I ddarllen y blog yma yn y Saesneg / To read this blog in English - click here

Efallai fod plant yn rhyfeddu wrth weld natur yng nghefn gwlad, ond dychmygwch sut bydden nhw’n hymateb i'r amrywiaeth gyfoethog a oedd ar gael dim ond 30 mlynedd yn ôl. Mae ein bywyd gwyllt ar dir amaeth wedi dirywio’n sylweddol. Canfu'r adroddiad Sefyllfa Byd Natur 2016 fod adar tir amaeth wedi disgyn 54% ers 1970. Yn yr un modd, mae gloÿnnod byw wedi disgyn 41% ers 1976 ac mae hyd at 12% o fywyd gwyllt tir amaeth nawr mewn perygl o ddiflannu. Un o’r prif ffactorau tu ôl i’r gostyngiadau hyn ydy'r ffordd mae tir amaethyddol yn cael ei reoli’n ddwys. Er gwaethaf ymdrechion nifer o ffermwyr sydd yn frwd dros helpu bywyd gwyllt tir amaeth ffynnu unwaith eto, mae polisïau amaethyddol dros y degawdau diwethaf wedi arwain at newidiadau mewn arferion ffermio sydd wedi ceisio gwella cynhyrchiant, ond sydd wedi cael effaith niweidiol ar fywyd gwyllt y wlad.

Llun: Eleanor Bentall (RSPB Images) - tir amaeth a fferm RSPB Llyn Efyrnyw

Bu cryn ddadlau yn ddiweddar ynghylch sut bydd polisi amaethyddol yng Nghymru yn edrych ar ôl i’r DU adael yr UE, ac mae hyn yn rhoi cyfle mawr i ni ailfeddwl sut rydyn ni’n defnyddio tir a sicrhau newid mewn polisi tuag at arferion cynaliadwy. Mae pwyllgor Cynulliad Cymru sy’n gyfrifol am graffu ar bolisïau amgylcheddol a materion gwledig (Y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig) yn ystyried y mater hwn yn fanwl, a dros yr ychydig fisoedd diwethaf mae’r Pwyllgor wedi clywed gan amryw o gyrff am y risgiau a’r cyfleoedd sydd o’u blaenau wrth ddiffinio polisi amgylcheddol a datblygu gwledig newydd. Mae RSPB Cymru wedi bod yn sicrhau bod llais natur yn cael ei glywed yn y trafodaethau parhaus hyn.

Rydyn ni’n croesawu’r datganiad gan Mark Reckless, Cadeirydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig, a ddywedodd wrth y Cynulliad bod y Pwyllgor, wrth barhau â’i ymchwiliad, wedi dod i gonsensws cynnar ynghylch y cyfeiriad roedden nhw’n credu ei bod yn rhaid i gymorth yn y dyfodol ei ddilyn. Mae’r Pwyllgor yn credu’n gryf ei bod yn rhaid i’r polisi newydd ganolbwyntio ar sicrhau bod amcanion amgylcheddol a rheoli tir yn cael eu cyflawni. Rydyn ni’n cefnogi’r agwedd hon; os ydym am wyrdroi'r gostyngiadau mewn bywyd gwyllt, mae’n rhaid i bolisi y dyfodol sicrhau bod cyflawni amcanion amgylcheddol wrth ei galon.

Ym mis Medi roedden ni wedi amlinellu gweledigaeth gyda’n partneriaid, a oedd yn amlygu y dylai arian cyhoeddus ganolbwyntio ar gefnogi busnesau gwledig gwydn sy’n gallu diwallu’r heriau amgylcheddol amrywiol - fel:

  • Adfer cynefinoedd ar gyfer bywyd gwyllt
  • Storio carbon atmosfferig i liniaru newid yn yr hinsawdd
  • Rheoli’r perygl o lifogydd a dŵr yfed yn naturiol

Mae RSPB Cymru yn credu mai dim ond drwy wneud hyn byddwn ni’n sicrhau arferion rheoli tir cynaliadwy.

I ddarllen mwy am y gwaith rydyn ni wedi bod yn ei wneud gyda phartneriaid ar ddatblygu gweledigaeth ar gyfer dyfodol rheolaeth tir gynaliadwy, edrychwch ar y blog blaenorol hwn.