Trwyddedu rhyddhau adar hela i gefn gwlad Cymru: pam rheoleiddio, a pham nawr?

English version available here


Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn gofyn am safbwyntiau ar ei gynigion i reoleiddio’r broses o ryddhau Ffesantod a Phetris coesgoch yng Nghymru. Mae’r blog hwn yn egluro pam ein bod yn cefnogi’r cynigion a sut gallwch chi helpu.

Mae gennym bryderon cynyddol am effaith amgylcheddol niferoedd mawr o adar hela sy’n cael eu rhyddhau i gefn gwlad. Mae Ffesantod a Phetris coesgoch yn cael eu magu mewn siediau bob gwanwyn ac yn cael eu symud i gorlannau mewn coetiroedd neu dir cnwd, ac maen nhw’n cael eu rhyddhau o’r rheini yn ystod yr haf. Mae’r tymor saethu yn dechrau ar 1 Medi ar gyfer petris ac ar 1 Hydref ar gyfer Ffesantod.

Yn gyntaf, yr wyddoniaeth

Mae adolygiad Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cael ei lywio gan nifer o adroddiadau gwyddonol, gan gynnwys un a gyhoeddwyd gan Ganolfan Gwyddoniaeth Cadwraeth yr RSPB.

Canfu’r adolygiad hwn y gall rheoli cynefinoedd, rheoli ysglyfaethwyr a bwydo atodol sy’n gysylltiedig â rheoli ystadau anifeiliaid hela fod o fudd i fywyd gwyllt brodorol ar dir fferm ac mewn coedwigoedd. Mewn tirweddau sydd wedi cael eu haddasu’n helaeth gan amaethyddiaeth ddwys, gall rheolaeth o’r fath fod yn achubiaeth.

Fodd bynnag, pan fydd niferoedd mawr neu ddwysedd uchel o adar hela yn cael eu rhyddhau, gall fod yn niweidiol iawn i’r amgylchedd yn sgil y pethau canlynol:

  • effeithiau uniongyrchol, fel pori planhigion, ysglyfaethu ymlusgiaid ac infertebratau, cystadleuaeth am adnoddau bwyd sy’n cael eu bwyta gan fywyd gwyllt brodorol a chyfoethogi pridd.
  • trosglwyddo clefydau i fywyd gwyllt, fel ffliw adar pathogenig iawn (ffliw adar)
  • newidiadau i gydbwysedd ysglyfaethwyr ac ysglyfaeth rhywogaethau sydd dan fygythiad (gall adar hela fod yn ffynhonnell fwyd atodol i ysglyfaethwyr, fel llwynogod)
  • mae arferion saethu, gan gynnwys saethu plwm sy’n llygru’r amgylchedd, yn cael eu llyncu gan sborionwyr ac yn gallu mynd i mewn i’r gadwyn fwyd.
  • erlid rhywogaethau a warchodir yn anghyfreithlon, gan gynnwys adar ysglyfaethus.
  • arferion rheoli cnofilod sy'n cael effaith negyddol ar famaliaid ac adar brodorol drwy ddefnyddio gwenwyn llygod.

Mae data ar raddfa a lleoliadau rhyddhau adar hela yn druenus o annigonol. Roedd adroddiad a gomisiynwyd gan Cyfoeth Naturiol Cymru yn amcangyfrif bod rhwng 0.8 a 2.3 miliwn o adar hela yn cael eu rhyddhau bob blwyddyn yng Nghymru, gan rhwng 171 a 431 o griwiau hela. Mae tua thri chwarter y criwiau hela yng Nghymru yn rhyddhau llai na 3,000 o adar bob blwyddyn, ond mae rhai criwiau’n rhyddhau niferoedd llawer mwy. Rhyddhaodd un criw tua 120,000 o adar mewn un haf.

 

Pam rheoleiddio, a pham nawr?

Ddwy flynedd yn ddiweddarach, ac yn dilyn trafodaethau helaeth gyda chynrychiolwyr saethu, bu ymddiriedolwyr yr RSPB yn asesu’r diffyg cynnydd dros ddegawdau o ran lleihau effaith adar hela a ryddhawyd ar yr amgylchedd. Rydyn ni eisiau gweld saethu adar hela yn cyfrannu at adfer natur, yn yr un ffordd ag y byddem yn rheoli unrhyw dir, fel ffermio a choedwigaeth.

Nid oedd dibynnu ar hunan-reoleiddio, na'r lefel isel o gydymffurfio â’r rheolau cyfyngedig presennol a welwyd, yn argyhoeddi ymddiriedolwyr yr RSPB bod y diwydiant yn gallu sicrhau newid cadarnhaol ar unrhyw amserlen ystyrlon. Rydyn ni’n croesawu’r ffaith bod adolygiad CNC wedi dod i’r un casgliad.

Mae pryder yr RSPB yn ymwneud yn bennaf â chriwiau hela ar raddfa fawr yn rhyddhau dwysedd uchel o adar hela. Mae criwiau llai sy’n rhyddhau llai o adar yn llawer llai tebygol o fod yn niweidiol. Rydyn ni hefyd yn cydnabod y manteision y gall y gwaith o reoli gan griwiau hela ei gael i fywyd gwyllt brodorol. Serch hynny, mae’r RSPB yn credu bod rheoleiddio pellach a gorfodi’r rheolau presennol yn well yn hanfodol er mwyn cyflawni’r newidiadau angenrheidiol yn wyneb argyfwng hinsawdd a byd natur.

 

Beth mae CNC yn ei gynnig?

Yn gryno, byddai’r cynigion yn cynnwys y canlynol:

  • Ei gwneud yn anghyfreithlon cyflwyno Ffesantod a Phetris coesgoch heb ganiatâd.
  • Ar rai o’r safleoedd pwysicaf ar gyfer bywyd gwyllt (Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig), byddai angen trwydded ar unrhyw un sydd eisiau rhyddhau’r adar hela hyn. Byddai’n rhaid i Cyfoeth Naturiol Cymru fod yn fodlon na fyddai’r adar hela yn achosi difrod. Byddai’r gofyniad hwnnw’n ymestyn i 500 metr o amgylch pob Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig oherwydd gall adar hela grwydro pellter da oddi wrth y gorlan rhyddhau.
  • Ym mhobman arall yng Nghymru, byddai rhyddhau yn gweithredu o dan ‘Drwydded Gyffredinol’. Byddai hyn yn diffinio uchafswm nifer yr adar sy’n cael eu rhyddhau mewn ardal. Byddai’n rhaid i unrhyw un sy’n rhyddhau adar hela fodloni telerau’r drwydded honno ond ni fyddai angen iddynt wneud cais yn unigol.

Ewch i wefan Cyfoeth Naturiol Cymru i edrych yn fanylach ar y cynigion.

 

Beth yw barn RSPB Cymru?

Rydyn ni’n cefnogi’r cynigion, sy’n egluro’n glir pam na all y system bresennol ddiogelu natur yn ddigonol. Mewn mannau sydd wedi’u dynodi’n bwysig i fyd natur, sef Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig, mae’n gwbl briodol na ddylai gweithgareddau pobl fod yn fygythiad i fywyd gwyllt – boed hynny’n ddatblygiad adeiledig, plannu coed amhriodol, aredig glaswelltir sialc, neu ryddhau niferoedd mawr o rywogaethau estron.

Mae llawer iawn o gynefinoedd sy’n sensitif i ddifrod nad yw wedi’i ddynodi’n Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig. Er enghraifft, nid yw 91% o Goetir Lled-naturiol Hynafol wedi’i warchod. Nid ydym yn credu bod Trwyddedau Cyffredinol yn addas i’r pwrpas ac rydyn ni’n credu y dylai Cyfoeth Naturiol Cymru reoleiddio’r broses o ryddhau’n fwy gofalus. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi ymrwymo i adolygu hyn mewn pum mlynedd a byddwn am eu gweld yn cadw’r addewid hwnnw.

Cytunir yn gyffredinol bod data ar raddfa a lleoliad rhyddhau Petris coesgoch a Ffesantod, yn sothach a dweud y gwir. Rydyn ni’n credu, oni bai ei bod yn ofynnol i drwyddedeion adrodd ar faint o adar sy’n cael eu rhyddhau a lle, na fydd Cyfoeth Naturiol Cymru yn cael mwy o ddealltwriaeth mewn pum mlynedd nag y maen nhw’n ei wneud ar hyn o bryd.

Felly, er nad yw’r cynigion mor gadarn ag y dylent fod yn ein barn ni, credwn y byddant yn cyfrannu rhywfaint at leihau’r risgiau amgylcheddol a achosir gan ollwng adar hela anfrodorol yn ddiderfyn. Dylai gwell dealltwriaeth o’r bylchau mewn gwybodaeth ddod i’r amlwg dros y blynyddoedd nesaf, a ddylai fod yn sail i sut mae rheoleiddio’n gweithio yn y tymor hirach.

Darllenwch 'Effeithiau rhyddhau adar hela anfrodorol yn y DU: adolygiad tystiolaeth wedi'i ddiweddaru' yma

Diolch i chi am ddarllen yr wybodaeth hyd at y diwedd. Mae hwn yn bwnc cymhleth sy’n ennyn barn gref. Rydyn ni'n credu bod y cynigion gan Cyfoeth Naturiol Cymru yn gymesur ac yn seiliedig ar dystiolaeth gadarn ac rydyn ni’n eich annog i’w cefnogi.