English version available here
Gyda'r rhan fwyaf o'n cyfreithiau presennol sy'n diogelu'r amgylchedd yn deillio o'r Undeb Ewropeaidd (UE), mae RSPB Cymru yn pryderu y gellid aberthu’r safonau uchel hyn ar ôl i ni adael yr Undeb. Mae nifer o adroddiadau, gan gynnwys y Sefyllfa Adar yng Nghymru 2018, wedi dangos bod angen inni wneud mwy, nid llai, i amddiffyn natur Cymru.
Mae ymrwymiadau a gyhoeddwyd eisoes gan Lywodraeth Cymru i gynnal a gwella safonau amgylcheddol ar ôl Brexit yn codi calon ond, yn y blog hwn, wna'i amlygu un agwedd ar wneud hyn sy'n arbennig o heriol.
Mae pwerau gorfodi cyfraith amgylcheddol yr UE yn un rheswm allweddol dros ei heffeithiolrwydd, gan fod dinasyddion yn medru mynegi pryderon ynghylch torri rheolau neu fethiannau i weithredu cyfraith amgylcheddol gyda'r Comisiwn Ewropeaidd.
Y Comisiwn Ewropeaidd sydd â'r cyfrifoldeb ar hyn o bryd am ymchwilio i dor-cyfraith amgylcheddol ac mae ganddo'r pŵer i gymryd troseddwyr, gan gynnwys llywodraethau, i Lys Cyfiawnder Ewrop. Yn y llys hwn y mae barnwyr ar hyn o bryd yn gwneud dyfarniadau a gosod mesurau unioni a lle all ddirwyon gael eu codi mewn achosion o dor-cyfraith amgylcheddol.
Rydym yn disgrifio'r diffygion y bydd rhaid i ni eu hwynebu oherwydd colli mynediad i'r Sefydliadau UE hyn fel y 'bwlch llywodraethu'. Os na aiff y Llywodraeth i'r afael â hyn yn effeithiol, mae'n anochel y bydd y gallu i warchod yr amgylchedd yn wannach ar ôl Brexit ac rydym yn credu'n gryf nad oes modd cau'r bwlch hwn gan gyrff domestig sy'n bodoli'n barod; mae angen corff newydd arnom ni.
Yn gynnar y llynedd, fe wnaeth Llywodraeth Cymru ymrwymo i gyflwyno deddfau newydd i fynd i'r afael â'r bwlch llywodraethu yng Nghymru - ond, ar hyn o bryd, nid oes unrhyw fanylion wedi'u cyhoeddi o ran sut a phryd y mae'n bwriadu gwneud hyn.
Mae amser yn brin ac mae sefyllfa lle all y DU adael yr UE cyn bod modd creu trefniadau addas nawr yn un real iawn.
Wrth gwrs, fe fydd yna fwlch llywodraethu yn cael ei greu nid yn unig yng Nghymru, ond ar draws y DU. Ar y cyd â sefydliadau amgylcheddol eraill, mae RSPB Cymru wedi galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda Llywodraethau'r DU a'r Alban a swyddogion yng Ngogledd Iwerddon i ddatblygu un dull o lywodraethu amgylcheddol sy'n gweithio ar draws y DU.
Mae yna botensial i greu un corff sy'n gweithredu ar draws y DU wedi'i gyd-gynllunio gan, ac sy'n atebol i, lywodraeth pob gwlad. Fel arall, gellid mynd i'r afael â'r bwlch trwy bob gwlad yn sefydlu ei chorff llywodraethu ei hun, gyda threfniadau yn eu lle i sicrhau eu bod yn cydweithio â'i gilydd.
Ar ddiwedd y llynedd, cyhoeddodd Defra (adran yr amgylchedd Llywodraeth y DU) Fil drafft ar lywodraethu ac egwyddorion amgylcheddol wedi i ni adael yr UE sy'n cynnwys cymalau drafft ar gyfer sefydlu corff llywodraethu amgylcheddol newydd o'r enw Swyddfa Diogelu'r Amgylchedd. Fe fyddai'r corff hwn yn canolbwyntio'n bennaf ar Loegr .
Dydyn ni dal ddim yn gwybod ai dewis Gweinidogion Cymru fydd gweithio gyda Defra ac eraill i gyd-gynllunio un corff llywodraethu ar draws y DU (ac os felly, byddai’n rhaid mynd ati i newid y dulliau o weithio arfaethedig sydd ym Mil drafft Defra ar hyn o bryd), neu i greu corff newydd ar wahân i Gymru. Ond un peth sy'n sicr, mae'r amser sydd ar gael i ddatblygu un ateb i bawb yn prysur ddiflannu.
Bellach, rydym yn disgwyl i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar y bwlch llywodraethu hwn gael ei gyhoeddi yn ystod yr wythnosau nesaf. Byddwn yn sicr o adael i chi wybod beth yw ein safbwynt ni unwaith iddo gael ei gyhoeddi, yn ogystal â sut y gallwch chi gymryd rhan mewn unrhyw ymgyrchu perthnasol. Os nad ydych wedi gwneud hynny eisoes, gallwch ymuno i fod yn un o'n ymgyrchwyr ni yma.