I ddarllen y blog yma yn Saesneg cliciwch yma
Blog gwahoddedig gan Katie-Jo Luxton, Cyfarwyddwr RSPB Cymru Mae’r ddeddfwriaeth ddrafft ynglŷn â gwyriad arfaethedig yr M4 drwy Wastadeddau Gwent dan ymgynghoriad ar hyn o bryd. Mae RSPB Cymru yn gofyn i aelodau o'r cyhoedd i wrthwynebu i gynigion yr M4. Yn y blog gwestai yma mae Katie-jo Luxton, Cyfarwyddwr RSPB Cymru, yn esbonio pam mae angen gwrthwynebu deddfwriaeth M4 Llywodraeth Cymru a diogelu Gwastadeddau eiconig Gwent.
Mae Gwastadeddau hanesyddol Gwent, a saif ar arfordir Aber Hafren, o Gaerdydd hyd Bont Hafren a thu hwnt, yn llawn o fyd natur ac yn glytwaith o wahanol dirluniau a hafanau bywyd gwyllt.
Yn anffodus mae bygythiad gwyriad traffordd newydd ar yr M4 wedi peri bygythiad i’r tirlun gwerthfawr hwn ers dros 20 mlynedd. Byddai’r gwyriad a gynigir yn torri ar draws pum ardal warchodedig (SDdGA - Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig) sy’n bwysig yn genedlaethol i fywyd gwyllt - allwn ni ddim caniatáu i hyn ddigwydd.
Llun chwith: cornchwiglen, llun dde: bombus sylvarum
Dros yr ychydig o flynyddoedd diwethaf, mae RSPB Cymru wedi bod yn cydweithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru i ddatblygu a sicrhau deddfwriaeth hanfodol gyda’r bwriad o greu Cymru well, iachach, mwy cynaliadwy a mwy gwyrdd. Yn eironig iawn, ers hynny mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cynlluniau i wyro traffordd chwe heol drwy Gwastadeddau Gwent - yn golygu dinistr o rhan fawr o SDdGA'r Lefelau.
Bellach mae Llywodraeth Cymru wedi agor ymgynghoriad cyhoeddus i ganfod eich barn chi ac mae angen eich cymorth arnom i ddangos iddyn nhw y byddai gwyro traffordd drwy galon SDdGA Gwastadeddau Gwent yn gamgymeriad enfawr.
Y Gwastadeddau yw’r arwyneb mwyaf o gors bori arfordirol a gorlifdir yng Nghymru, ac un o’r mwyaf yn y DU, ac mae’n gartref i ystod ryfeddol o fywyd gwyllt yn cynnwys y gornchwiglen, y dyfrgi, llygoden bengron y dŵr, y chwilen ddŵr fawr arian ac un o gacwn prinnaf y DU, y gardwenynen fain. Yn yr ardal hefyd gwelir nifer o blanhigion arbenigol yn cynnwys y ffugalaw bach, y saethlys ac Wolffia, phlanhigyn blodeuol lleia’r byd.
Llun chwith: dyfrgi, llun dde: llygoden bengron y dŵr
Mae llawer o’r rhywogaethau hyn mewn perygl o ddiflannu’n gyfan gwbl, a byddai dinistrio eu cartref wrth adeiladu heol newydd drwyddo’n cael effaith ddistrywiol a diwrthdro wrth iddi dorri drwy’r tirlun. Byddai’n creu rhwystr angheuol o drafnidiaeth a fyddai’n amhosibl i fywyd gwyllt ei groesi, a byddai hefyd yn golygu llif llygredd o wyneb yr heol i’r dyfrffyrdd cyfagos - tiroedd y mae llawer o fywyd gwyllt y Gwastadeddau’n dibynnu arnyn nhw.
Nid yw ein bywyd gwyllt gwerthfawr yn cael ei werthfawrogi, mae’n cael ei anwybyddu ac mae mewn perygl o ddiflannu’n llwyr. Mae’n rhaid rhoi’r gorau i ddinistrio ein treftadaeth naturiol. Mae’r cynnig hwn am heol yn enghraifft o’r hen ddull llywodraethol o weithredu, sy’n ystyried ein hamgylchedd fel adnodd i’w ddefnyddio a’i ecsbloetio er mwyn sicrhau budd tymor byr yn unig.
Os bydd Llywodraeth Cymru’n bwrw ymlaen â chreu gwyriad arfaethedig yr M4 ar draws ardal sydd mor bwysig i fyd natur â Gwastadeddau Gwent, yna a oes unrhyw le yng Nghymru yn ddiogel i fyd natur? Mae hefyd yn dangos bod ymrwymiad Deddf Cenedlaethau’r Dyfodol “i gynnal a gwella amgylchedd naturiol bioamrywiol gydag ecosystemau gweithredol iach” yn ddim mwy na rhethreg a gwynt poeth.
Amcangyfrifir y byddai cost y draffordd newydd dros £1biliwn; hefyd ni fyddai modd ei defnyddio’n llawn hyd 2022. Fodd bynnag, byddai modd rhoi dewis cynaliadwy a rhatach arall ar waith yn yr ychydig flynyddoedd nesaf; er enghraifft, gwelliannau i heolydd sy’n bodoli eisoes a gwella trafnidiaeth gyhoeddus drwy gyfrwng Metro newydd a gynigir ar gyfer de Cymru.
Beth sy’n digwydd nesaf?
Ar ddydd Iau 11 Mawrth, lansiodd Llywodraeth Cymru ei ymgynghoriad cyhoeddus i ganfod eich barn chi ar ddatblygiad gwyriad traffordd yr M4. Dyma’ch cyfle chi i amddiffyn Gwastadeddau hardd Gwent a’r rhywogaethau unigryw sy’n byw yno. Gyda’n gilydd, fe allwn berswadio Llywodraeth Cymru i ailystyried eu cynlluniau i niweidio un o dirluniau pwysicaf Cymru.
Dim ond ychydig o funudau’n unig sydd eu hangen arnoch i ymateb i’r ymgynghoriad ac mae pob ymateb yn bwysig, felly gwnewch wahaniaeth os gwelwch yn dda drwy e-bostio Llywodraeth Cymru’n uniongyrchol i bwyso arnyn nhw i roi’r gorau i’w cynnig. Y cwbl sy’n rhaid i chi ei wneud yw ymateb erbyn 4 Mai i sicrhau bod y rhan gwerthfawr hon o’r wlad ffynnu am flynyddoedd maith i ddod.
Cliciwch yma os gwelwch yn dda i ymateb i’r ymgynghoriad cyhoeddus.
Llun chwith a dde: Gwastadeddau Gwent