Sut y gwnaethoch chi gymryd rhan yn Gwylio Adar yr Ardd eleni? P’un ai ar eich pen eich hun yn gwrando ar gerddoriaeth neu fel rhan o grŵp gyda'r teulu a ffrindiau, roedd 491,984 o adar wedi ymddangos yng ngherddi a pharciau Cymru eleni, ac roedd ychydig dros 26,000 o bobl yng Nghymru wedi'u gweld.
Aderyn y to oedd yr aderyn a welwyd amlaf yng Nghymru o hyd. Roedd hwn wedi cael ei weld 6.3 gwaith fesul gardd ar gyfartaledd, gyda'r ddrudwen yn ail, ychydig ar y blaen i'r titw tomos las.
Fel y llynedd, yr aderyn du a'r robin goch oedd yr ymwelwyr mwyaf cyffredin â safleoedd bwydo ein gerddi - gwelwyd y rhain yn ychydig llai nag 86% o erddi yng Nghymru. Gwelwyd y nico (+5.2%) a’r gnocell fraith fwyaf (+7.9%) yn amlach wrth iddynt fwynhau'r holl fwyd blasus oedd wedi’u gosod allan iddynt wledda arnynt. Ond nid oedd y titw cynffon hir (-36.5%) a’r titw penddu (-14.6%) i'w gweld mor aml yn ein gerddi.
Mae'r dystiolaeth sydd wedi dod i law yn sgil cynnal Gwylio Adar yr Ardd am 40 mlynedd yn brawf o dwf hynod y nico. Pan gynhaliwyd yr arolwg cyntaf ym 1979, nid oedd y nico hyd yn oed ymysg y 10 uchaf yn y siart wreiddiol ond erbyn hyn, y nico yw un o'r adar sy'n ymweld amlaf â gerddi Cymru. Mae'r aderyn bach lliwgar a thlws hwn wedi dringo drwy'r rhestr yn y modd mwyaf rhyfeddol dros y blynyddoedd wrth iddo ddefnyddio ein gerddi fel ei hoff dai bwyta.
Y titw cynffon hir a’r titw penddu oedd ymysg yr ymwelwyr mwyaf trawiadol o ran niferoedd yn ystod Gwylio Adar yr Ardd 2018 yng Nghymru. Ond eleni, nid oedd y naill rywogaeth na'r llall i'w gweld mor aml yn ein gerddi. Efallai nad yw hyn yn ddim byd i boeni amdano - mae’n bosibl eu bod wedi cael digon o fwyd yn rhywle arall oherwydd tywydd cynhesach y gaeaf hwn. Byddai hyn yn golygu nad oeddynt o dan gymaint o bwysau i ddibynnu ar safleoedd bwydo ein gerddi. Er hynny, nid yw’n glir eto faint o effaith a gafodd y tywydd oer eithriadol a ddaeth yn sgil y Dihiryn o'r Dwyrain ym mis Chwefror a mis Mai 2018 ar adar yr ardd.
Mae poblogrwydd Gwylio Adar yr Ardd wedi tyfu o flwyddyn i flwyddyn ac erbyn hyn, 40 mlynedd yn ddiweddarach, hwn yw arolwg bywyd gwyllt mwyaf y byd gydag oddeutu hanner miliwn o bobl yn cymryd rhan ynddo yn rheolaidd. Mae’n rhoi gwybodaeth werthfawr inni sy'n helpu i greu darlun gwell o sefyllfa adar yr ardd.
Nid yw'r cysylltiad rhyngom ni fel pobl a'r bywyd gwyllt ar garreg ein drws erioed wedi bod yn bwysicach. Gyda mwy o adar nag erioed ar y Rhestr Goch yng Nghymru ac felly mewn perygl, mae projectau gwyddoniaeth i ddinasyddion – pan mae unrhyw un ohonom yn gallu helpu a chyfrannu at wneud gwahaniaeth i natur – yn chwarae rhan hollbwysig yn y gwaith o benderfynu ar gyflwr ein poblogaethau o adar. Drwy wneud ein rhan drwy Gwylio Adar yr Ardd, y gobaith yw y gallwn gyfrannu at helpu cadwraethwyr i wrthdroi’r dirywiadiau yn rhai o'r adar hyn.
I weld holl ganlyniadau Gwylio Adar yr Ardd yr RSPB ac i weld pa adar oedd yn ymweld â gerddi yn eich ardal chi, ewch i www.rspb.org.uk/birdwatch
Deg uchaf yng Nghymru:
Safle 2019
Rhywogaeth
Nifer fesul gardd ar gyfartaledd 2019
% Gerddi 2019
Safle 2018
Nifer fesul gardd ar gyfartaledd 2018
% Gerddi 2018
% Newid
% newid yn % y gerddi a gofnodwyd
1
Aderyn y to
6.3
76.0
6.1
78.2
2.5
-2.9
2
Drudwen
3.8
44.5
3
3.6
45.8
4.7
Titw tomos las
79.5
81.8
3.2
-2.8
4
Mwyalchen
2.2
85.7
2.4
88.8
-6.3
-3.5
5
Ji-binc
2.1
48.9
53.7
-4.0
-8.8
6
Titw mawr
2.0
61.4
1.9
63.6
1.7
-3.4
7
Nico
1.6
30.5
9
31.1
5.2
-1.9
8
Robin goch
1.5
88.7
-5.1
Pioden
1.4
60.3
11
1.3
59.0
5.5
2.3
10
Jac-y-do
32.6
32.8
1.0
-0.5
Eraill:
12
Titw cynffon hir
1.1
25.2
33.7
-36.5
-25.2
14
Titw penddu
42.6
-14.6
-12.8
21
Cnocell fraith fwyaf
0.2
15.8
23
14.7
7.9
7.4
Credyd lluniau yn y drefn maen nhw'n ymddangos: Nico gan John Bridges, Titw penddu gan Michael Harvey a'r llun olaf gan Rahul Thaniki.