Gwarchod gylfinbraffau gogledd Cymru

English version available here

**Diweddariad blog - 6 Medi 2022**

Ym Meirionnydd, fe welwch un o’r poblogaethau pwysicaf o ylfinbraffau sy’n magu yn y DU. Fodd bynnag, mae cynnydd yn yr achosion o trichomonosis, clefyd câs sy'n effeithio ar adar, yn bygwth yr aderyn prin a hardd hwn. Yn y blog hwn, rydym yn trafod yr hyn y gellir ei wneud i helpu i warchod yr aderyn trawiadol hwn yr haf hwn.

Beth yw gylfinbraff?

Mae'r gylfinbraff yn aderyn coetir prin sy'n cael ei ddenu gan hadau blodyn yr haul a ddarperir mewn gerddi. Mae'r ardal o amgylch Dolgellau yn un o'r pum poblogaeth bwysicaf o'r gylfinbraff yn y DU ac mae'n un o'r ddwy brif ardal fagu yng Nghymru. Mae gan gylfinbraff bîg anferth, sy’n ddigon pwerus i hollti hadau ywen, cerrig ceirios a ffawydd, a gall eu genau roi pwysau fil gwaith ei bwysau ei hun, sy’n cyfateb i 150 pwys y fodfedd sgwâr.

Yn anffodus, mae poblogaeth y gylfinbraff ym Meirionnydd yn dioddef o gynnydd difrifol mewn afiechyd cas o’r enw trichomonosis, sy’n achosi iddynt ostwng mewn niferoedd.

Beth yw trichomonosis?

Mae trichomonosis yn glefyd sy'n achosi briwiau yng ngwddf yr aderyn heintiedig, sy'n ei gwneud yn fwyfwy anodd i'r aderyn lyncu ei fwyd. Yn ogystal â dangos arwyddion o salwch cyffredinol fel syrthni a phlu blêr, gall adar yr effeithir arnynt boeri bwyd allan, cael anhawster llyncu neu ddangos anadlu llafurus. Yn aml mae gan teulu’r linosiaid blu gwlyb wedi'i fatio o amgylch yr wyneb a'r pig, a bwyd heb ei fwyta yn y pig ac o'i gwmpas. Weithiau mae'n bosibl gweld chwyddo yn ardal gwddf aderyn heintiedig.

Trichomonosis yw prif achos gostyngiad o 79% yn nifer y llinos werdd yng Nghymru dros y 10 mlynedd diwethaf, a gostyngiad o 38% yn y ji-binc, felly gallai gostyngiad tebyg fod yn drychinebus i boblogaeth y gylfinbraff.

Beth y gallwn ei wneud?

Er mwyn atal y clefyd hwn rhag lledu, ym mis Gorffennaf, we wnaethom annog annog pobl sy’n byw ym Meirionnydd, gan gynnwys trefi Blaenau Ffestiniog, y Bala, Penrhyndeudraeth ac Abermaw i roi’r gorau i ddarparu bwyd adar mewn gerddi am weddill yr haf ac i roi’r gorau i ddarparu dŵr i adar ar unrhyw adeg. Roedd hyn yn annog yr adar i wasgaru ar draws cefn gwlad, lle maent yn llai tebygol o drosglwyddo’r clefyd i’w gilydd. Hoffwn ddiolch i bawb am eich cydweithrediad a'ch amynedd yn ystod y cyfnod yma.

Rydym yn annog pawb sydd yn byw ym Meirionnydd i barhau i beidio â rhoi bwyd/dŵr i adar yn eu gerddi tan ddiwedd mis Medi. gan fod yna ddigon o ffynonellau bwyd a dŵr naturiol o gwmpas dros yr wythnosau nesaf, nid oes angen darparu bwyd i adar mewn gerddi. Hefyd, mi fydd hyn yn helpu i atal lledaeniad yr afiechyd ac yn rhoi gwell siawns i'r gylfinbraff ag adar eraill oroesi. 

I ddysgu mwy am bwysigrwydd cadw offer bwydo adar yn lân ac am ragor o awgrymiadau ar sut i atal clefydau adar rhag lledaenu, cliciwch ar y ddolen hon.