Pam ei bod yn bwysig amddiffyn ein mawndiroedd

English version available here.

Y Migneint, sydd wedi eu lleoli ym Mharc Cenedlaethol Eryri, yw un o’r ardaloedd mwyaf o fawndir yng Nghymru. Yn gorchuddio hyd at 77 milltir sgwâr, mae’n ardal eang o rostir uchel a chorgors sydd o bwysigrwydd rhyngwladol.

Beth yw gorgors?

Ardaloedd o fawndiroedd yw gorgorsydd (blanket bog yn Saesneg) lle ceir lefel uchel o ddŵr glaw a lefel isel o anweddiad sy’n caniatáu i fawn dyfu. Ond nid ydym wedi bod yn trin y cynefin bregus hwn â’r parch haeddiannol. Dros y blynyddoedd, mae ardaloedd eang wedi cael eu draenio ar gyfer ffermio a choedwigaeth. Mae hyn wedi sychu’r mawn, sydd yn cyflymu’r broses bydru. Pan fydd mawn yn pydru, caiff y carbon a storiwyd ynddo ei ryddhau i’r atmosffer.   

Adfer mawndiroedd

Mae rhannau o’r Migneint wedi cael eu difrodi yn y modd hwn. Mae hyn wedi arwain at rigolau erydiad dwfn yn ffurfio ac wedi sychu’r gors, sydd yn golygu fod y bywyd gwyllt prin sydd yn dibynnu ar y cynefin hwn yn gadael er mwyn dod o hyd i fagwrfeydd newydd. Ond yn y blynyddoedd diwethaf, mae cynllun cyffrous wedi bod yn mynd rhagddo er mwyn adfer y mawn sydd wedi’i ddifrodi.  

Dros y pedair blynedd ddiwethaf, rydym wedi bod yn cyd-weithio gydag Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru a’r teulu Ritchie, tenantiaid fferm Blaen y Coed yr Ymddiriedolaeth ar y Migneint. Ariannwyd y cynllun yn rhannol gan Gynllun Rheoli Cynaliadwy Mawndiroedd Cymru a gaiff ei redeg gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri.  

Mae’r cynllun, a sefydlwyd yn 2017, wedi adfer ardaloedd o orgorsydd a oedd wedi’u difrodi a’u diraddio. Gwnaed y rhan fwyaf o’r gwaith mewn tywydd gwlyb a heriol a hynny gan y teulu Ritchie eu hunain, a ddefnyddiodd eu hoffer ffermio i flocio ffosydd erydu a chreu argaeau bychain er mwyn cadw’r dŵr yn y mawn. Gyda’r teulu Ritchie yn gwneud y rhan fwyaf o’r gwaith, profwyd ei bod yn bosib cyfuno cadwraeth bywyd gwyllt gyda’r tasgau dyddiol o redeg busnes fferm lwyddiannus.

Ers cwblhau’r gwaith, mae’r safle wedi’i drawsnewid yn gynefin llawer iachach a bywiocach.  Mae pyllau yn ail-ffurfio unwaith eto a phlanhigion cors fel mwsogl y migwyn, plu’r gweunydd a gwlith yr haul yn ffynnu unwaith eto. Mae hyn yn ei dro wedi denu bywyd gwyllt yma hefyd, a thros yr haf roedd yn safle prysur iawn gyda phryfaid fel gwas y neidr, mursennod a chwilod yn manteisio ar y cynefin ar ei newydd wedd.  

Ond yr hyn sydd fwyaf cyffrous yw’r ffaith fod cwtiaid aur a gylfinirod wedi dod i nythu ar y safle dros yr haf a magu cywion yn llwyddiannus. Mae mawndiroedd gwlyb yn cynnig cynefin perffaith i adar yr ucheldir fel y rhain. Maent yn hoffi nythu mewn tir agored gydag amrywiaeth o blanhigion. A diolch i’r gwaith adfer, mae Blaen y Coed wedi profi’n lleoliad gwych iddynt atgenhedlu. Roedd y digwyddiad hwn yn arbennig o gynhyrfus am mai dyma’r tro cyntaf i adar atgenhedlu’n llwyddiannus ar y safle ers y 1990au!  

 Pam fod angen i ni warchod ein mawn

Mae llwyddiant Blaen y Coed yn enghraifft berffaith o pam y dylem wneud popeth o fewn ein gallu i warchod ac adfer mawn. Lle bu unwaith gors ddiffaith bron, mae gennym bellach dirwedd sydd nid yn unig yn cynnig cartref i fywyd gwyllt, ond hefyd yn darparu gwasanaethau amgylcheddol angenrheidiol i’n cymdeithas. Ar draws y DU, mae corsydd mawn yn dal 400 miliwn o dunelli o garbon, sydd yn ddwbl y swm a gaiff ei storio yn holl fforestydd y DU.  Mae corsydd mawn hefyd yn werthfawr yn yr ymdrech i warchod rhag llifogydd. Yn y pen draw, mae cors fawn fel sbwng ac yn gallu amsugno’r lefelau uchel o ddŵr glaw a gawn yma yng Nghymru. Caiff y dŵr ei ryddhau i’r môr mewn modd rheoledig sydd yn golygu fod y posibilrwydd o gael llifogydd difrifol yn lleihau. Yn y cyfamser, mae corsydd mawn yn ffynhonnell ddŵr angenrheidiol yn yr haf gan eu bod yn darparu dŵr sydd ddirfawr ei angen ac yn gweithio fel system hidlo dŵr.  

Lleisiwch eich barn

Lansiom ymgyrch newydd yn ddiweddar o’r enw #ForPeatsSake. Rydym yn gofyn i bobl wneud addewid i beidio â defnyddio mawn. Caiff mawn ei ddefnyddio’n eang fel gwrtaith gardd a chyflyrydd pridd. Defnyddir 70% o’r mawn garddwriaethol gan arddwyr ar draws y DU gyda dau ran o dair o’r mawn sydd yn cael ei werthu yn y DU yn cael ei fewnforio o weddill Ewrop. Golyga hyn fod defnyddwyr mawn yn cyfrannu at ddinistriad mawndiroedd ar draws y cyfandir a bo’r DU i bob pwrpas yn allfudo eu hôl troed carbon.  

Rydym hefyd am ei gwneud yn glir i’n llywodraethau fod gwahardd gwerthu mawn yn bolisi poblogaidd. Felly cliciwch yma er mwyn datgan eich cefnogaeth ac i annog eich cynrychiolwyr etholedig i gefnogi gwahardd gwerthu mawn!

Llun 1: Gwaith adeiladu argau (Martin Clift)

Llun 2: Gylfinir