Gwyddau gwych a ble i ddod o hyd iddyn nhw

English version available here.

Gall y gaeaf fod yn amser caled i natur. Gyda dyddiau’n byrhau a’r tywydd yn mynd yn oerach â’n wlypach, mae’n deg dweud y byddai unrhyw greadur call yn cuddio nes bod tywydd cynhesach y gwanwyn yn cyrraedd.

Wedi dweud hynny, mae'r gaeaf yng Nghymru yn amser prysur iawn i fywyd gwyllt. Er bod ymwelwyr yr haf fel gwenoliaid a gwenoliaid duon wedi ein gadael ar gyfer hinsawdd gynhesach, bydd miloedd o ymfudwyr newydd yn ymgartrefu yma dros fisoedd y gaeaf.

Un grŵp o adar sy'n gwneud siwrneiau hir i fwydo a chysgodi ar ein harfordiroedd a'n aberoedd yw gwyddau. Mae gwyddau yn adar mawr, a gellir eu hadnabod yn hawdd gyda’u coesau hir, eu traed gweog a'u hadenydd llydan. Efallai eich bod wedi eu gweld yn hedfan, gan ddefnyddio eu ffurfiad V enwog. Mae rhai o'r rhain yn aros ar ein glannau trwy gydol y flwyddyn, ond mae miloedd yn mudo bob blwyddyn, i ddianc oddi wrth aeafau oer a garw Sgandinafia a'r Arctig. Dyma gipolwg ar yr hyn y gallwch chi ddisgwyl ei weld, ac ymhle, dros yr ychydig fisoedd nesaf.

 Gwyddau talcen-wyn yr Ynys Las

Fel y mae eu henw yn ei awgrymu, mae'r adar hyn yn bridio yn yr Ynys Las, ond maen nhw'n teithio o arfordir gorllewinol yr ynys i ogledd Ewrop ar gyfer y gaeaf. Maen nhw'n stopio yng Ngwlad yr Iâ i gael seibiant cyflym, cyn gaeafu mewn ychydig o safleoedd penodol yn y DU. Yng Nghymru, maen nhw'n dod i RSPB Ynys-hir, gan fanteisio ar y tiroedd bwydo cyfoethog ar aber yr afon Dyfi. Mae siawns hefyd o’u gweld mewn ambell safle arall yng Nghymru, yn enwedig yn Ynys Môn.

Yn anffodus, mae'r adar hyn mewn perygl. Ar ôl blynyddoedd o or-hela a saethu, mae eu niferoedd wedi gostwng yn sylweddol, gyda chyfanswm y boblogaeth fyd-eang bellach o dan 20,000. Mae'r niferoedd sy'n ymweld â Chymru hefyd wedi gostwng. Yn 1991, treuliodd 179 o wyddau eu gaeaf yn y warchodfa, o'i gymharu â dim ond 17 yn 2018.

Fodd bynnag, mae ‘na obaith i’r gwyddau prin hyn. Yn ddiweddar, ymrwymodd Llywodraeth Cymru i waharddiad cyfreithiol ar hela, diolch i ymgyrch bum mlynedd dan arweiniad RSPB Cymru a sefydliadau eraill fel Cyfoeth Naturiol Cymru, Cymdeithas Saethu a Chadwraeth Prydain, clybiau adar gwyllt lleol ac Ymddiriedolaeth Adar Gwyllt a Gwlyptiroedd.

Rydym hefyd yn ceisio dysgu mwy amdanynt. Yn 2016, fe osodom goleri lloeren ar ddau o'r adar a oedd yn gaeafu yn RSPB Ynys-hir, i weld pa ardaloedd ar yr aber yr oeddent yn eu defnyddio a lle’r oedd y safleoedd bridio. Profodd hyn yn llwyddiannus iawn, ac mae wedi dangos bod gan boblogaeth Dyfi gysylltiadau ag adar gaeafol yr Alban ac Iwerddon. Mae hefyd yn tynnu sylw at y mudo anhygoel y maen nhw'n ei wneud, gan hedfan yn ddi-stop o aber yr afon Dyfi i orllewin Gwlad yr Iâ mewn un hediad dros gyfnod o 24 awr!

Gwyddau gwyran

Math arall o ŵydd sy'n dod i RSPB Ynys-hir yw gwyddau gwyran. Dechreuodd nifer fach o'r gwyddau du a gwyn yma aeafu ar y warchodfa 20 mlynedd yn ôl. Yn wreiddiol, roeddem yn meddwl mai adar gwyllt oedd y rhain, ond ar ôl prosiect modrwyo , fe wnaethon ni ddysgu eu bod yn dod o boblogaeth wyllt yn Ardal y Llynnoedd. Maent fel arfer yn cyrraedd ym mis Medi, ac erbyn mis Ionawr, maent wedi diflannu. Mae'n ddirgelwch ble maen nhw'n mynd ar ôl iddyn nhw adael a chyn iddyn nhw ddychwelyd i ogledd Lloegr.

Gwyddau Canada

Er bod gwyddau Canada yn un o'r rhywogaethau mwyaf cyffredin ac efallai'r hawsaf i’w hadnabod, nid ydynt yn frodorol i Gymru. Fe'u cyflwynwyd i'r DU o ogledd America, ac maent bellach yn breswylwyr blynyddol. Gellir gweld nifer dda yn RSPB Conwy, ac maent hefyd yn ymweld â RSPB Gwlyptiroedd Casnewydd. Maent hefyd yr adar dŵr mwyaf cyffredin yn RSPB Ynys-hir, a gellir eu gweld trwy gydol y flwyddyn wrth iddynt ddefnyddio cefnau tywod yr aber fel cysgod.

Ymwelwyr eraill

Mae gwyddau duon yn gaeafu mewn sawl safle yng ngogledd Cymru, yn bennaf o amgylch Ynys Môn ag Afon Menai. Maent yn ymweld â RSPB Conwy o bryd i'w gilydd, i fwydo ar laswelltiroedd gwlyb aber afon Conwy. Gallwch hefyd weld ambell ŵydd droedbinc yng ngwarchodfa RSPB Conwy. Maent yn brin a’u hymweliadau yn rai byr, gan eu bod ond yn stopio am orffwys cyflym ar eu ffordd yn ôl i fyny i'r gogledd i'w safleoedd bridio yn yr Arctig.

 Y lle gorau i'w gweld yw RSPB Ynys-hir, ond efallai y byddwch hefyd yn dod o hyd iddynt yn RSPB Cors Ddyga, RSPB Conwy ac RSPB Gwlyptiroedd Casnewydd. Nid gwyddau yn unig sy'n teithio o lefydd pell i dreulio eu gaeaf yma. Mae llawer o adar, fel coch dan adain, socan eira a bras yr eira yn gwneud eu ffordd yma i ffoi rhag gaeafau garw a chreulon Sgandinafia a Chylch yr Arctig.

Mae llawer o'n gwarchodfeydd ar draws Cymru yn croesawu ymfudwyr gaeaf hefyd. Mae RSPB Llyn Efyrnwy yn le da i weld coch yr adain, pinc y mynydd a’r socan eira, ac mae RSPB Gwlyptiroedd Casnewydd yn gartref i 50,000 o ddrudwy - golygfa na ellid ei golli! Cliciwch yma i ddod o hyd i'ch gwarchodfa leol ac i gynllunio'ch taith nesaf!