I ddarllen y blog yma yn Saesneg - Cliciwch yma

Mae pobl yn caru cefn gwlad Cymru. Mae’n allweddol i’n hunaniaeth ac mae natur yn rhan hanfodol o’r hyn sy’n ei wneud mor arbennig. Ond eto, dangosodd adroddiad Sefyllfa Byd Natur 2016: Cymru a chafodd ei gyhoeddi wythnos diwethaf (21 Medi) ein bod ni wedi colli rhywogaethau oedd unwaith yn gyffredin ledled ein cefn gwlad, ac rydym ar fin colli mwy os nad ydym yn codi’r ymdrech dros y blynyddoedd nesaf: gydag un o bob 14 rhywogaeth yng Nghymru ar fin farw allan. Mae ffyrdd rheoli tir yn cael effaith enfawr ar y gallu i gefnogi natur a gyda dros 70% o Gymru wedi’i orchuddio gan dir ffermio, mae ffermwyr a rheolwyr tir mewn sefyllfa unigryw i helpu cwrdd â’r sialens o adfer byd natur, a chyfalafu ar y cyfleoedd ehangach sydd i ddod.

 

Mae sefydliadau Cadwraeth ar draws Cymru yn galw ar Lywodraeth Cymru i dal gafael ar y cyfle i ddiwygio polisïau ffermio er mwyn sicrhau fod Cymru yn wlad gynaliadwy arweiniol ledled y byd.

 

Mae Polisi Amaethyddol Cyffredin yr Undeb Ewropeaidd (PAC) wedi cael dylanwad mawr ar y ffordd yr ydym yn rheoli ein tir dros y degawdau diwethaf, gyda’r pwrpas o gefnogi ac annog ffermio sy'n cynhyrchu bwyd mewn ffyrdd sy'n gofalu am y pridd, dŵr, tirwedd a byd natur.

 

Er gwaethaf 50 mlynedd o gefnogaeth, nid yw PAC wedi adeiladau diwydiant amaethyddol gwydn yng Nghymru, mae wedi methu wrth atal niwed i’r amgylchedd a cholled bywyd gwyllt ac wedi rhoi rhai sectorau, megis ffermio cig eidion a defaid yr ucheldir, mewn perygl o ddiflannu’n gyfan gwbl.

 

Yn ôl grŵp o 15 sefydliad cadwraeth sy’n cynrychioli nifer eang o fuddiannau rheoli tir Cymreig, amgylcheddol a bywyd gwyllt, bydd gadael yr Undeb Ewropeaidd yn ddigwyddiad arwyddocaol i ffermio ac ein hamgylchedd. Mae’r grŵp, sy’n cynnwys RSPB Cymru, Y Gymdeithas Tir, Confor ac Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn credu mai nawr yw’r amser i greu polisïau sy’n cyflawni ein diwydiannau rheoli amaethyddol a tirol, ein heconomïau a chymunedau gwledig, yr amgylchedd a natur, sy’n helpu Llywodraeth Cymru cwrdd â’i amcan o fod yn wlad gynaliadwy arweiniol ledled y byd.

 

Bydd angen rhyddhau unrhyw gynllunio am newidiadau i’r cyhoedd er mwyn ffurfio polisi ar gyfer y dyfodol. Esiampl yw’r pôl diweddar a ddangosodd bod y cyhoedd yn awyddus i unrhyw gefnogaeth amaethyddol gynnig mwy i fyd natur. Tydi hyn ddim yn ddewis rhwng bwyd ac yr amgylchedd; mae dyfodol bwyd, ffermio a natur yn hollol gysylltiedig.

 

Mae Llywodraeth Cymru yng nghanol sefydlu blaenoriaethau Cymru wrth baratoi ar gyfer trafodaethau gyda Llywodraeth DU am ddosbarthiad cyllid yn y dyfodol unwaith bydd y DU wedi gadael yr UE, a sut ddylai’r arian yma cael ei ddefnyddio. Er mwyn pwysleisio cryfder y teimlad a'r angen am ddiwygiad blaengar o’r polisiau defnyddio tir sy’n bodoli yng Nghymru ar hyn o bryd, ysgrifennwyd y 15 sefydliad lythyr i Lywodraeth Cymru yn amlygu’r cyfleoedd a buddiannau bydd rheolaeth tir cynaliadwy yn darparu i bawb yn y wlad.

 

Credwn fod rhaid i unrhyw bolisi newydd sicrhau nifer o fwydydd cynaliadwy a choed iach a diogel er mwyn darparu nifer o gynhyrchion cynaliadwy, sydd gyda’r gallu i greu incwm a chyflogaeth i fusnesau gwledig a chyfrannu tuag at economi gwledig sydd ag amrywiaeth.

Ddylai hefyd gefnogi rheolaeth tir cynaliadwy sy’n cynnal a gwella byd natur ac ystwythder ecosystemau, er mwyn darparu nifer eang o fuddiannau cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol i Gymru.

Bydd sicrhau bod y cyllid caiff ei fuddsoddi mewn rheolaeth tir yn dosbarthu gwerth arian i’r holl gymdeithas, a hefyd cysylltu gyda’r gymdeithas er mwyn helpu pobl i wneud dewisiadau sy’n nodi a gwobrwyo cynaladwyedd yn nodwedd bwysig ar gyfer unrhyw bolisi newydd.

 

Mae’r sefydliadau dan sylw yn cydnabod bydd cyfnod trawsnewid yn hanfodol ac yn hynod o bwysig ar gyfer y rhai sy’n fregus yn economaidd, fel sectorau'r anifeiliaid sydd yn ffermio mewn ardaloedd ffiniol, ond sydd yn bwysig o ran yr amgylchedd, y tirlun a byd natur.

 

Mae’r fframwaith newydd rydym yn ei argymell yn cefnogi ffermwyr a rheolwyr tir blaengar ac arloesol, gan ddarparu cadarnhad i gynhyrchu mewn ffyrdd cynaliadwy. Mi fydd hyn yn sicrhau bod arian y cyhoedd yn canolbwyntio ar gefnogi busnesau gwledig hydwyth sydd gyda’r gallu i gyfarfod amrywiaeth o heriau amgylcheddol - fel adfer cynefinoedd bywyd gwyllt, cadwraeth garbon atmosfferig er mwyn lleddfu newid hinsawdd, rheoli risg llifogydd a dŵr yfed naturiol, er mwyn sicrhau'r defnydd gorau o dir Cymru. Fe ddylai bod gennym ni gefn gwlad gyfoethog mewn natur, ochr yn ochr â chymunedau dirgrynol ag economi gwledig sy’n ffynnu, a hefyd yn sicrhau nifer eang o fuddiannau i’r gymdeithas.

 

Gafaelwch yn y cynnig hynod o brin yma i adfywio ein cefn gwlad.

Enw’r 15 sefydliad – RSPB Cymru, Ymddiriedolaeth Genedlaethol, WWF Cymru, Yr Cymdeithas Bridd, Cadwraeth Eog ac Brithyll Cymru, Ymgyrch Diogelu Cymru Wledig, Buglife, Cadwraeth Gloyn Byw, Ymddiriedolaeth Cadwraeth Ystlumod, Cymdeithas Y Wyddfa, Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Cymru, Coed Cadw, Cawraeh Amffibiaid ac Ymlusgol, Plantlife Cymru, Confor Cymru.