English version available here
Mae’r amser wedi dod unwaith eto lle rydyn ni’n gofyn i chi neilltuo awr o’ch diwrnod i helpu byd natur ar garreg eich drws. Y llynedd, cymerodd 29,495 ohonoch ran yn yr arolwg ar hyd a lled Cymru, ac mae angen eich help arnom i gyrraedd 30,000 dros y penwythnos.
Mae’n hawdd cymryd rhan. P’un a ydych chi’n wyliwr adar profiadol ynteu’n awyddus i fwynhau awr hamddenol ym myd natur, mae Gwylio Adar yr Ardd yn gyfle i gymryd rhan yn arolwg mwyaf y byd o fywyd gwyllt yr ardd, ac i gael ychydig o hwyl wrth wneud hynny.
Ym mhob cwr o Gymru a’r tu hwnt, mae adar yn wynebu heriau na welwyd mo’u tebyg o’r blaen. O golli cynefinoedd i newid hinsawdd, mae cymaint o’n rhywogaethau poblogaidd yn dirywio ac mae’n hollbwysig ein bod yn dysgu pam. Mae’r gweithgaredd syml hwn yn ein helpu i gadw golwg ar iechyd a phoblogaethau’r holl wahanol rywogaethau o adar sy’n ymweld â’n gerddi a’n mannau gwyrdd ni, drwy ddarparu data hanfodol i gefnogi ymdrechion cadwraeth bywyd gwyllt. Mae’n ein helpu i gael darlun cliriach o sefyllfa adar yr ardd ar hyd a lled Cymru, ac yn ein helpu i wneud penderfyniadau gwybodus am y camau y mae angen eu cymryd i’w hamddiffyn.
Ond nid cyfri adar yw’r unig beth sy’n bwysig; mae hefyd yn bwysig cysylltu â natur, dysgu mwy am y rhywogaethau o’n cwmpas, a bod yn rhan o fudiad cenedlaethol sy’n helpu i warchod y bywyd gwyllt rydyn ni’n ei garu. Dros y blynyddoedd, mae Gwylio Adar yr Ardd wedi dod yn draddodiad poblogaidd iawn ymysg teuluoedd, pobl sy’n frwd dros fyd natur, a chymunedau – ac rydyn ni eisiau i chi fod yn rhan ohono.
Mae gwylio adar yn ffordd wych o ddysgu am y byd natur sydd ar garreg eich drws. P’un a ydych chi’n gwylio o ffenestr eich ystafell fyw ynteu’n eistedd y tu allan gyda diod gynnes, mae’n gyfle i ymgyfarwyddo â’r gwahanol rywogaethau sy’n ymweld â’ch man awyr agored chi. Mae’n bosib y byddwch yn rhyfeddu at yr amrywiaeth o adar sy’n ymweld â chi, o adar cyfarwydd fel y Robin Goch a’r Aderyn Du, i rai mwy swil fel y Titw Cynffon Hir neu’r Nico. Mae gan bob aderyn ei stori ddiddorol ei hun i’w hadrodd!
Rydyn ni hefyd yn credu’n gryf y dylai pawb gael cyfle i brofi llawenydd a heddwch byd natur. Mae hwn yn weithgaredd ar gyfer pobl o bob oed a gallu, ac yn un y gallwch ei fwynhau ar eich pen ei hun, gyda ffrind, fel teulu, neu hyd yn oed gyda grŵp o gydweithwyr. Mae hefyd yn wrthbwynt perffaith i brysurdeb bywyd bob dydd.
Nid yw’n costio ceiniog i chi gymryd rhan, ac mae’n hawdd – does dim angen profiad nac offer arbennig arnoch chi. Y cyfan sydd ei angen arnoch yw awr o’ch amser a llecyn i wylio adar.
Felly, y penwythnos hwn, byddwch yn rhan o rywbeth ystyrlon, a chymerwch ran ym mhrosiect gwyddoniaeth dinasyddion mwyaf y byd. Gwnewch wahaniaeth a dysgwch rywbeth newydd drwy gofrestru yma. Helpwch ni i sicrhau mai’r digwyddiad Gwylio Adar yr Ardd eleni yw’r un mwyaf effeithiol eto.