To read this blog in English please click here

O ddyddiau cynnar plentyndod, gall y cysylltiadau emosiynol rydyn ni’n eu meithrin â bywyd gwyllt gael effaith bwysig ar sut rydyn ni’n gweld y byd. Efallai fod ein cyndeidiau wedi mwynhau gwylio gylfinirod ar ein hucheldiroedd, cudyllod bach ar ein rhosydd a phalod ar ein clogwyni glan môr. Y dyddiau hyn, fodd bynnag, mae’n bosib nad yw ein cenhedlaeth iau erioed wedi gweld unrhyw rai o’r rhywogaethau rhyfeddol hyn. Mae’n wir bod y byd a’r dirwedd wedi newid yn sylweddol ers i’n cyndeidiau droedio’r ddaear. Ond, mae’n hollbwysig nad ydyn ni’n colli’r cysylltiad hwnnw â natur - yn arbennig oherwydd y gall pob un ohonom fod yn rhan o achub natur.

Yn anffodus, mae’r gylfinir, y cudyll bach a’r pâl ar restr gynyddol o 55 o rywogaethau sydd bellach o dan fygythiad yma yng Nghymru, fel y nodwyd yn yr adroddiad Adar o Bryder Cadwraethol yng Nghymru 2016 a gyhoeddwyd yn ddiweddar. Mae gan y rhestr Goch yng Nghymru fwy o adar arni nag erioed o'r blaen. Mae naw rhywogaeth ychwanegol wedi’u hychwanegu ers yr adroddiad diwethaf yn 2009.

Mae’r wylan goesddu a chrec yr eithin wedi neidio o’r rhestr Werdd i'r rhestr Goch. Mae hyn yn tynnu sylw at y pwysau sydd ar adar yr ucheldir ac adar y môr sy’n nythu. Mae’r wylan goesddu yn ymuno ag adar y môr sydd o dan fygythiad fel y pâl, sy’n bwysig yn fyd-eang a môrwennol y gogledd, sydd â’i dosbarthiad yn dirywio. Mae crec yr eithin yn ymuno â’r mudwyr sy’n teithio o bell o Affrica Is-Sahara a throfannau clos, fel y gog a thelor y coed, ar y rhestr Goch.

Mae’r rhestr Goch yn cynnwys mwy o adar ucheldir nag unrhyw gynefin arall. Creciau’r eithin, cudyllod bach a thylluanod corniog yw’r diweddaraf i gael eu hychwanegu. Mae degawdau o newidiadau amgylcheddol a newidiadau mewn defnydd tir wedi addasu ein hucheldiroedd hyfryd gan effeithio ar ansawdd a chysylltiad y cynefinoedd maen nhw’n dibynnu arnyn nhw. Arferai cri’r gylfinir a blaengudyn y gornchwiglen fod yn amlwg iawn ar ein hucheldiroedd. Heddiw, byddech chi’n lwcus gweld yr adar arbennig hyn o gwbl.  

Prin iawn yw’r uchafbwyntiau cadarnhaol, ond mae’r dylluan wen yn un ohonyn nhw. Ar ôl bod ar y rhestr Ambr, mae bellach ar y rhestr Werdd ar ôl gwella o ran nifer a dosbarthiad. Un arall o lwyddiannau cadwraethol adnabyddus ar y rhestr Ambr yw’r barcud. Roedd yn arfer bod ar fin diflannu yn y DU, ond llwyddodd camau gweithredu wedi’u targedu gan fudiadau cadwraethol a gwirfoddolwyr ymroddedig i sicrhau adferiad anhygoel i’r aderyn ysglyfaethus mawreddog. Mae Cymru hefyd ar flaen y gad o ran adferiad anhygoel y barcud, a byddai ar y rhestr Werdd oni bai am ei statws o dan fygythiad parhaus yn Ewrop.

Mae pob rhywogaeth yn cael ei barnu ar ystadegau penodol cyn ei rhoi ar y rhestr Goch, Ambr neu Werdd. Caiff rhywogaethau eu rhoi ar y rhestr Goch os ydyn nhw’n bwysig yn fyd-eang; wedi prinhau’n hanesyddol; wedi prinhau’n sylweddol yn ddiweddar neu os nad ydyn nhw wedi llwyddo i adfer ar ôl prinhau’n hanesyddol. Caiff rhywogaethau eu rhoi ar y rhestr Ambr os ydyn nhw’n bwysig yn Ewrop; wedi prinhau’n gymedrol yn ddiweddar; wedi adfer rhywfaint ar ôl prinhau’n hanesyddol neu bod nifer ohonyn nhw ar lefel ryngwladol; bod ganddyn nhw ddosbarthiad lleol iawn neu oherwydd eu bod yn bwysig i’r DU yn ehangach. Bydd unrhyw rywogaeth nad yw’n dod o dan y meini prawf uchod yn cael eu rhoi ar y rhestr Werdd, felly nid ydyn nhw o dan fygythiad uniongyrchol yng Nghymru.

Mae’r adroddiad a gyhoeddir bob pum mlynedd yn hanfodol i’n helpu ni i ddeall sefyllfaoedd ein hadar pwysig. Mae’r adroddiad yn rhan annatod o’r dystiolaeth a ddefnyddir i gynllunio a chymryd camau gweithredu cadwraethol, i sicrhau dyfodol gwell ar gyfer ein bywyd gwyllt bendigedig. Gyda’n gilydd, gallwn sicrhau bod y rhywogaethau hyn sydd o dan fygythiad yn dal i alw Cymru’n gartref. 

830-1330_17_18_BoCCwales_web_spread.pdf