clwb a fethodd fagu’, neu gallent fod yn adar eraill nad ydynt yn bridio yn chwilio am gyfle (llun: RSPB/Richardson Media)
Mae'n anodd iawn amcangyfrif faint o adar sydd wedi'u colli o'r nythfa hon o 36,000 o barau (ynghyd â rhai nad ydynt yn bridio). O 26/8 ymlaen, a chan gymryd i ystyriaeth nifer yr adar marw a adroddwyd i ni o'r tir mawr (sef canran fechan o'r colledion gwirioneddol) a nifer yr adar marw y gallem eu gweld ar yr ynys ynghyd â'r nifer o nythod gwag, gallwn wneud amcan gyfrifiad ceidwadol o 'dros 5,000 o adar'.
Efallai na fydd y nythod gwag yn golygu bod pob un o'r adar neu'r parau hynny wedi marw. Fel y gwyddom o gytrefi ymhellach i’r gogledd, roedd llawer o’u hadar ‘coll’ wedi gadael y safle ac wedi dychwelyd yn ddiweddarach yn y tymor. Fodd bynnag, roedd y boblogaeth hynny yn gofalu am wyau ac yn edrych ar ôl cywion bach ym mis Mehefin, ac yn fwy tueddol o gefnu arnynt. Erbyn i'r clefyd gyrraedd Ynys Gwales ddiwedd mis Gorffennaf, roedd oedolion yn gofalu am gywion canolig i fawr ac yn llai tebygol o wneud hynny.
Mae chwyddo i mewn ar ran fechan iawn o lecyn moel yn dangos pa mor agos at eu gilydd yw’r nythod a faint sydd wedi’u colli eleni (naill ai drwy farwolaeth neu drwy adael) – ac mae cyrff yn glir i’w weld (llun: RSPB/Richardson Media)
Ers diwedd mis Awst roedd nifer yr adar marw a marw yr adroddwyd amdanynt wedi cynyddu gydag adroddiadau o ‘gannoedd’ yn arnofio ar y môr yng Nghernyw. Nid adar Ynys Gwales fydd pob un o’r rhain ond Ynys Gwales yw’r nythfa fwyaf yn y rhanbarth o bell ffordd, ac yn y pen draw does dim ots o ble maen nhw’n dod, mae’r rhain i gyd yn golledion diangen o un o adar môr mwyaf godidog y byd.
Byddwn yn anelu at fynd allan i Ynys Gwales eto pan fydd y tywydd yn setlo ond dylai’r nythfa ddechrau crebachu’n naturiol drwy fis Medi wrth i’r cywion iach fagu plu a’u rhieni iach anelu am y gaeafau oddi ar arfordir Iberia a gorllewin Affrica. Erys i'w weld a fyddant yn ddiogel yno ac a fyddant yn dod â'r afiechyd yn ôl gyda nhw y flwyddyn nesaf. Ni fyddwn yn gwybod maint llawn yr effaith ar y nythfa am nifer o flynyddoedd a bydd angen inni gynnal arolygon poblogaeth blynyddol i ddeall yr effaith tymor hwy yn llawn.
Nid yn unig y mae adar yn marw yn y nythfa ac yn cael eu gweld ar draethau - mae'r lluniau llwm hyn yn adar y mae'n rhaid eu bod wedi hedfan i mewn i'r tir mewn cyflwr dryslyd i farw (lluniau: West Coast Birdwatching)
Os byddwch yn dod ar draws aderyn môr sydd wedi marw neu’n marw yr hydref/gaeaf hwn (nid dim ond huganod, rydym hefyd wedi gweld gwylanod penwaig, gwylogod a llurs yr effeithir arnynt yn lleol yn ddiweddar) gwrandewch ar y cyngor ar boster Cyngor Sir Benfro (isod) a ddylai gael ei arddangos ar y rhan fwyaf o traethau cyhoeddus