To read this blog in English please click here.

Mae Gwastadeddau Gwent yn glytwaith hynafol o dirweddau sy’n gyfoethog mewn natur. Maent yn ymestyn o Gaerdydd hyd at Bont Hafren a thu hwnt ac yn cynnal amrywiaeth o anifeiliaid a phlanhigion. Mae'n lle delfrydol i bawb, o bobl sy’n mwynhau bywyd gwyllt a cherddwyr, i archeolegwyr, ac i artistiaid hefyd. Mae hi’n ardal arbennig i bobl ac i natur, ond yn anffodus mae hi’n wynebu bygythiad difrifol.

Fel y gwyddoch o bosib, mae’r blynyddoedd diwethaf wedi bod yn gyfnod cythryblus i’r ardal o ganlyniad i gynlluniau Llywodraeth Cymru i ddargyfeirio’r M4 a thorri drwy ganol Gwastadeddau Gwent. Cymerodd 5,000 ohonoch chi ran yn eu hymgynghoriad y llynedd, a hoffwn ddiolch i chi am eich ymateb cadarn. Roedd ymchwiliad cyhoeddus ar fin agor ym mis Tachwedd y llynedd, ond, cyhoeddodd Ken Skates AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith, fod hynny wedi’i ohirio. Efallai i chi ddarllen hynny ar ein blog yn ôl ym mis Hydref 2016. Yn olaf, gallwn gadarnhau y bydd yr ymchwiliad cyhoeddus nawr yn agor ddydd Mawrth 28 Chwefror

Mae cynllunio ac adeiladu darn enfawr o seilwaith fel gwyriad yr M4 yn cymryd blynyddoedd – degawdau yn yr achos hwn – ond mae’n hanfodol ein bod ni’n cadw’r pwysau ar Lywodraeth Cymru er mwyn iddynt ddod o hyd i ffordd gynaliadwy  o weithio. Rydym felly dal angen eich help i roi pwysau ar Lywodraeth Cymru i ail-feddwl ei gynlluniau i niweidio un o'n tirweddau mwyaf annwyl. 

Crynodeb: Beth fydd yr ymchwiliad yn edrych arno?

Mae Llywodraeth Cymru wedi nodi bod y tagfeydd traffig o amgylch Casnewydd yn broblem fawr sydd angen ein sylw. O ganlyniad, cynigiwyd adeiladu darn newydd o draffordd i'r de o’r ddinas. Fodd bynnag, mae llwybr arfaethedig y Llywodraeth yn mynd yn syth drwy bedwar safle gwarchodedig arbennig ar gyfer bywyd gwyllt, gan ddinistrio cynefinoedd hanfodol ac unigryw.

I weld llwybr arfaethedig Llywodraeth Cymru, gwyliwch eu fideo.

Beth rydym yn ei wneud?

Mae RSPB Cymru wedi cyflwyno tystiolaeth ysgrifenedig i’r ymchwiliad cyhoeddus sy’n amlygu rhai o’r effeithiau ecolegol y byddai’r gwyriad arfaethedig yn eu cael ar ardal Gwastadeddau Gwent. Er enghraifft, byddai’r llwybr arfaethedig yn effeithio ar gartref newydd Lofty a Gibble, y garannod bridio. Byddai’n torri drwy ei ganol gan adael eu hardal fagu ar un ochr i’r draffordd a’u hardal fwydo ar y llall. Byddai’r fath darfu’n atal yr adar prin hyfryd hyn rhag byw yn yr ardal.

Mae ein tystiolaeth hefyd yn dadlau nad yw dull Llywodraeth Cymru o ddatrys y problemau yn cyd-fynd â deddfwriaethau datblygu cynaliadwy newydd Cymru, sef Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (2015) a Deddf yr Amgylchedd (2016). 

Mae RSPB Cymru yn gweithio gyda nifer o sefydliadau eraill i wneud yn siŵr bod Llywodraeth Cymru yn ymwybodol bod y gwyriad yn fygythiad i natur, ac yn galw ar y llywodraeth i ddangos arweinyddiaeth wrth roi deddfau newydd Cymru ar waith, drwy adolygu’r problemau o ran tagfeydd i ddod o hyd i ateb sydd wir yn gynaliadwy.

Sut gallwch chi gymryd rhan?

Trydar

Gallwch bwysleisio’ch gwrthwynebiad i’r M4 a rhoi pwysau ar Lywodraeth Cymru drwy drydar amdano. Dyma'r hashnodau i’w defnyddio a'r bobl i’w tagio:

Hashnodau: #CarurGwastadeddau #LovetheLevels

Pobl: @fmwales (Carwyn Jones AC, Prif Weinidog Cymru), @wgcs_economy (Ken Skates AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith) @wgcs_enviro (Lesley Griffiths AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig)

Cysylltu â Llywodraeth Cymru

I ofyn cwestiwn ynglŷn â phrosiect coridor yr M4 o amgylch Casnewydd neu i wneud apwyntiad, cysylltwch â Brian Greaves, Swyddog Cyswllt â’r Cyhoedd Llywodraeth Cymru ar gyfer yr ymchwiliad. Defnyddiwch y ffurflen hon.

Gwyliwch/gwrandewch ar gyfarfodydd yr ymchwiliad

Gallwch wylio neu wrando ar gyfarfodydd yr ymchwiliad cyhoeddus, a fydd yn para am bedwar diwrnod yr wythnos am bum mis. Edrychwch ar ddogfen Llywodraeth Cymru, ‘Beth sydd angen i chi ei wybod’ i gael rhagor o wybodaeth ar sut mae cymryd rhan.

Tarwch olwg ar ein blog

Er mwyn cael y straeon diweddaraf am ddatblygiad yr ymchwiliad, cadwch lygad ar ein blog We Love Wales.

Eisiau rhagor o wybodaeth?

Cewch ragor o wybodaeth am Ffordd Liniaru'r M4 yma: