English version available here.
Dyma ran ddiweddaraf Adfywio ein Byd - ein hymgyrch i gael Llywodraethau i gytuno i dargedau sy'n rhwymo'n gyfreithiol i amddiffyn ac adfer natur, sydd wedi dod yn offeryn hanfodol i'r mwyafrif ohonom yn ystod y pandemig. Mae'r siôp yn dangos realiti’r dyfodol llwm y gallem ei wynebu, lle mae’r awyr wedi ymdawelu, natur wedi dymchwel, a dinasoedd cyfan wedi diflannu o dan foroedd sy’n codi.
Y syniad y tu ôl i'r siôp yw cael pobl i weld realiti difrifol yr hanfodion bob dydd sydd eu hangen i oroesi, a sut y gallai cost yr eitemau sylfaenol hynny edrych os nad ydym yn amddiffyn natur, a sut olwg fyddai ar bethau os na wnawn ni bopeth o fewn ein gallu i'w amddiffyn.
Beth sydd ar y silffoedd?
Mae gan y siôp restr hir o gynhyrchion y bydd eu hangen arnom os ydym yn gadael i natur ddymchwel. Mae yna’r pethau hynny rydyn ni'n eu cymryd yn ganiataol - fel aer glân a dŵr - ond sy’n cael eu storio mewn caniau a photeli oherwydd bod ein hawyr a'n ffynonellau dŵr bellach wedi'u llygru a'u gwenwyno. Mae yna fagiau tywod - nwydd hanfodol i amddiffyn ein cartrefi rhag llifogydd a lefelau'r môr yn codi.
Mae yna ffrwythau a chwrw drud hefyd. Mae hwn yn foethusrwydd na all ond y cyfoethog ei brynu oherwydd bod y gwenyn a pheillwyr eraill sydd fel arfer yn peillio ein cnydau wedi diflannu, gan beri i'r eitemau moethus hyn fod yn brin. Yn y dyfodol hwn, feinyl caneuon adar fydd yr unig ffordd i ail-greu'r caneuon adar sydd wedi hen ddiflannu o'n hawyr.
Sut i atal hyn rhag dod yn realiti?
Mae adroddiad newydd gan yr RSPB a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf yn dangos sut y gallai llywodraethau newid cwrs hanes ac o bosibl ryddhau biliynau o bunnoedd y flwyddyn mewn buddion cyhoeddus - fel aer a dŵr glân, storio carbon a phriddoedd iach. Mae’r adroddiad yn dangos sut mae natur yn hanfodol i’n hymdrechion i adfywio ein byd ac yn tynnu sylw at sut y gall helpu i storio carbon, atal llifogydd a diogelu ffordd o fyw cymunedau.
Enw arall ar hyn yw Atebion ar Sail Natur. Mae'n ffordd o fynd i'r afael â'r argyfwng natur a'r hinsawdd trwy amddiffyn ac adfer natur. Un enghraifft dda o Atebion ar Sail Natur ar waith yw'r gwaith rydyn ni'n mynd i’w wneud i adfer mawndiroedd. Os ydynt yn iach ac wedi'u rheoli'n dda, gallant ddal a storio carbon, hidlo ac arafu llif y dŵr i'n nentydd a'n hafonydd ynghyd â darparu cartrefi i rai o'n bywyd gwyllt mwyaf gwerthfawr.
Mae RSPB Cymru wedi gweithio gyda Hafren Dyfrdwy i adfer ardaloedd o orgorsydd o amgylch gwarchodfa Llyn Efyrnwy yr RSPB yng nghanol Cymru. Arweiniodd peidio â deall gwerth y cynefinoedd hyn ar gyfer carbon a dŵr at ddraenio'r corsydd mawn hyn yn y gobaith o wella cynhyrchiant amaethyddol. Nid yn unig y methodd hyn, ond mae'r mawn sydd wedi'i ddifrodi yn allyrru carbon yn hytrach na'i storio. Nod y gwaith adfer yw ail-wlychu'r gors gan ail-greu effaith sbwng naturiol y migwynnau - yr allwedd i orgorsydd iach. Mae hyn yn dal a chronni carbon a dŵr ac mae'n gynefin hyfryd i'n bywyd gwyllt mynydd gwerthfawr.
Rydym angen i chi lofnodi ein e-weithred Adfywio ein Byd a dangos i Lywodraeth Cymru pam fod yn rhaid i natur fod yn flaenoriaeth. Mae angen 100,000 o lofnodion arnom ac am bob 15,000 o lofnodion a gasglwn bydd cynnyrch ychwanegol yn cael ei ychwanegu at y fasged siopa a fydd yn cael ei chyflwyno i Lywodraeth Cymru ar ôl cau'r siop ar Gorffennaf 8.
Am fwy o fanylion neu i arwyddo'r e-weithred cliciwch yma.