Cyflwyno Llyfr Dymuniadau Cymru’r Dyfodol i Sophie Howe

English version available here.

Yn gynharach y mis hwn, fe wnaethom gydweithio â grŵp o ymgyrchwyr ifanc er mwyn cwrdd â Chomisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru, Sophie Howe. Yn ogystal â thrafod pa gamau y mae angen eu cymryd i achub natur yng Nghymru, fe wnaethom gyflwyno Llyfr Dymuniadau Cymru'r Dyfodol iddi.

Mae Llyfr Dymuniadau Cymru'r Dyfodol Cymru wedi cael ei greu a’i lofnodi gan amgylcheddwyr ifanc o bob cwr o Gymru, gyda chymorth RSPB Cymru. Mae’r llyfr wedi'i gyfeirio at y Comisiynydd ac mae’n dangos cariad, gobeithion a phryderon pobl ifanc am fyd natur yng Nghymru, yn ogystal â’r hyn yr hoffen nhw ei weld yn y dyfodol.

 Yn 2019, mae ymgyrchwyr ifanc o bob cwr o'r byd wedi bod yn galw ar y bobl sy’n gwneud penderfyniadau i wneud mwy i fynd i'r afael â’r argyfwng hinsawdd a’r argyfwng ecolegol drwy fynd allan i brotestio. Yng Nghymru, bu miloedd o brotestwyr yn gweithredu ar 20 Medi fel rhan o’r Streic Hinsawdd Ieuenctid, ac yma cafwyd y syniad am ‘Lyfr Dymuniadau Cymru'r Dyfodol’.  Dechreuom arni drwy gasglu cyfraniadau yn y Streic, cyn anfon y llyfr dymuniadau o amgylch Cymru er mwyn sicrhau bod cymaint o bobl ifanc â phosib yn cymryd rhan.

Ymunodd tri ymgyrchydd ifanc â ni i gyflwyno'r llyfr i Sophie, gan gynnwys Tessa Marshall, amgylcheddwraig 23 oed, a ddywedodd: “Heb natur, allwn ni ddim achub y blaned. Ac allwn ni ddim gwneud hynny heb newid strwythur y system chwaith. Gobeithio bod ein cyfarfod wedi ysgogi'r Comisiynydd i barhau â’i gwaith o ddylanwadu ar y llywodraeth i fod yn wlad ‘carbon niwtral’, ac i wneud safiad dros natur a chynnig safbwynt beiddgar ar newid y system yng Nghymru.”

Mae’r Comisiynydd wrthi’n llunio ei hadroddiad Cymru Ein Dyfodol ar hyn o bryd, a bydd yn nodi ei phrif flaenoriaethau ynddo. Mae’r adroddiad yn debygol o ddylanwadu ar ddatblygiad maniffesto pob plaid a bod yn sail i waith llywodraeth nesaf Cymru, felly rydyn ni’n gobeithio y bydd natur a bioamrywiaeth yn rhan flaenllaw o’r adroddiad drwyddo draw.

Rydyn ni wedi bod yn annog pobl sy’n frwd dros natur i gymryd rhan yn ymgynghoriad cyhoeddus y Comisiynydd drwy Lwyfan y Bobl. Nod y fenter yw rhoi cyfle i’r cyhoedd leisio eu barn am y materion sy’n bwysig iddyn nhw, cyn cyhoeddi Adroddiad Cymru Ein Dyfodol fis Mai nesaf. Mae’r dyddiad cau wedi cael ei ymestyn tan ddiwedd y flwyddyn felly mae amser i roi llais i fyd natur Cymru o hyd. Gallwch ymuno â’r sgwrs yma.