English version available here
Mae’r RSPB yn poeni am effeithiau amgylcheddol rhyddhau nifer fawr o Ffesantod a Phetris Coesgoch mewn dwysedd uchel, fel y disgrifir yn y blog hwn. Mae RSPB Cymru yn croesawu dadansoddiad Cyfoeth Naturiol Cymru, ar ran Llywodraeth Cymru, sy’n cynnig trwyddedu rhyddhau adar o'r fath. Lle caniateir hynny, byddai hyn yn gosod amodau o ran niferoedd adar hela anfrodorol sy’n cael eu rhyddhau a lleoliad y rhyddhau.
Rydym yn llunio ein hymateb manwl, ond mae llawer o gefnogwyr wedi gofyn i ni beth yw ein barn am y cynigion. Bydd rhai yn dymuno cefnogi ein gwaith e-weithredu [dolen], ond mae eraill wedi gofyn am ragor o fanylion er mwyn iddynt ymateb i’r ymgynghoriad yn fwy manwl hefyd. Rydym wedi amlinellu ein barn am y pum cwestiwn isod. Bydd eich profiadau chi o reoli’r broses o ryddhau adar hela yng Nghymru yn darparu gwybodaeth werthfawr ar gyfer yr ymgynghoriad, er efallai eich bod yn teimlo nad ydych chi am ateb bob cwestiwn.
Gallwch ateb y cwestiynau ar hyb ymgynghori Cyfoeth Naturiol Cymru neu drwy anfon e-bost at Gamebirds@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk. Daw’r ymgynghoriad i ben ar ddydd Mawrth, 20 Mehefin.
Gobeithio y bydd ein sylwadau i gwestiynau’r ymgynghoriad isod yn ddefnyddiol i chi wrth i chi baratoi eich ymateb eich hun.
(Cwestiwn 4) Ydych chi’n cytuno y dylid ychwanegu ffesantod cyffredin a phetris coesgoch at Ran 1 o Atodlen 9 i Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 yng Nghymru? Byddai’r newid hwn yn golygu y byddai’n rhaid rhyddhau’r rhywogaethau hynny yng Nghymru o dan drwydded. Rhowch resymau dros eich safbwyntiau.
Ein hateb: Ydy, mae ychwanegu ffesantod a phetris coesgoch at Atodlen 9 yn ymateb priodol a chyfiawn i’r adolygiad a gynhaliwyd gan Cyfoeth Naturiol Cymru. Nid yw’r dull gwirfoddol o hunanreoleiddio wedi dangos ei fod yn gallu ymateb yn effeithiol i’r heriau sy’n codi gan dystiolaeth sy’n dod i’r amlwg o effeithiau amgylcheddol rhyddhau a gwaith rheoli cysylltiedig. Ni all Llywodraeth Cymru na Cyfoeth Naturiol Cymru ddibynnu ar hunanreoleiddio, yn enwedig o ystyried diffyg data ar raddfa a dosbarthiad rhyddhau yng Nghymru.
(Cwestiwn 5) Os bydd y rhywogaethau hyn yn cael eu hychwanegu at Atodlen 9, rhowch eich barn ynghylch a fyddai ein dull trwyddedu arfaethedig yn effeithiol ac yn gymesur?
Ein hateb: Rydym yn cefnogi’r cynigion ar gyfer trwyddedu yn gyffredinol, yn enwedig y drefn gaeth o gael trwyddedau pwrpasol ar gyfer safleoedd gwarchodedig sensitif. Fodd bynnag, nid ydym yn credu y bydd clustogfa 500m o amgylch Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) yn sicrhau digon o warchodaeth ac rydym yn credu bod tystiolaeth dda i gyfiawnhau clustogfa o 1000m.
Rydym yn credu y dylid cael trwydded bwrpasol ar gyfer pob achos o ryddhau (gan gael rhai llai llym ar gyfer rhyddhau niferoedd llai). Mae adroddiad Cyfoeth Naturiol Cymru ei hun yn dangos nad yw dros 90% o Goetir Lled-naturiol Hynafol, a allai fod yn sensitif i ddifrod gan ddwysedd uchel o adar hela yn cael eu rhyddhau, yn cael eu gwarchod gan ddynodiad SoDdGA. Oni wneir ymdrechion sylweddol mewn perthynas â gorfodi, rydym yn amau bod Trwydded Gyffredinol yn cael ei hystyried fel caniatâd i barhau ‘fel arfer’.
Mae’r cynigion yn colli cyfle pwysig i Cyfoeth Naturiol Cymru gasglu rhagor o wybodaeth am raddfa a lleoliad y rhyddhau. Dylai fod yn ofynnol i bob daliwr trwydded ddarparu’r data hwn i Cyfoeth Naturiol Cymru bob blwyddyn o dan unrhyw drwydded. Byddai hyn yn galluogi Cyfoeth Naturiol Cymru i ddeall tueddiadau’r dyfodol.
Rydym yn cefnogi’r cynnig i adolygu’r cynllun trwyddedu ymhen pum mlynedd ac yn gofyn i Cyfoeth Naturiol Cymru ymrwymo’n ffurfiol i’r adolygiad hwnnw. Nid ydym yn credu y bydd modd gwerthuso effeithiolrwydd y rheoleiddio heb adroddiadau gorfodol ar raddfa a dosbarthiad pob achos o ryddhau a hapwiriadau o dan y Drwydded Gyffredinol a thrwyddedau pwrpasol.
(Cwestiwn 6) Rydym wedi seilio amodau’r drwydded gyffredinol arfaethedig ar gyfer rhyddhau ffesantod ar yr argymhellion yng nghanllawiau GWCT ar ryddhau adar hela yn gynaliadwy. Fodd bynnag, nid yw’r canllawiau’n cynnwys trothwyon dwysedd penodol ar gyfer petris coesgoch ac mae’n ymddangos bod llai o dystiolaeth i seilio amodau sy’n ymwneud â phetris arni. Rydym wedi defnyddio’r dystiolaeth sydd ar gael, a barn arbenigol, i gynnig amodau ar gyfer rhyddhau petris. Mae’r rhain naill ai’n seiliedig ar drothwy dwysedd sy’n gysylltiedig ag arwynebedd y cnwd gorchudd sydd ar gael, neu ar ddwysedd yr hectar o’r gorlan rhyddhau (fel gyda ffesantod), yn dibynnu ar sut caiff yr adar eu rhyddhau. Byddem yn croesawu barn ynghylch a yw’r cynigion hyn yn briodol ac yn ymarferol ac a ellid eu gwella.
Ein hateb: Yn ein barn ni, gan nad oes tystiolaeth gadarn mewn perthynas â Phetris Coesgoch, mae’n rhesymol cynnwys barn arbenigol. Os oes gennych chi brofiad i roi sylw ar y cwestiwn hwn, cofiwch wneud hynny.
(Cwestiwn 7) Mae canllawiau GWCT yn cynnwys argymhelliad na ddylid defnyddio mwy nag un rhan o dair o goetiroedd sydd â buddiant hela ar gyfer corlannau rhyddhau. Gwneir hyn er mwyn sicrhau bod digon o goetir ar ôl sy’n gallu elwa o weithgareddau rheoli cynefinoedd. Hoffem gynnwys yr argymhelliad hwn yn ein trwydded gyffredinol arfaethedig. Fodd bynnag, byddai’n well gennym allu diffinio’r hyn y gellir ei gynnwys yn y cyfrifiad. Oes gennych chi awgrymiadau ynghylch sut gellid cyflawni hyn?
Ein hateb: Rydym yn cefnogi’r angen i ymgorffori’r elfen ofodol o ganllawiau GWCT oherwydd byddant yn cael eu tanseilio heb hynny. Rydym yn credu y dylai hyn fod yn amod trwydded, nid argymhelliad yn unig.
(Cwestiwn 8) Mae’n ymddangos mai lleoliad a dwysedd yw’r prif ffactorau sy’n dylanwadu ar effaith amgylcheddol rhyddhau, ond rydym yn cydnabod bod rhyddhau llai o adar mewn ardaloedd llai sensitif yn debygol o arwain at lai o risgiau. Gall fod yn briodol nad yw rhyddhau niferoedd bach o adar hela i ffwrdd o safleoedd gwarchodedig sensitif a’u clustogfeydd yn ddarostyngedig i’r un amodau trwydded gyffredinol sy’n berthnasol i ryddhau niferoedd mwy. Ydych chi’n meddwl bod hyn yn rhywbeth y dylem ei ystyried? Rhowch resymau os gwelwch yn dda.
Ein hateb: Rydym yn cydnabod bod y risg o ddifrod amgylcheddol yn is pan fydd niferoedd llai o adar hela yn cael eu rhyddhau. Rydym yn credu y gallai Cyfoeth Naturiol Cymru ystyried eithrio rhai amodau ar gyfer rhyddhau niferoedd llai o safleoedd sensitif. Nid yw’n glir sut y byddai “bach” yn cael ei ddiffinio ac awgrymir bod Cyfoeth Naturiol Cymru yn ystyried a ddylai llacio o’r fath fod yn berthnasol i Goetiroedd Lled-naturiol Hynafol.