To read this blog in English please click here.



Mae Gŵyl y Gelli, sydd wedi ei leoli yn ‘nhref y llyfrau’, wedi dod ag ysgrifenwyr o bob cwr o’r byd ynghyd ers 29 o flynyddoedd, i rannu straeon yng nghanol y Gelli Gandryll.  Gyda mwy na 600 o ddigwyddiadau rhyfeddol, mae’r Ŵyl yn ymgyfuno nofelwyr, gwyddonwyr, gwladweinwyr, haneswyr, cerddorion a digrifwyr mwyaf y byd â’i gilydd, gyda rhaglen wefreiddiol sy’n llawn o sgyrsiau, gweithdai a gweithgareddau ar gyfer plant ac oedolion fel ei gilydd.

Eleni, wrth i Ŵyl y Gelli ddathlu ei phen-blwydd yn 30 oed, bydd RSPB Cymru yn ymuno â’r ysgrifenwyr ac arweinwyr y byd wrth inni groesawu digwyddiad arbennig ar 31 Mai er mwyn ymchwilio yn ddyfnach i adroddiad Sefyllfa Byd Natur 2016, ac edrych ar sut y byddai’r 30 mlynedd nesaf yn edrych pe byddai’r amgylchedd naturiol wrth galon polisïau ffermio yn dilyn Brexit.



Ers i’r Prif Weinidog, Theresa May, danio erthygl 50 ym mis Mawrth, bu prysurdeb mawr gyda datblygiadau polisïau gwledig ac amaethyddol, ac er ein bod yn wynebu amser ansicr, rydym ni yn wynebu cyfleoedd yn ogystal i lunio polisi amaethyddol er gwell - gan greu ffordd o weithio a all fod yr un mor dda ar gyfer natur, ffermwyr a ni.

Cynhelir y digwyddiad ar y Llwyfan Ynni Gwyrdd am 1pm a bydd yn croesawu amrediad o westeion arbennig a fydd yn cynnwys Cyfarwyddwr RSPB Cymru, Katie-Jo Luxton; y newyddiadurwr a’r awdur, Louise Gray; bardd y gair llafar, Martin Daws; Aaelod o Bwyllgor Newid yn yr Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig Cynulliad Cymru, Huw Irranca-Davies; ffermwr defaid Cymreig a chynrychiolydd Tegwch ar gyfer yr Ucheldiroedd, Tony Davies, Cadeirydd Amaeth Cymru, Kevin Roberts, a Chadeirydd yr RSPB, yr Athro Steve Ormerod.  Yn ogystal, bydd gennym ni fwrlwm o weithgareddau ar ein stondin ynghyd â digwyddiadau hwyliog i’r teulu yng ngardd wyllt yr ŵyl.

Mae’r ucheldiroedd yn adnoddau gwerthfawr sy’n darparu digonedd o fuddion cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol.  Felly, os ydym ni’n gweithio gyda’n gilydd i atgyfnerthu gwydnwch yr ucheldiroedd a’r lleoedd yr ydym yn eu caru, mae’r posibiliadau ar gyfer natur ac ar ein cyfer ni yn ddi-ben-draw.

  
  

Lluniau uchod yn ol y cloc gan Sam Hardwick, Amy Kerridge,
Elizabeth Broekaert a Sam Hardwick

Felly, dewch i ymuno â ni ar 31 Mai ar gyfer beth sy’n addo bod yn wythnos gyffrous yn y Gelli Gandryll a chael y cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol yr ucheldiroedd yng Nghymru yn dilyn Brexit.  Ac i goroni’r cyfan, os ydych chi’n dymuno ymestyn eich arhosiad, rydych chi dafliad carreg yn unig o brydferthwch Bannau Brycheiniog, rhai o deithiau cerdded gorau’r wlad a thros 30 o siopau llyfrau ynghyd â’r hufen iâ llaeth defaid enwog gan gwmni Shepherds, er mwyn crybwyll ychydig ohonyn nhw yn unig!

Byddwn ni yng Ngŵyl y Gelli drwy’r wythnos, o 25 Mai tan 4 Mehefin.  Gallwch chi archebu tocynnau ar gyfer ein digwyddiadau ar 31 Mai yn http://bit.ly/2oWsu2f  neu drwy gysylltu â thîm y swyddfa docynnau ar 01497 822 629. Os hoffech chi gael mwy o wybodaeth ynglŷn â gwaith RSPB Cymru gyda ffermwyr drwy Gymru, ewch i https://www.rspb.org.uk/farming os gwelwch yn dda.