Newyddion da ar gyfer adfer mawndiroedd yng Nghymru

English version available here.

Ar 27 Tachwedd, clywsom y newyddion ardderchog y bydd Cymru yn cael Rhaglen Adfer Mawndiroedd. Bydd y rhaglen hon, sy’n cael ei harwain gan Cyfoeth Naturiol Cymru a’i hariannu gan Lywodraeth Cymru, yn dechrau’r gwaith brys a phwysig o adfer mawndiroedd yng Nghymru.

Mae hwn yn gam gwych ymlaen uchelgeisiau hinsawdd ac adfer mawndiroedd yng Nghymru a chroesawn yr ymrwymiad a’r cyfeiriad y mae cyhoeddi’r rhaglen hon yn eu dangos.

Mae gan Gymru oddeutu 90,000ha o fawndiroedd sy’n cynnwys gorgorsydd tir uchel, cyforgorsydd tir isel ac amrywiol gynefinoedd gwlyb organig cyfoethog, ond dim ond oddeutu 10% o’r ardaloedd hyn sydd mewn cyflwr iach.

Pam fod mawndiroedd yn bwysig?

Gall mawndiroedd gwlyb, iach ddal a storio carbon o’r atmosffer, gan storio’r nwy tŷ gwydr pwysig hwn, yn aml am filoedd o flynyddoedd. Ond pan gânt eu difrodi drwy gael eu draenio, eu plannu â choed neu’u llosgi, mae’r mawndiroedd hyn yn dechrau cynhyrchu carbon yn hytrach na’i storio. Ar hyn o bryd, mae oddeutu 90% o fawndiroedd Cymru yn allyrru carbon yn hytrach na’i storio.

Mae gwaith draenio hanesyddol ar gyfer amaethyddiaeth, coedwigoedd a blannwyd mewn lleoliadau anaddas a gweithgaredd llosgi parhaus, fel rhan o ddulliau rheoli tir dwys wedi niweidio mawndiroedd. Yn ogystal ag allyrru carbon, mae hyn hefyd yn achosi erydu a chwymp mewn ansawdd dŵr. Gall mawndiroedd sydd wedi diraddio hefyd waethygu effaith y digwyddiadau tywydd difrifol yr ydym yn eu gweld yn amlach y dyddiau hyn o ganlyniad i newid hinsawdd.

Mae mawndir yn storio carbon ac yn darparu cynefinoedd i fywyd gwyllt. Credit: Nicholas Rodd (rspb-images.com)

Yn ogystal â storio carbon ac arafu llif dŵr oddi ar y tir i mewn i afonydd a nentydd, mae mawndiroedd hefyd yn gartref i amrywiaeth mawr o fywyd gwyllt. Yng Nghymru mae mawndiroedd yn darparu ardaloedd nythu yn y gwanwyn a’r haf i adar hirgoes, gan gynnwys y gylfinir a’r cwtyn aur; yn wir mae’r ddau aderyn hwn wedi dirywio’n aruthrol yng Nghymru. Mae llawer o blanhigion prin a diddorol i’w gweld ar draws mawndiroedd tir uchel a thir isel, fel gwlith yr haul, plu’r gweunydd, rhosmari gwyllt a llafn y bladur. Gallant hefyd fod yn gartref i amrywiol amffibiaid a llawer o rywogaethau gwyfynod a gloÿnnod byw gan gynnwys gweirlöyn mawr y waun. Wrth adfer ein mawndiroedd, rhaid inni sicrhau ein bod yn gwneud hyn mewn ffordd sy’n sicrhau ecosystem gadarn ac sydd hefyd yn atal allyriadau.

Mae mawndiroedd yng Nghymru i’w cael mewn amrywiol leoliadau o ucheldiroedd oer, gwlyb y Migneint a’r Berwyn i Gors Fochno ar yr iseldir arfordirol o amgylch aber afon Dyfi. Mewn rhai llefydd, mae mawndiroedd i’w cael ger poblogaethau trefol megis cors Crymlyn a Phen y Cymoedd yn ne Cymru. Ond, er bod yr ardaloedd hyn yn dal i gynnal amrywiaeth eang o fywyd gwyllt, dyma, yn aml, yw’r ardaloedd olaf sydd ar ôl o gynefinoedd a arferai orchuddio ardal llawer ehangach o Gymru. Drwy chwalu’r cynefinoedd hyn, mae’r rhywogaethau sy’n byw yno yn agored i niwed gan gynnwys oddi wrth effeithiau newid hinsawdd.

Beth sydd angen ei wneud?

Ar ôl datgan argyfwng hinsawdd yn 2019, mae cyhoeddi’r Rhaglen Adfer Mawndiroedd Genedlaethol yn gam pwysig i symud Cymru at ddyfodol sero net.

Fodd bynnag, mae llawer iawn i’w wneud.

Hyd yma, ar blannu coed y bu’r ffocws mwyaf i liniaru effeithiau newid hinsawdd drwy ddefnydd tir yng Nghymru. Fodd bynnag, dengys gwaith a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan RSPB fod mawndiroedd ar hyn o bryd yn allyrru mwy o garbon na fyddai hyd yn oed y targedau plannu coed uchaf a awgrymwyd gan Bwyllgor Newid Hinsawdd y DU yn ei ddal. Mae hyn yn golygu, er mwyn gwneud cynnydd gwirionedd, fod yn rhaid inni weithredu rhaglen adfer mawndiroedd ar raddfa fawr sy’n mynd y tu hwnt i’r hyn a gyhoeddwyd hyd yma.

Mae modd cyrraedd ein huchelgeisiau hinsawdd a hefyd arbed bioamrywiaeth, ond er mwyn gwneud hyn, rhaid inni sicrhau ein bod yn gweithredu yn y lle iawn a bod y gweithredu hwnnw’n ddigonol i sicrhau canlyniadau cadarnhaol i natur.

Er mwyn adfer mawndiroedd mewn ffordd a all roi inni’r ystod lawn o fanteision posibl, yn ychwanegol at y camau a gyhoeddwyd, rhaid i Lywodraeth Cymru:

  • Lunio cynllun ar gyfer adfer holl Fawndiroedd Cymru, gan gynnwys safleoedd lle ceir coedwigoedd a safleoedd sydd dan reolaeth amaethyddol.
  • Darparu cyllid digonol i gyflwyno rhaglen adfer mawndiroedd fel mater o frys i sicrhau ein bod yn gweithredu’n gadarnhaol yn erbyn newid hinsawdd.
  • Buddsoddi mewn gwaith adfer mawndiroedd fel rhan o’r Adferiad Gwyrdd i greu swyddi i gyflawni’r gwaith yn y mawndiroedd.
  • Atal coed rhag cael eu plannu ar briddoedd organo-fwynau megis mawn bas, oni ellir arddangos manteision i lefelau carbon ac i natur
  • Gwahardd yr arfer o dorri a gwerthu mawn, gan gynnwys ym maes garddio a garddwriaeth
  • Argymell a chymell defnyddiau economaidd sy’n gydnaws â dulliau cynaliadwy o reoli’r math hwn o bridd gwlypdir