Gall Cymru fod y wlad gyntaf i ymrwymo i Adferiad Gwyrdd - fedrwn ni ddim fforddio colli'r cyfle hwn

English version available here

Fel gwlad, rydym wedi bod ar y blaen o ran creu ymrwymiadau amgylcheddol. Ni oedd y genedl gyntaf i ddatgan argyfwng hinsawdd; ein senedd ni oedd y cyntaf i gynnwys datblygu cynaliadwy wrth wraidd ei egwyddorion a chafodd Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 ei chymeradwyo gan y Cenhedloedd Unedig.

Ond nawr rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i adeiladu ar yr enw da hwn drwy ymrwymo i fynd i'r afael ag effeithiau Covid-19 drwy Adferiad Gwyrdd.

Mae argyfwng Covid-19 wedi cael effaith ysgytwol ar y byd, ac mae'r cyfnod clo wedi bod yn her i bob un ohonom. Gyda llai o weithgareddau dynol fel teithio a diwydiant, rhoddwyd cyfle i fywyd gwyllt ffynnu. Nid yn unig y mae hyn wedi bod o fudd i fyd natur a'r amgylchedd, ond mae hefyd wedi ein hatgoffa o sut y gall natur gynnig cysur a'n cynnal ni mewn cyfnodau anodd.

Yn raddol bach, dros y misoedd nesaf, fe fydd y ffyrdd arferol o fyw yn dychwelyd, ond rhaid i ni beidio ail-afael yn yr hen arferion dinistriol. Dyna pam rydyn ni'n galw ar Lywodraeth Cymru i ymrwymo i Adferiad Gwyrdd.

Mae sawl ffactor i'r adferiad hwn: ffactorau economaidd, cymdeithasol ac wrth gwrs amgylcheddol, ac felly rydym wedi creu llwybr pum cam i'n harwain i'r dyfodol.

Y pum maen prawf allweddol yw:

  1. Swyddi a seilwaith cynaliadwy
    I fuddsoddi mewn diwydiannau glân, gwyrdd, ecogyfeillgar, gan greu swyddi.

  2. Mesurau cryf i amddiffyn yr amgylchedd
    Sicrhau y dylai'r rheiny sy'n cynhyrchu llygredd ysgwyddo'r gost o'i reoli; pwysleisio'r angen i bwyso a mesur prosiectau newydd yn ofalus; sicrhau mynd i'r afael â materion amgylcheddol lle maen nhw'n deillio ac, yn olaf, atal niwed i'r amgylchedd cyn iddo ddigwydd.
  3. Sicrhau bod y tir a'r môr yn gyfoeth o fyd natur ac yn wydn
    Pan ofalwn ni am fyd natur, mae byd natur yn gofalu amdanom ni. Gadewch inni ofalu am y rhywogaethau sy'n cyfoethogi ein tir a'n môr.
  4. Dinasyddion iach
    Bydd aer glanach, ffynonellau bwyd cynaliadwy ac atebion gwyrdd ym myd diwydiant yn cadw ein pobl yn fwy iach.
  5. Arweiniad gan Lywodraeth Cymru
    Gyda byd natur yn ganolog i weithredoedd ein llywodraeth, gallwn greu'r Gymru newydd lewyrchus a gwyrddach hon.


Bydd y llwybr hwn yn sicrhau bod Cymru yn codi o Covid-19 mewn ffordd sy'n creu economi sero net carbon cynaliadwy; poblogaeth sy'n iachach yn gorfforol ac yn feddyliol; yn mynd i'r afael â'r newid yn yr hinsawdd ac yn adfer natur, cefn gwlad a moroedd rhyfeddol Cymru.

Yn ddiweddar, defnyddiodd Ysgrifennydd Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig, António Guterres, Ddiwrnod y Ddaear ar 22 Ebrill i bledio ar y byd i ddewis ffyrdd gwyrdd o siapio’r adferiad o Coronavirus. Meddai:

“Rhaid i ni weithredu’n bendant i amddiffyn ein planed rhag y Coronafirws a’r bygythiad dirfodol o broblemau’n deillio o newid yn yr hinsawdd. Mae'r argyfwng presennol yn rhybudd digynsail. Mae angen i ni droi’r adferiad yn gyfle go iawn i wneud pethau’n iawn ar gyfer y dyfodol.”

Mae gan Lywodraeth Cymru'r cyfle unigryw hwn nid yn unig i ysbrydoli cyhoedd Cymru, ond bobl ledled y byd, trwy gymryd y cam cadarn hwn i ymrwymo i adferiad gwyrdd. Mae economegwyr blaenllaw'r byd - gydag enillwyr gwobrau Nobel yn eu plith - wedi nodi'n bendant y bydd amryw o fuddion i adferiad gwyrdd, gan greu economi iachach a chymdeithas fwy cyfartal, yn ogystal â gwelliannau amgylcheddol.

Wedi’r cyfan, prin yw'r rheiny sy'n galw arnom i fynd yn ôl at ‘fusnes fel arfer’. Mae 91% o'r cyhoedd eisoes wedi mynegi'n glir nad ydyn nhw am i bethau fynd yn ôl i fel roedden nhw cyn Covid-19, ac mae'r awydd am newid yn amlwg.

Felly c’mon Llywodraeth Cymru. Amdani!

Gadewch inni ymrwymo i adferiad gwyrdd, a gadewch inni greu dyfodol gwell.

Cliciwch yma i gwblhau yr e-ymgyrch!