Gwanwyn yn eu Gwaed!

English version available here   

Mae’r dywediad llafar “Un wennol ni wna wanwyn” yn rhybudd pwysig ond wedi’r gaeaf rhewllyd mae’r gwenoliaid, ymhlith amryw o rywogaethau o adar, yn dychwelyd i’r tiroedd wrth i’r dydd ymestyn.

Pan gyrhaedda’r gwanwyn fe ddaw ag aml i newid mewn ymddygiad rhywogaethau yn ei sgil, yn aml mewn cyswllt â dechrau’r tymor magu. Bydd rhai adar megis y fwyalchen neu’r robin goch yn canu’n llon iddynt eu hunain drwy gydol misoedd y gaeaf – cyfeirir at hyn yn aml fel ‘is-gân’. Ond pan ddelo’r gwanwyn, bydd llawer o adar yn ymuno â’r hyn a adnabyddir fel ‘côr y wawr’, lle bydd ein cyfeillion pluog yn morio canu yn y gobaith o ddenu cymar.

Fel mae ei enw’n awgrymu, fe gychwynna côr y wawr gyda goleuni cynhara’r dydd, gydag adar yn ceisio cymryd y cyfle cyntaf posib i ddenu cymar. Fel yr â’r bore rhagddo, bydd llawer mwy o adar yn ymuno â chôr y wawr, hyd nes cyrhaeddir pwynt lle bydd hi’n anodd iawn i fedru dehongli lleisiau unigol. Oherwydd hyn, mae’r term “yn y bore ma’i dal hi” yn gymwys heb os yng nghyd-destun magu hefyd – po gynharaf y cana’r gwryw, y mwyaf ei siawns y bydd y fenyw’n clywed ei lais.

Mae’n werth nodi nad ymarfer mewn darganfod cymar yn unig yw canu - mae hefyd yn weithred angenrheidiol er mwyn cydbwyso’r lefelau o fraster sy’n eu cyrff wedi gaeaf o adeiladu a chronni braster. Mae adar yn ail-gyflenwi eu cyrff drwy fwyta, ond wrth ganu mae adar yn llosgi braster - ac felly, os gall aderyn ganu’n groch am amser hir yn ogystal â  chynnal lefel iach o fraster, yna fe ddengys i unrhyw ddarpar bartner ei fod yn aderyn cryf ac iach a wnâi gymar penigamp.   

Yr hyn sy’n gwneud côr y wawr mor arbennig yw’r amrywiaeth lleisiau sydd i’w clywed! Un o’n ffefrynnau ni yma yn RSPB Cymru yw’r hyfryd dderyn y bwn – mae cân atseiniol ddofn y gwryw yn hollol unigryw ac fe ellir ei chlywed yn adleisio dros RSPB Cors Ddyga ar Ynys Môn yn y Gwanwyn.


 
Nid canu yn unig sy’n hyrwyddo’r broses o baru i rai yng nghyfnod cynnar y Gwanwyn. Er gwaethaf eu henw a’u cyswllt rhamantus, nid yw elyrch dof mor dawel eu naws – mae eu dull o ddarganfod eu cymar oes yn achlysur swnllyd, gyda ‘dawns’ garwriaethol, yn llawn hisian a rhochian!

Mae dawns garwriaethol adnabyddus arall yn digwydd rhwng gwyachod mawr copog, a ymgymerant â chyfres o ddawnsfeydd, gan chwipio eu pennau o ochr i ochr a braidd gyffwrdd wyneb y dŵr. Yna, fel uchafbwynt mawreddog, fe ddaw’r chwyn! Bydd y ddau aderyn yn rhofio llond eu pigau o blanhigion y dŵr, gan wynebu’i gilydd frest wrth frest, a chlatsio’r dŵr yn ffyrnig a’u hadenydd!

Ond gwell gan rai adar beidio â gwneud cymaint o fôr a mynydd o bethau a dibynnu ar yr hedfan - enghraifft flaenllaw o hyn yw’r dirgel droellwr mawr. Er mwyn denu ei ddarpar bartner yn ystod y cyfnod carwriaethol, fe fydd y gwryw yn curo’i adenydd ac yn hedfan â churiad adenydd araf, bob yn ail â llithro drwy’r awyr ar adenydd dyrchafedig, er mwyn arddangos y clytiau gwynion ar ei blu. 

 

Ble bynnag yr ydych yn byw - boed yn wledig neu’n ddinesig - fe fyddwch yn siŵr o glywed cynnydd yng nghân yr adar o ganlyniad i gôr y wawr. Pam nad ewch am antur i un o’n gwarchodfeydd a gweld os gallwch glywed rhai sy’n newydd i chi, neu gael cipolwg ar ddawns neu ehediad arbennig?

Pa bynnag ymddygiad cyfareddol y byddwch yn dyst iddo’r tymor yma – cofiwch roi gwybod i ni drwy drydar @RSPBCymru.