English version available here
Er ein bod ni’n gwerthfawrogi pryder sydd wedi’i ddatgan o’r erthygl ddiweddar gan BBC Wales ar y materion plastig ar RSPB Ynys Gwales, rydym yn annog perchnogion cychod i beidio â glanio ar yr ynys. Mae’r ynys arbennig hon wedi'i ddynodi'n warchodfa arbennig i huganod, gyda chyfreithiau yn ei gwarchod a pholisi sy’n atal y cyhoedd rhag glanio ers 1996. Gellir achosi niwed enfawr i’r wyau a’r cywion drwy darfu ar nythod. Mae’r boblogaeth o huganod ar RSPB Ynys Gwales wedi cynyddu'n ddramatig dros y 60 mlynedd diwethaf, ac ar hyn o bryd mae'r boblogaeth yn sefydlog ar 36,000 o barau.Rydym yn ddiolchgar i’r aelodau o’r cyhoedd sy’n cynnig eu hamser ac ymdrech, ond mae’n rhaid i ni gadw at y polisi sy’n atal y cyhoedd rhag glanio ar yr ynys a gadael y mater i staff RSPB Cymru.
Llun: RSPB Ynys Gwales gan John Archer-Thompson.