Datgelu Sefyllfa Adar yng Nghymru
English version available here

Pa bynnag waith a roir ar y gweill i warchod poblogaethau o fywyd gwyllt yn y dyfodol, mae deall y sefyllfa bresennol bob amser yn gymorth ar gyfer symud ymlaen. Mae gwybod os yw rhywogaeth yn cynyddu neu’n prinhau yn galluogi cadwraethwyr i ddod o hyd i’r ffordd orau o weithredu er mwyn helpu’r rhywogaethau i oroesi.

Mae adar yn ddangoswyr cadarn o iechyd ein hamgylchedd gan fod llawer o rywogaethau i’w gweld ar frig eu cadwyn fwyd. Mae’r adroddiad hwn yn ein galluogi i gael cipolwg ar eu sefyllfa bresennol a darganfod mwy am eu statws yng Nghymru – yn adar brodorol ac ymfudol. Mae Adroddiad Sefyllfa Adar yng Nghymru yn dod â chanlyniadau arolygon blynyddol, cyfnodol ac unigol ledled Cymru at ei gilydd mewn un man. Fe’i cynhyrchwyd gan Ymddiriedolaeth Adara Prydain (BTO), Cymdeithas Adaryddol Cymru (WOS), Cyfoeth Naturiol Cymru ac RSPB Cymru. Dyma grynodeb o ganlyniadau’r adroddiad.

Wedi diflannu o Gymru

Dengys yr adroddiad bod nifer o rywogaethau eisoes wedi diflannu o Gymru, gyda newidiadau i’r amgylchedd a’r hinsawdd yn effeithio ar eu cynefinoedd a’u ffordd o fyw. Mae adar fel bras yr yˆ d, hutan y mynydd a’r eos wedi eu colli’n llwyr o Gymru. Daw eu diflaniad o ganlyniad i boblogaethau nythu yn gostwng wrth i’w dosbarthiad daearyddol grebachu, a bellach does yr un ohonyn nhw i’w gweld yn y wlad.

Pwysig i Gymru

Mae Cymru’n gartref i dros hanner poblogaethau nythu’r DU o’r frân goesgoch brin, y gwybedog brith a’r tingoch, yn ogystal â dros chwarter poblogaeth nythu’r DU o foda’r mêl, gwalch Marth, telor y coed, y barcud a’r gigfran. Oddi ar arfordir Sir Benfro mae dros 50% o adar drycin Manaw’r byd yn nythu ar ynysoedd RSPB Ynys Dewi, Ynys Sgomer ac Ynys Sgogwm, ac ar Ynys Gwales mae trydydd huganfa fwyaf y DU.

Sefyllfa fregus

Ymysg adar yr ucheldir, mae niferoedd y gylfinir, y cwtiad aur, y rugiar ddu, y rugiar goch a mwyalchen y mynydd i gyd yn gostwng. Er bod hanner poblogaeth brain coesgoch y DU ac Ynys Manaw yng Nghymru, ac er bod y niferoedd yn sefydlog drwyddo draw, mae gwir bryder am ostyngiad yn y niferoedd sy’n nythu yng ngogledd a chanolbarth Cymru ers 2002. Dengys yr adroddiad hefyd bod gwylanod coesddu wedi gostwng o 35% yng Nghymru ers 1986.

 Amser argyfyngus

Mae’r adroddiad hwn yn cyflenwi gwybodaeth ar gyfer y safbwyntiau polisi hollbwysig yr ydym yn eu mabwysiadu fel corff. Dyma amser argyfyngus i fyd natur yng Nghymru gan fod Llywodraeth Cymru yn penderfynu ar ein cyfreithiau a’n polisi amgylcheddol wedi i ni adael yr UE. Mae’n hanfodol ein bod yn sicrhau bod y polisïau a’r deddfau priodol mewn grym er mwyn gwarchod yr amgylchedd a’n bywyd gwyllt yn dilyn Brexit.

Sut allwch chi helpu

Ymgymerir â monitro adar yng Nghymru gan arbenigwyr a gwirfoddolwyr fel ei gilydd. Arweinir llawer o gynlluniau arolygu gan gyrff anllywodraethol ac maen nhw’n dibynnu ar ymdrech ryfeddol y gwirfoddolwyr sy’n eu cefnogi. Mae gwyddoniaeth dinasyddion yn chwarae rôl hanfodol mewn achub rhywogaethau Cymru rhag diflannu o’r tir ac mae digon o gyfleoedd i gymryd rhan; gallwch helpu gyda’r wyddoniaeth, drwy gymryd rhan uniongyrchol ac wrth ddangos eich cefnogaeth i fywyd gwyllt ledled Cymru. Am fwy o wybodaeth yngl≈n â sut allwch chi gymryd rhan, ebostiwch cymru@rspb.org.uk

Mae'r adroddiad llawn i'w weld yma.

Lluniau yn y trefn y mae nhw'n ymddangos: Barcud gan Ben Andrew, Aderyn drycin Manaw gan Chris Gomersall, Gylfinir gan Andy Hay.