Myfyrwyr, mwsoglau a mawn!

English version available here

Blog gwadd gan Rhian Pierce, Ymgynghorydd Cadwraeth ar gyfer Ardal Gogledd Cymru

Yr wythnos diwethaf ymunodd 15 myfyriwr o goleg Glynllifon ger Caernarfon â fi ar Gomin Llanycil, ger y Bala yng Ngwynedd, i gael gweld y gwaith y mae'r RSPB wedi bod yn ei wneud yno, ac i ddysgu am reoli tir ar gyfer y gylfinir ac i gynnal yr orgors.

Myfyrwyr yn eu hail flwyddyn yn astudio rheolaeth cefn gwlad neu goedwigaeth oedden nhw. Roedd y tywydd yn fendigedig ac yn fuan iawn fe fu'n rhaid i ni ddiosg ein cotiau - roedd yn teimlo fel petai'r gwanwyn wedi cyrraedd gydag adar fel yr ehedydd, corhedydd y waun a chlochdar y cerrig yn canu bob nawr ac yn y man.

Buom yn trafod gwerth gorgorsydd a'u mawn dwfn sy'n gweithredu fel dalfa garbon, yn ogystal â'u pwysigrwydd fel cynefin bendigedig ar gyfer adar fel pibyddion y mawn, cwtiaid aur, bodaod tinwyn a phlanhigion prin. Mae'r rhain yn cynnwys amrywiaeth o fwsoglau sphagnum sy'n gallu dal hyd at 20 gwaith eu pwysau mewn dŵr, llugaeron, grug y mêl a phlu'r gweunydd.

 

Fe edrychon ni hefyd ar y rôl werthfawr sy'n cael ei chyflawni gan ddefaid a merlod. Wrth bori, maen nhw'n atal y llystyfiant rhag tyfu'n rhy uchel a thrwchus, yn enwedig y grug. 'Dyw adar fel y gylfinir ddim yn hoff o laswellt sy'n rhy drwchus oherwydd mae'n eu hatal rhag cerdded trwyddo a chyrraedd y pridd i fwydo.

Fe edrychon ni ar y gwaith torri lleiniau cysgodi coed pinwydd rydym wedi bod yn ei wneud ger y comin er mwyn lleihau ysglyfaethu gan frain sy'n nythu ac ysglyfaethwyr eraill. Roedd hwn yn bwnc diddorol i'r rheiny sy'n astudio coedwigaeth sy'n dysgu pop dim am sut i dyfu coed! Yr hyn sy'n bwysig wrth gwrs yw plannu'r goeden fwyaf priodol yn y man mwyaf addas.

Roedd yn ymddangos bod gan y myfyrwyr ddiddordeb mawr am yr angen i ddefnyddio dulliau ffermio ag anifeiliaid er budd nifer o rywogaethau bywyd gwyllt, yn enwedig wrth i ni fynd at y caeau hynny lle mae cornchwiglod yn nythu yn flynyddol. Mae'r ffermwr yn cadw'r glaswellt yn fyr iawn yn rhain gan mai dyma'r math o gynefin ym mae cornchwiglod yn ei ffafrio.

Dim ond un myfyriwr a gollodd esgid - ac roeddwn i wedi synnu ar yr ochr orau gan y diffyg cwyno, hyd yn oed wrth iddo dywallt y mwsogl a'r dŵr mawnog ohoni!