English version available here.
Am y pedair blynedd diwethaf mae St Davids Gin wedi bod yn cynhyrchu a gwerthu gin Ramsey Island a St Davids Seaweed gan ddefnyddio llysiau botanegol sy’n tyfu ar yr ynys ac ar dir mawr Sir Benfro gerllaw.
Lansiwyd St Davids Gin ar Ddydd Gŵyl Dewi yn 2019, ac erbyn hyn mae ganddyn nhw eu distyllfa eu hunain yn Nhyddewi. Maen nhw’n cynhyrchu dau fath, gin RSPB Ramsey Island a gin St Davids Seaweed. Gan ddefnyddio blodau grug a mintys y dŵr sy’n cael eu cynaeafu o’r ynys a gwymon a gesglir o dan drwydded ar y tir mawr, mae’r diodydd hyn â’u blas unigryw wedi profi’n hynod boblogaidd.
O werthiant y gin, mae Distyllfa Tyddewi wedi rhoi £20,000 i RSPB Cymru tuag at ein gwaith cadwraeth ar Ynys Dewi. Ers derbyn yr arian mae RSPB Cymru wedi’i ddefnyddio i gael system hidlo uwchfioled ar gyfer ein dŵr yfed, sydd wedi golygu diwedd ar werthu poteli plastig ar yr ynys, yn ogystal â helpu i dalu am ein gwaith cadwraeth craidd, sy’n amrywio o waith bugeilio er lles ein poblogaeth bwysig o frain coesgoch hyd at ddyfeisiau tracio ar gyfer ein gwaith ymchwil gydag adar drycin Manaw.
Gin sydd â blas yr ynys
Rydym yn casglu ychydig o flodau grug a mintys y dŵr ar Ynys Dewi o fannau sydd wedi’u clustnodi ar gyfer rheoli’r cynefin. Mae’r gwaith rheoli hwn yn help i gadw rhostir pwysig yr ynys yn y cyflwr gorau. Caiff y llysiau botanegol hyn eu defnyddio wedyn yn y broses o ddistyllu’r gin i ychwanegu blas unigryw’r ynys i’ch diod.
Rydym yn hynod falch o gyhoeddi bod y cynnig hwn yn parhau gyda RSPB Cymru wedi’i ddewis fel un o’r tair elusen y bydd y ddistyllfa yn cyfrannu atynt eleni o werthiant eu gin, gyda 20% o bob potel a werthir yn cael ei roi yn ôl i RSPB Cymru. Cliciwch yma i weld beth sydd ganddynt i’w gynnig.
Felly beth am dretio’ch hun i ddiod arbennig y gwanwyn hwn i’w mwynhau wrth wylio’r bywyd gwyllt sy’n ymweld â’ch gardd chi gan wybod bod rhan o’r arian rydych chi’n ei wario yn ein helpu i wneud gwaith hanfodol ar Ynys Dewi.