Pum peth efallai na wyddoch chi am y gylfinbraff

English version available here

Aderyn dirgel yw'r gylfinbraff ac un sy'n aml iawn yn hawdd i'w fethu. Mae'n aderyn hynod ddiddorol sy'n byw mewn rhai rhannau o Gymru a hi, o bell ffordd, yw llinos fwyaf y Deyrnas Unedig.

Mae gan y gylfinbraff silwét pendrwm a phlu lliw rhydlyd, oren-frown yn bennaf, gyda chefn brown tywyll a darn bach du ar waelod y pig. Maen nhw'n adar hynod o swil ac yn treulio llawer o'u hamser yn guddiedig yn uchel yng nghanopi'r goedwig lle maen nhw'n gallu bod yn anodd iawn i'w gweld.

O ystyried hyn, dyma bum peth efallai nad oeddech chi'n eu gwybod am y gylfinbraff.

1. Mae gan y gylfinbraff big enfawr sy'n ddigon grymus i hollti hadau ywen, cerrig ceirios a ffawydd. Gall ên y gylfinbraff wasgu â grym mil gwaith ei bwysau ei hun, sy'n gyfwerth ag 150 pwys y fodfedd sgwâr.



2. Mae gan ylfinbraffau alwad eithriadol o wan a thawel maen nhw’n ei yngan wrth hedfan. Golyga hyn ei fod yn rhwydd iawn peidio sylwi arnynt. Mae'r galwad hwnnw yn swnio fel 'tic' stacato, tebyg iawn i fronfraith neu robin goch. Os ydych chi'n gobeithio dod o hyd i ylfinbraff mae'n werth gwybod bod adnabod y galwad hwn yn ffordd dda o ddod o hyd i'r adar swil hyn. Gwrandewch arno yn fan hyn.

3. Mae gylfinbraffau ar y rhestr goch (statws cadwraeth y DU), sy'n golygu eu bod yn adar o'r flaenoriaeth gadwraeth uchaf sydd angen gweithredu ar frys i sicrhau eu dyfodol. Mae niferoedd gylfinbraffau wedi syrthio mewn nifer o fannau wedi i gyflwr eu cynefinoedd nythu waethygu. Mae'r RSPB wedi gweithio ochr yn ochr â phartneriaid eraill i ddod o hyd i'r mesurau cadwraethol gorau i'w helpu.

4. Mae gylfinbraffau ymhlith yr adar anoddaf i'w gweld yng Nghymru. Maen nhw'n nythu'n flynyddol mewn rhai rhannau o Gymru ond mae'n gallu bod yn anhygoel o anodd dod o hyd iddynt yn yr haf. Maen nhw'n tueddu i fod yn haws i'w gweld yn y gaeaf pan fydd mwy ohonynt yn y wlad wrth i adar fudo yma o'r cyfandir a bod llai o leoedd iddynt guddio. Fe ddewch chi o hyd i ylfinbraffau mewn coetiroedd llydanddail aeddfed mawr lle maen nhw'n ffafrio ardaloedd â llennyrch agored. Edrychwch ar yr erthygl hon i gael awgrymiadau am ba bryd a ble i ddod o hyd iddynt.

5. Mae staff a gwirfoddolwyr yr RSPB Cymru wedi modrwyo dros 800 o adar yn Nolgellau, gyda modrwyo hefyd yn digwydd yng Ngwent. Mae'r boblogaeth o ylfinbraffau yn Sir Feirionnydd yng ngogledd Cymru yn cael ei hystyried ymhlith y pum prif boblogaeth yn y DU. Bydd modrwyo'r adar hyn yn ein helpu i ddarganfod mwy am eu symudiadau a sicrhau bod ganddynt ddyfodol mwy llewyrchus yng Nghymru.



Yn ogystal â dioddef yn sgil colli cynefinoedd, mae gylfinbraffau hefyd dan fygythiad gan glefyd o'r enw Trichmonosis. Er mwyn helpu i atal y clefyd hwn rhag lledaenu, ceisiwch beidio â bwydo adar yr ardd, na chyflenwi dŵr yfed ac ymolchi iddynt, pan welwch adar wedi'u heintio. Cofiwch y rheol euraidd - mae hi bob amser yn bwysig sicrhau bod eich bwrdd a bwydwyr adar yn lan a'ch bod chi'n eu golchi yn rheolaidd.

I ddarganfod mwy am ylfinbraffau a sut y gallwch chi helpu'r adar diddorol hyn, cliciwch yma.

Ffotograffau (o'r top i'r gwaelod):

Ben Andrew (rspb-images.com)
Les Bunyan (rspb-images.com)
Andy Hay (rspb-images.com)