To read this blog in English please click here.Mae Gŵyl y Gelli yn casglu ynghyd rhai o awduron, digrifwyr, cerddorion, gwyddonwyr a haneswyr mwyaf adnabyddus y byd ac wrth iddi ddathlu ei phen-blwydd yn 30 oed eleni, a byddwn yn elwa i'r eithaf ar raglen ddigwyddiadau gyffrous yr ŵyl, wrth i ni gynnal ein gweithdai bywyd gwyllt ein hunain yng ngardd wyllt yr Gŵyl y Gelli.
Ydych chi erioed wedi meddwl pwy arall sy'n mwynhau Gŵyl y Gelli? Ydych chi erioed wedi meddwl edrych o dan y llwybr pren ar faes yr ŵyl neu'r stondinau sy'n ei amgylchynu? Yn y pebyll aruthrol ac o'u cwmpas, ymhlith y pentyrrau o lyfrau a'r glaswellt sy'n disgleirio yn yr haul, mae byd bach yn aros i gael ei ddarganfod. Llun: Helen Pugh (rspb-images.com)
Estynnwch eich rhwydi a'ch potiau ac ymuwch ag RSPB Cymru ar saffari yn yr ardd wyllt i weld pa greaduriaid sy'n cuddio yn y dail, y boncyffion a'r glaswellt hir. Ar hyd y ffordd byddwch chi'n gweld y gwahanol liwiau y mae natur yn eu creu, gan gasglu trysorau naturiol a chreu collage lliwiau. Dyma'r holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi. £5 yw pris y gweithdai. Hyn a hyn o lefydd sydd ar gael, ac fe allwch chi archebu ar wefan Gŵyl y Gelli yma.
Dyddiadau
27 a 28 Mai, a 3 a 4 Mehefin
Lleoliad
Bydd eich antur wyllt yn dechrau yn stondin RSPB!
Amser
11:30am – 12:30pm
Yn ystod eich ymweliad â Gŵyl y Gelli, beth am ddod i weld beth arall y gallwch chi ei ddarganfod drwy ymweld â'n stondin. Bydd cyfle i chi gael profiad personol o natur wrth i chi dreulio amser yn gwrando ar hanesion natur a llawer mwy.
Eisiau mwy eto?! Pam lai! Beth am ein gwobrau sialens wyllt y gallwch chi eu gwneud gartref? Hwyl i'r teulu cyfan sy'n eich galluogi chi i ddarganfod a helpu'r natur yn eich milltir sgwâr; gall hyn olygu eich gardd gefn, y parc i lawr y lôn neu hyd yn oed ar eich fferm. Rydym ni angen natur, ac mae natur angen ni.
Boed hi'n law neu'n haul, mae natur yn hynod ddiddorol, ac mae'n barod i ni ddod o hyd iddi. Rydyn ni'n edrych ymlaen at eich gweld chi gyd yng Ngŵyl y Gelli 2017! #HAY30 #CyfeillgariNaturMake & Take Tent gan Elisabeth Broekaert