Rhannu'r cariad ar hyd Cymru

English version available here

 ninnau newydd ddathlu Dydd Santes Dwynwen ac â Dydd San Ffolant ar y gorwel mae rhamant ymhobman yma yng Nghymru ar hyn o bryd.

Ond, wrth roi tusw o flodau neu gerdyn i'r person annwyl hwnnw yn eich bywyd, gobeithio gwnewch chi ystyried dangos ychydig o gariad tuag at ein ffrindiau pluog ar yr adeg oer hon hefyd. Tra bod olion olaf o rew y gaeaf yn parhau, mae angen cymaint o help â phosib arnynt, ac mae bwydydd sy'n llawn braster fel hadau, cnau a siwed, ynghyd â dŵr glân, yn cael eu gwerthfawrogi'n fawr iawn!

Diolch i’r drefn, ni fydd y gaeaf yn para am byth. Wrth i rew oer y gaeaf ddadmer yn araf, fe welwn ni fflam rhamant yn cael ei chynnu yn ein hadar. Daw'r gwanwyn â nifer o newidiadau yn eu hymddygiad wrth i'r tymor nythu agosáu. Rydyn ni eisoes wedi clywed ‘is-gân’ rhai o’n hoff adar fel y robin goch a’r aderyn du yn seinio trwy gydol y gaeaf. Ond nawr, gyda'r gwanwyn ar ein gwarthau, fe glywn ni fwy a mwy o adar yn codi llais hyd nes i ni gyrraedd yr uchafbwynt sy'n cael ei adnabod fel Côr y Wîg.

Straeon calonogol

Ond, wrth i ni daclo mis Chwefror, y ffordd arall y gallwn ddangos ychydig o gariad yw, wel, trwy ddangos cariad! Mae'r ymgyrch Dangos y Cariad/Show the Love yn galw ar bob un ohonom i ddechrau sgwrsio am sut mae newid yn yr hinsawdd eisoes yn effeithio ar yr hyn rydyn ni'n ei garu. Mae hefyd yn ein hannog i ddathlu'r hyn y mae pobl eisoes yn ei wneud i fynd i'r afael ag ef, o'u cartrefi a'u cymunedau, i ysgolion a gwarchodfeydd natur.

Er na allwn ddod ynghyd i wneud hyn eleni ar un o'n gwarchodfeydd ledled Cymru, gallwn gadw'r sgwrs ynghynn ar-lein. Gallwch ddangos eich cefnogaeth drwy greu, rhannu a gwisgo calon werdd ar gyfryngau cymdeithasol a thagio RSPB Cymru yn eich negeseuon - yn ogystal â dweud wrthym am y newidiadau ym myd natur chi eisoes wedi sylwi arnyn nhw a'ch gobeithion am fyd natur yn y dyfodol.

Ni 'di gweld nifer o newidiadau yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Roedd yr awyr glir heb unrhyw awyrennau a'r ffordd y clywyd caneuon adar yn hytrach na sŵn cyson traffig yn bethau i'w croesawu a'u mwynhau. Rhoddwyd cip inni o'r hyn sy'n bosibl os ydym yn newid ein ffyrdd o fyw. Wrth i chi ymuno â'r sgwrs a rhannu'ch straeon, defnyddiwch yr hashnodau #DangosYCariad #ShowTheLove.

Byddem wrth ein bodd yn clywed am - a gweld - beth rydych chi'n ei wneud. Ac, os ydych chi eisiau, gallwch chi ychwanegu ffrâm Show the Love i'ch llun proffil ar Facebook!

Gweithio mewn partneriaeth

Mae Dangos y Cariad/Show the Love yn enghraifft wych o gyrff a phobl yn dod at ei gilydd. Mae'r ymgyrch yn cael ei harwain gan The Climate Coalition ac mae'n dwyn ynghyd ei chwaer sefydliadau, Stop Climate Chaos Scotland a Stop Climate Chaos Cymru, i greu'r grŵp mwyaf o bobl yn y DG sydd wedi ymroi i weithredu i atal newid yn yr hinsawdd. Gyda dros 130 o sefydliadau, gan gynnwys yr RSPB (un o'r aelodau sylfaenol), yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Sefydliad y Merched, Oxfam, UNICEF, WWF, Ymddiriedolaethau Bywyd Gwyllt, Plantlife, Coed Cadw a llawer mwy, mae gan y gynghrair aelodaeth gyfunol o dros 15 miliwn o bobl. Mae'r gynghrair yn estyn ledled y DG i ddangos ein cariad tuag at yr hyn rydyn ni am eu hamddiffyn rhag newid yn yr hinsawdd, ac i ofyn i wleidyddion roi o'r neilltu'r hyn sy'n eu gwahanu ac i ymrwymo i wneud beth bynnag sy'n rhaid i'w hamddiffyn.

Am ragor o wybodaeth, ewch i dudalen we Dangos y Cariad / Show the Love yr RSPB.