Yn dilyn ymgyrch hir dros gyfnod o bum mlynedd, mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i waharddiad cyfreithiol ar saethu gwyddau talcen-wyn yr Ynys Las yng Nghymru.
Mae gwyddau talcen-wyn yr Ynys Las mewn perygl ac o dan fygythiad mawr o ddiflannu'n llwyr o'r byd - mae'r boblogaeth fyd-eang yn îs na 20,000 o adar, ac mae niferoedd y boblogaeth sy'n gaeafu yng Nghymru yn ddifrifol o isel. Ar ddiwedd y 1990au, dychwelodd dros 160 ohonynt i'w safle gaeafu rheolaidd ar yr Afon Dyfi yng Ngheredigion. Roedd y ffigwr hwnnw wedi syrthio i lai na 25 yn 2018, a chafwyd nifer fach o adroddiadau ohonynt yn cael eu gweld mewn mannau eraill ledled Cymru, yn enwedig ar Ynys Môn.
Yn hwyr y llynedd, cyhoeddodd y cyn-Weinidog dros yr Amgylchedd, Hannah Blythyn, y byddai'r ŵydd dalcen-wen yr Ynys Las yn cael ei thynnu o'r rhestr o'r creaduriaid hynny y mae'n gyfreithlon i'w saethu, a gwahardd lladd neu gymryd yr adar yma.
"Roedd y ffigwr hwnnw wedi syrthio i lai na 25 yn 2018, a chafwyd nifer fach o adroddiadau ohonynt yn cael eu gweld mewn mannau eraill ledled Cymru..."
Cyn y gwaharddiad newydd, Cymru oedd un o'r unig wledydd yn y byd ar hynt ymfudo gwyddau talcenwyn yr Ynys Las lle nad oedd y gyfraith yn eu diogelu ar y safleoedd hynny lle'r oedden nhw'n gaeafu. Fodd bynnag, roedd clybiau hela adar yn gweithredu gwaharddiad gwirfoddol ar eu saethu. Mae blynyddoedd o ymgyrchu gan nifer o sefydliadau ac unigolion yn mynegi eu pryderon am ddiffyg gwaharddiad cyfreithiol, yn rhyngwladol ac o fewn Llywodraeth Cymru, wedi arwain at yr adar yma yn cael eu gwarchod yn well.
I gydnabod pwysigrwydd y gwyddau hyn, ffurfiwyd Partneriaeth Gwyddau Talcen-wyn yr Ynys Las yng Nghymru. Mae hi'n cynnwys RSPB Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru, Llywodraeth Cymru, BASC, clybiau hela adar ac Ymddiriedolaeth Adar y Gwlyptir. Nod y bartneriaeth yw darganfod mwy am y gwyddau hyn, yn enwedig ar y Dyfi.
Er ein bod yn dal i ddathlu'r gwaharddiad cyfreithiol hwn yn RSPB Cymru, rydym yn parhau i fod yn gwbl ymrwymedig i weithio gyda sefydliadau eraill trwy'r bartneriaeth hon, sy'n cael ei hariannu gan Lywodraeth Cymru, i wella statws cadwraeth y gwyddau prin hyn yng Nghymru.
Wrth reswm, fe wnawn ni rannu'r newyddion diweddaraf am hynt yr adar eiconig yma gyda chi yn y dyfodol ond, am nawr, roeddem ni am ddiolch ichi am eich cefnogaeth anhygoel, sydd wedi helpu i ddod â'r gwaharddiad pwysig hwn i rym.